Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau a gwybodaeth bellach mewn perthynas â Phrofion cyn Symud a Phrofion ar ôl Symud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Drwy gydol y canllawiau hyn, mae'r term 'gwartheg' yn cynnwys beison a byfflos dŵr Asia a ffermir.

Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at wartheg yng Nghymru yn symud i ac o fuchesi heb gyfyngiadau. h.y. buchesi sy'n rhydd rhag TB yn swyddogol. 

Mae 'marchnad werdd' yn farchnad y mae anifeiliaid yn cael eu hanfon iddi i'w masnachu lle y gallan nhw wedyn gael eu symud i fuchesi heb gyfyngiadau. 

Gallwch ddarganfod mwy yn TB Buchol: profion cyn symud ac ôl-symudiad ym Mhrydain Fawr (ar gov.uk).

Gallwch ddod o hyd i grynodeb o pryd mae angen profion cyn ac ar ôl symud yn: TB buchol: crynodeb profi cyn ac ar ôl symud.

Profion cyn Symud

Mae angen i bob anifail sy'n symud o ddaliad heb gyfyngiadau yng Nghymru fod wedi cael canlyniad clir i brawf cyn symud o fewn y 60 diwrnod cyn symud. Mae hyn oni bai bod yr anifail o dan 42 diwrnod oed, neu os yw'r symud yn esempt. Mae canlyniadau PrMT clir yn ddilys am 60 diwrnod (neu 30 diwrnod ar gyfer symud i'r Alban), o ddyddiad y pigiad ar gyfer y prawf croen, sef diwrnod sero y cyfnod 60 diwrnod. Y diwrnod ar ôl y pigiad yw diwrnod un ac yn y blaen. Rhaid i wartheg sy'n gadael y fferm gael PrMT dilys ar y diwrnod y bydd y gwartheg yn symud i ffwrdd. Os yw'r symudiad drwy farchnad, rhaid i'r gwartheg gael PrMT dilys ar y diwrnod y bydd y gwartheg yn gadael y farchnad.

Nid oes angen PrMT ar loi o dan 42 diwrnod oed (h.y. 41 diwrnod neu lai). Wrth gyfrifo'r dyddiad y daw llo yn gymwys i gael prawf cyn symud, dyddiad geni'r llo yw diwrnod sero. Y diwrnod ar ôl y geni yw diwrnod un ac yn y blaen. Rhaid i loi sy'n gadael y fferm heb PrMT fod yn 41 diwrnod oed neu lai ar y diwrnod y bydd y lloi'n symud i ffwrdd. Os yw'r symudiad trwy farchnad, rhaid i'r lloi fod yn 41 diwrnod oed neu lai ar y diwrnod y bydd y lloi yn gadael y farchnad. 

Nid oes angen prawf cyn symud, ar gyfer y mathau o symudiadau a ganlyn:

  • i le ar gyfer triniaeth filfeddygol e.e. milfeddygfa, cyn belled â bod yr anifail:
    • yn cael ei ddychwelyd ar ôl y driniaeth
    • yn cael ei ladd, neu 
    • yn mynd yn syth i gael ei ladd
  • i ladd-dy neu ganolfan ymgynnull neu gasglu lle mae pob anifail yn cael ei anfon i'w ladd
  • yn dychwelyd o farchnad i fferm pan nad yw'r anifail wedi cael ei werthu (DS.  rhaid bod anifail wedi cael prawf cyn symud cyn symud i 'farchnad werdd'.  Mae hyn yn sicrhau y gall anifail ddychwelyd i'r fferm heb gael prawf arall)
  • i uned besgi esempt (EFU) yn Lloegr, naill ai'n uniongyrchol neu drwy farchnad esempt yng Nghymru neu Loegr
  • yn uniongyrchol i Uned Gorffen Gymeradwy (AFU) yng Nghymru, Lloegr neu Gymru
  • i sioe amaethyddol nad yw'n golygu aros am fwy na 24 awr na chadw’r anifail hwnnw mewn sied ar faes y sioe. Mae hyn cyhyd â'r anifail naill ai:
    • o mynd yn uniongyrchol o'r sioe i gael ei ladd 
    • yn cael ei ddychwelyd i'r fferm ar ôl y sioe

Cyfeirir at y rhain fel 'sioeau esempt'. (Sylwer: yng Nghymru ystyrir bod pebyll (hyd yn oed os nad oes iddyn nhw ochrau) yr un fath â sied)

Prawf preifat yw prawf cyn symud a drefnir gan y ffermwr gyda'i filfeddyg ac y telir amdano gan y ffermwr. Gellir ystyried profion y telir amdanynt gan y Llywodraeth hefyd yn brofion cyn symud, pan fyddan nhw'n bodloni'r gofynion profi.

