Os byddwch yn mynd â’ch gwartheg i fwy nag un sioe amaethyddol y tu allan yr Ardal TB Isel, gallwch ddefnyddio uned gwarantîn.
Gwartheg sy'n cael eu symud i'r Ardal TB Isel o'r tu allan i'r Ardal TB Isel
Os bydd gwartheg yn cael eu symud i ddaliad yn yr Ardal TB Isel o'r tu allan i'r ardal honno, fel arfer bydd angen cynnal prawf ar ôl symud. Bydd angen cynnal y prawf rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl symud y gwartheg, a rhaid eu cadw ar y daliad nes eu bod yn cael y prawf.
Gwartheg sy'n cael eu symud i sioe y tu allan i'r Ardal TB Isel o'r Ardal TB Isel
Os bydd ceidwad yn yr Ardal TB Isel am fynd â’i wartheg i nifer o sioeau amaethyddol y tu allan i'r ardal, gall ddefnyddio uned gwarantîn. Trwy eu cadw mewn uned gwarantîn, ni fydd angen prawf ar ôl symud arnyn nhw bob tro y byddan nhw'n gadael ac yn dod yn ôl i'r daliad.
Bydd y gwartheg fydd yn cael eu cadw yn yr uned gwarantîn yn cael eu cadw ar wahân i weddill yr anifeiliaid ar y daliad. Mae hyn yn golygu y cewch symud eich gwartheg o'r uned gwarantîn ac yn ôl iddi o sioeau amaethyddol nifer o weithiau. Bydd dal gofyn iddyn nhw gael canlyniad clir i brawf ar ôl symud rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl mynd y tro cyntaf i'r uned gwarantîn. Ond fe fyddan nhw'n cael symud i ac o sioeau tra'n aros am ganlyniad y prawf.
Ar ôl dychwelyd o'r sioe olaf, bydd angen cynnal prawf ar ôl symud rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl y symudiad. Ar ôl y prawf, byddan nhw'n cael gadael yr uned gwarantîn a mynd yn ôl i'r prif ddaliad.