Neidio i'r prif gynnwy

1. OTFW, beth sy'n digwydd?

Ar 17 Ionawr 2022, bydd yr holl achosion newydd o TB ledled Cymru, gyda dim ond dau eithriad a restrir isod, yn cael eu diffinio fel Statws Heb TB swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW).

2. Pam mae'r newid hwn yn cael ei gyflwyno?

Nodau'r newid arfaethedig yw cynyddu'r tebygolrwydd o bennu anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n wirioneddol a sicrhau bod gwaith dehongli profion yn arwain at negeseuon symlach a bod y polisi yn cael ei gyfathrebu'n glir.  

3. Beth am y buchesi OTFS presennol?

Bydd buchesi OTFS lle dechreuodd yr achosion cyn 17 Ionawr 2022 yn parhau i fod yn OTFS oni ddatgelir unrhyw adweithydd prawf croen pellach, neu fod ffactorau risg epidemiolegol yn berthnasol.

Mae gan APHA hefyd ddisgresiwn i drosi unrhyw fuches o statws OTFS i statws OTFW, yn amodol ar ddisgresiwn Milfeddygol Arweiniol Cymru.

4. Beth yw'r eithriadau?

Yr unig ddau eithriad, a fydd yn parhau i gael eu categoreiddio’n OTFS, yw:

  • Buchesi OTFS lle mae un neu fwy o achosion(au) lladd-dy tybiedig wedi'u datgelu ac mae canlyniadau meithriniad yn dal i fod yn yr arfaeth.
  • Achosion mewn buchesi lle mae anifeiliaid nad ydynt wedi’u magu ar y fferm yn ymateb yn bositif i brofion gwrthgyrff Interfferon-gamma a/neu IDEXX yn unig (h.y. dim adweithyddion croen) wedi'u datgelu ac nid yw'r clefyd wedi'i gadarnhau ar ganlyniadau PME/meithriniad.

Ar gyfer y ddau eithriad hyn, bydd y fuches OTFS yn newid i fod yn OTFW os:

  • datgelir un neu fwy o adweithyddion prawf croen mewn unrhyw brawf dilynol, fel arfer Cyfnod Byr (OS) neu Brofion Gwirio (CT);
  • mae achosion lladd-dai yn bositif o ran meithriniad;
  • ceir briwiau amlwg yn PME a/neu mae canlyniadau meithriniad yn bositif ar gyfer dadansoddiadau lle mae anifeiliaid nad ydynt wedi’u magu ar y fferm yn Interfferon-gamma a/neu IDEXX yn bositif yn unig.

Bydd angen rheoli pob achos yn yr un modd, sy'n golygu na fydd unrhyw achosion o TB yn cael eu rheoli fel rhai Statws heb TB Swyddogol wedi’i atal (OTFS), oni bai eu bod o ganlyniad i achos mewn lladd-dy, neu ganlyniad positif i brawf gwaed (gwyliadwriaeth ychwanegol yng Ngogledd Cymru).

Profi

5. Sut bydd y profi yn gweithio?

Yn achos OTFW, bydd yn ofynnol i'r Prawf Cyfnpd Byr cyntaf gael ei ddehongli'n ddifrifol ac, os yw'n glir, yr ail yn safonol neu ddifrifol.

O ran datgelu adweithydd wrth ddarllen o dan amodau safonol, bydd y prawf yn cael ei ail-ddehongli ar unwaith fel canlyniad safonol gan y swyddog milfeddygol.

6. Sut mae buches OTFW yn adennill ei statws OTF?

Mae angen dau Brawf Cyfnod Byr clir (SIT) i adennill statws OTF.