Marchnadoedd

Mae angen prawf cyn symud ar bob anifail sy'n 42 diwrnod oed neu’n hŷn yng Nghymru sy'n symud i farchnad 'werdd', cyn iddo adael y fferm. Nid oes angen prawf arall cyn gadael y farchnad 'werdd'.

Mae angen PrMT ar bob anifail 42 diwrnod oed a hŷn yng Nghymru sy'n symud i farchnad "wyrdd", cyn iddynt adael y fferm. Rhaidi wartheg gael PrMT dilys ar y diwrnod y bydd y gwartheg yn gadael y farchnad oni bai bod yr anifail yn dychwelyd i'r fferm y daeth ohoni.

Profion cyn symud a thir comin

Mae profi gwartheg sy'n symud i dir comin ac oddi yno yn bwysig, gan fod gwartheg o fwy nag un fuches yn gallu cymysgu ar dir comin, gan gynyddu'r potensial i TB ledaenu. Ar gyfer ffermwyr: 

  • sydd â hawliau pori, ac 
  • sydd â dir yn gyfagos â thir comin, a, ac 
  • y mae eu tir comin wedi'i gynnwys yn y daliad

efallai na fydd profion TB yn ymarferol pan fydd y gwartheg ar y tir comin. Gellir caniatáu symud yn ôl i'r prif daliad o dan drwydded wedi'i chyhoeddi gan APHA, cyn belled â bod yr amodau'n cael eu bodloni. Gallai’r amodau hyn gynnwys y canlynol: 

  • rhaid cynnal prawf TB cyn gynted â phosibl ac o fewn 60 diwrnod ar ôl i’r gwartheg gael eu symud yn ôl o’r tir comin, a
  • mae’n rhaid i’r gwartheg gael eu cadw ar wahân i anifeiliaid buchol eraill (a cheirw) ar y daliad hyd nes y byddan nhw wedi cael eu profi, neu
  • mae’n rhaid i’r fuches gyfan gael ei phrofi bob chwe mis.

Cysylltwch â Gwasanaeth Maes APHA Cymru ar 0300 303 8268 i gael rhagor o wybodaeth. 

Pan fo'r ceidwad gwartheg yn unig borwr gwartheg y tir comin (cyfagos ai peidio) ac mae wedi'i uno â'r prif leoliad cynhyrchu (PPL), ystyrir bod y tir comin yn rhan o'r daliad. Felly nid oes angen profion cyn symud.

Rydym wedi cyhoeddi Trwydded Gyffredinol: TB Gwartheg: symud gwartheg sydd ddim wedi cael prawf TB cyn symud nac ar ôl symud, i neu o dir comin. Mae hyn yn esemptio symudiadau rhwng prif ddaliad a thir comin cyfagos rhag profion cyn symud pan fo'r ceidwad gwartheg yn unig borwr gwartheg y tir comin cyfagos sydd wedi'i uno â'r PPL.

Profion cyn-symud a sioeau heb eu heithrio

Mae angen i brawf cyn symud clir gynnwys symud i sioe heb ei heithrio, y cyfnod y mae'n byw ar faes y sioe a'r diwrnod y mae'n symud o faes y sioe. Mae gwartheg sy'n symud i'r sioe o Ardal Risg Isel Lloegr a'r Alban yn dod o dan drwydded gyffredinol sy'n eu heithrio rhag gofynion profi cyn symud ar faes y sioe. Mae amodau'r drwydded gyffredinol i'w gweld yn: TB gwartheg: symud gwartheg o sioe heb ei heithrio sy’n tarddu o fuches sydd wedi’i lleoli yn Ardal Risg Isel Lloegr neu’r Alban. Ond mae rhai sioeau heb eu heithrio yng Nghymru yn gofyn am brawf cyn symud ar gyfer yr holl wartheg sy'n dod i mewn i'r sioe. 

Monitro cydymffurfedd

Mae Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn monitro cydymffurfedd â'r rheolau. Maen nhw'n rhoi gwybod i Awdurdodau Lleol os ydyn nhw'n credu nad yw ceidwaid wedi cynnal PrMT pan ddylen nhw gael.

