Gall TB buchol effeithio ar bob mathau o famaliaid gan gynnwys pobl, anifeiliaid a ffermir, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt.
Moch daear a cheirw gwyllt yw'r prif rywogaethau o anifeiliaid gwyllt y bernir y gallent beri risg o ran TB i fuchesi gwartheg.
Gallai'r anifeiliaid hyn, yn ogystal â gwartheg, gael eu heintio ar ffermydd:
- camelidau (alpacas, lamas, gwanacos, vicunas)
- geifr
- ceirw fferm
- moch
- defaid.
Mae rhai o'r rhywogaethau hyn yn llai tebygol nag eraill o achosi i'r clefyd ledu.
O ran anifeiliaid anwes, mae achosion o TB wedi'u cadarnhau mewn cathod.
Mae gwartheg yn gallu dal haint trwy ddod i gysylltiad ag anifeiliaid heintiedig eraill.
Moch daear
Mae haint yn gallu cael ei drosglwyddo:
- o wartheg i wartheg
- o foch daear i foch daear
- o wartheg i foch daear
- o foch daear i wartheg
Nid ydym yn gwybod beth yw cyfradd yr achosion o TB sy'n cael eu lledu rhwng gwartheg a moch daear ac i'r gwrthwyneb. Nid ydym yn gwybod ychwaith sut y caiff yr haint ei drosglwyddo rhwng y rhywogaethau hyn.
Gall lefelau TB mewn moch daear yng Nghymru amrywio o 20% mewn rhannau o Ddwyrain Cymru i <1% mewn rhannau o Ogledd Cymru. Gan amlaf mae'r straen (genoteip) o TB a ganfyddir mewn moch daear o fewn ardal yn cyfateb i'r straen a ganfyddir mewn gwartheg o fewn buchesi sydd wedi'u heintio â TB.
Nid yw moch daear a gwartheg yn debygol o ddod i gysylltiad â'i gilydd ar dir pori yn aml iawn. Eto i gyd, fodd bynnag, bydd gan foch daear fynediad at gafnau dŵr a bwyd a gedwir ar lefel isel mewn caeau. Gallai gwartheg pori ddod i gysylltiad agos â brochfeydd moch daear a charthfeydd. Mae moch daear wedi cael eu gweld yn mynd i dai allan ar ffermydd i ddwyn bwyd a sarn gwartheg.
Dylai camau bioddiogelwch gael eu cymryd er mwyn gwarchod eich da byw, fel nad ydynt yn cael eu heintio â TB gan foch daear.
Darganfyddwch fwy am TB mewn anifeiliaid anwes domestig ar gov.uk.