Profion ar ôl symud (PoMT)

Mae angen prawf ar ôl symud ar bob anifail o fewn y cyfnod 60–120 diwrnod ar ôl cyrraedd daliad, pan fyddan nhw'n cael eu symud i:

  • yr Ardal TB Isel yng Nghymru o:
    • Ardal TB Ganolradd neu Ardal TB Uchel yng Nghymru 
    • Yr Ardal Ffiniol neu Ardal Risg Uchel yn Lloegr
    • Gogledd Iwerddon
  • yr Ardal TB Isel yng Nghymru o:
    • Ardal TB Ganolradd neu Ardal TB Uchel yng Nghymru 
    • Yr Ardal Ffiniol neu Ardal Risg Uchel yn Lloegr
    • Gogledd IwerddonArdal TB Uchel yng Nghymru

Pan fydd llo (o dan 42 diwrnod) yn cael ei brynu o Ardal Risg Uchel a'i symud i'r Ardal TB Isel neu Ardal TB Ganolradd, yna mae'n ofynnol i'r prynwr gynnal prawf ar ôl symud ar y llo 60–120 diwrnod ar ôl iddo gael ei symud. 

Pan fydd anifail yn gymwys i gael prawf ar ôl symud, ni ellir ei symud ymlaen heb ganlyniad clir i brawf ar ôl symud oni bai ei fod yn cael ei symud o'r fferm: 

  • i ladd-dy neu ganolfan ymgynnull neu gasglu lle mae pob anifail yn cael ei anfon i'w ladd
  • i uned besgi gymeradwy (AFU) yng Nghymru neu Loegr, neu 
  • o dan drwydded symud oddi wrth APHA neu arolygydd awdurdod lleol

Os yw unrhyw anifail yn cael ei symud o fferm, nid oes angen prawf ar ôl symud ar y safle cyrchfan, pan fydd y symud:

  • i ladd-dy neu ganolfan ymgynnull neu gasglu lle mae pob anifail yn cael ei anfon i'w ladd
  • i le ar gyfer triniaeth filfeddygol e.e. milfeddyg cyn belled â'i fod yn:
    • dychwelyd i’r fferm ar ôl y driniaeth
    • yn cael ei ladd, neu 
    • yn mynd yn syth i gael ei ladd
  • i uned besgi esempt yn Lloegr, naill ai'n uniongyrchol neu' anuniongyrchol drwy farchnad esempt yng Nghymru neu Loegr
  • i uned besgi gymeradwy yng Nghymru neu Loegr
  • uned besgi drwyddedig yng Nghymru, neu yn Lloegr
  • i sioe amaethyddol nad yw'n golygu aros am fwy na 24 awr na lletya'r anifail hwnnw ar faes y sioe. Mae hyn cyn belled â bod yr anifail naill ai'n mynd yn uniongyrchol o'r sioe i gael ei ladd neu'n cael ei ddychwelyd i'r fferm yn uniongyrchol ar ôl y sioe. Cyfeirir at y rhain fel 'sioeau esempt. (Sylwer: yng Nghymru ystyrir bod pebyll (hyd yn oed os nad oes iddyn nhw ochrau) yr un fath â sied)
  • i sioe amaethyddol nad ystyrir ei bod yn esempt am y rheswm uchod, ond lle mae'r gwartheg yn cael eu symud i mewn ac allan o uned cwarantin ardystiedig yn ystod tymor sioe.

Nid oes angen prawf ar ôl symud pan fydd anifail yn cael ei dderbyn ar safle yn yr Ardal TB Isel, neu'r Ardaloedd TB Canolradd yng Nghymru o:

Prawf preifat yw prawf cyn symud a drefnir gan y ffermwr gyda'i filfeddyg ac y telir amdano gan y ffermwr. Gellir ystyried profion y telir amdanynt gan y Llywodraeth hefyd yn brofion cyn symud, pan fyddan nhw'n bodloni'r gofynion profi.

CHeCS

Rhoddir achrediad lefel 10 CHeCS i wartheg a anwyd ar y daliad yn unig, Mae hyn yn cydnabod bod y buchesi hynny, nad ydyn nhw wedi cael achos o TB ers deng mlynedd neu ragor, yn peri llai o risg. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hefyd yn annog ragor o bobl i gymryd rhan yn y cynlluniau iechyd TB. Sylwer: nifer o wahaniaethau rhwng rhaglen CHeCS a’r rheolaethau TB statudol. Argymhellir bod buchesi sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn sicrhau bod pob anifail sydd i’w ychwanegu at y fuches yn cael ei ynysu pan fydd yn cyrraedd, a gall fod angen gwneud profion ychwanegol cyn ac ar ôl symud hefyd. Nid yw’r esemptiad hwn yn effeithio ar ofynion profi CHeCS. Mae rhagor o wybodaeth am safonau a phrotocolau ar gael ar: www.checs.co.uk.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â CHeCS, dylech drafod hynny gyda'ch milfeddyg a chysylltu ag un o ddarparwyr y cynllun:

  • Cynllun Iechyd Gwartheg Aber
    Canolfan Milfeddygaeth Cymru
    Y Buarth
    Aberystwyth
    Ceredigion 
    SY23 1ND 
    Cynllun Iechyd Gwartheg AFBI (www.checs.co.uk
    Ffôn:01970 612374, E-bost: enquiries@wvsc.cymru
  • HiHealth Herdcare
    Ffôn: 01314 402628 
  • Cynllun Iechyd Gwartheg Premiwm (www.checs.co.uk)
    Ffôn: 01835 822456

Deall pan fydd angen prawf ar ôl symud ar anifail a brynwyd

Cyfrifoldeb y ffermwr prynu yw cynnal prawf ar ôl symud ar unrhyw anifeiliaid cymwys. Gallwch ddefnyddio:

deall ardal TB lle mae anifail a brynwyd yn tarddu. Mae APHA yn anfon llythyr cynghorol misol at ffermwyr sydd wedi symud gwartheg ymlaen, y mae angen prawf ar ôl symud arnyn nhw, yn ôl pob golwg, ond mae'n bosibl na fydd hyn yn nodi pob anifail y mae angen prawf arno. 

Monitro cydymffurfedd

Mae Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn monitro cydymffurfedd â'r rheolau. Maen nhw'n rhoi gwybod i Awdurdodau Lleol os ydyn nhw'n credu nad yw ceidwaid wedi cynnal prawf ar ôl symud pan ddylen nhw gael.

Cynnal prawf olrhain ar anifail sydd eisoes wedi cael prawf ar ôl symud â chanlyniadau negyddol 

Os cafodd unrhyw brawf ei gwblhau lai na 120 diwrnod ers i’r anifail gael ei symud o ddaliad sydd wedi cael ei heintio â TB, mae’n rhaid i’r anifail gael ei ailbrofi ar ôl i 120 diwrnod fynd heibio (ac o leiaf 60 diwrnod ar ôl unrhyw brawf blaenorol). Hwn:

  • cynyddu ein siawns o adnabod gwartheg sydd wedi'u heintio â TB cyn gynted â phosibl
  • lleihau'r tebygolrwydd o drosglwyddo'r clefyd ymlaen i anifeiliaid preswyl, a 
  • lleihau'r effaith yn y fuches

Profion ar ôl symud ac anifeiliaid nad ydyn nhw wedi cael eu gwerthu yn y farchnad yn dychwelyd i'r fferm

Mae marchnadoedd wedi cael eu dynodi’n ardaloedd niwtral. Felly, ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar y marchnadoedd lle y gall ffermwyr o ardaloedd gwahanol fynd â’u hanifeiliaid i’w gwerthu neu fynd i brynu anifeiliaid. Nid oes angen prawf ar ôl symud ar anifeiliaid heb eu gwerthu mewn 'marchnad werdd' pan fyddan nhw'n dychwelyd i'r Ardal TB Isel na'r Ardaloedd TB Canolradd. 

Gofynion profi ar ôl symud ar gyfer gwartheg sy'n dychwelyd o sioe amaethyddol nad yw'n esempt 

Sioe nad yw'n esempt yw sioe sy'n hirach na 24 awr, neu sioe sy'n 24 awr neu lai ond lle mae gwartheg yn cael eu cadw mewn siediau. Mae angen i wartheg cymwys gael prawf ar ôl symud 60–120 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r fferm, neu symud i fferm arall yn yr Ardal TB Isel, neu mewn Ardal TB Ganolradd, o sioe nad yw'n esempt oni bai bod y gwartheg yn cael eu symud i uned gwarantin ardystiedig yn ystod tymor sioeau. 

Nid oes angen prawf ar ôl symud ar faes sioe yng Nghymru sydd heb ei eithrio. Mae hyn wedi'i eithrio gan drwydded gyffredinol: TB Gwartheg: symud gwartheg o sioe heb ei heithrio yn yr ardaloedd TB isel neu TB canolraddol cyn cwblhau prawf ar ôl symud. Mae'n ofynnol i wartheg sy'n symud o ardal TB risg uwch i sioe heb ei heithrio ac yna i ardal TB risg is gael eu profi ar ôl eu symud.

Ni chaniateir i anifeiliaid, sydd angen prawf ôl-symud ar ôl dychwelyd o sioe nad yw'n esempt mewn ardal TB Uchel i'r Ardal TB Isel, neu i Ardal TB Ganolradd, symud i sioeau esempt a sioeau nad ydyn nhw'n esempt yn ystod y tymor, oni bai eu bod: 

  • wedi cael canlyniad clir i brawf ar ôl symud, neu
  • yn symud i uned gwarantîn ardystiedig, a’u bod yn aros yn yr uned gwarantin (pan na fyddan nhw mewn sioe) drwy gydol y tymor sioeau nes bod prawf ar ôl symud terfynol yn rhoi canlyniad clir. Bydd angen prawf ar ôl symud 60–120 diwrnod ar ôl y symud cychwynnol yn ôl i'r uned gwarantin o sioe nad yw'n esempt sydd wedi'i lleoli mewn ardal risg uchel. Rhaid symud gwartheg allan o’r uned gwarantin yn syth ar ôl bodloni’r gofynion o ran profion ar ôl symud

Caniateir symud gwartheg sioe o'r Ardal TB Isel ac Ardaloedd TB Canolradd i sioeau amaethyddol ac ohonyn nhw, ac yn ôl i uned gwarantin, o dan drwydded gyffredinol. Mae amodau'r drwydded gyffredinol i’w gweld yn: TB gwartheg: symud gwartheg i sioe heb ei heithrio o Uned Cwarantin ardystiedig.

Mae'r amodau’n cynnwys gofyniad i hysbysu APHA am y tro cyntaf a'r tro olaf mae anifail buchol yn cael ei symud i'r uned gwarantin. Mae’n rhaid i’r symudiad olaf yn ôl i'r uned gwarantîn ddigwydd o fewn yr un flwyddyn galendr â’r symudiad cyntaf i mewn iddi, er mwyn sicrhau bod prawf ar ôl symud terfynol yn cael ei gwblhau. Gallai archwiliadau ar hap er mwyn sicrhau bod y gwartheg yn cael eu cadw yn yr uned gwarantin gael eu cynnal gan APHA. Gall unrhyw achos o dorri amodau'r drwydded arwain at ddirymu'r drwydded ar gyfer daliad unigol am gyfnod penodol. 

Bydd defnyddio uned gwarantîn yn diogelu eich buches a lleihau’r risg y bydd y clefyd yn lledaenu yn yr Ardal TB Isel neu mewn Ardal TB Ganolradd cyn cwblhau prawf ar ôl Symud. Fel arall, ni fyddai'r ceidwad yn cael mynd â’i wartheg i nifer o sioeau yn y tymor sioeau, gan fod rhaid i anifeiliaid aros ar y daliad nes cael canlyniad clir i brawf ar ôl symud. 

Ni ddylai anifeiliaid gael eu cymysgu o fewn yr uned gwarantin pan fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer anifeiliaid sioe. Mae hyn yn golygu bod defaid a gwartheg sy’n symud i’r fferm neu oddi yno, yn ôl yr arfer, naill ai’n ysgogi’r rheol chwe diwrnod ar wahardd symud neu’n symud drwy uned gwarantin ar wahân. Byddai hyn yn cynnwys defaid a geifr sioe. Rydyn ni'n cydnabod y gallai fod risg ynghlwm wrth symud anifeiliaid. Ein cyngor ni yw peidio â chymysgu rhywogaethau yn ystod y broses symud pan fo hynny’n ymarferol. Mae caniatáu i ddefaid fynd i mewn i’r un uned gwarantin â’r gwartheg sioe yn estyn y cyfnod cyswllt.

Ni chaniateir i anifeiliaid sy’n llaetha adael uned gwarantîn i gael eu godro. ac ni chaniateir rhannu cyfleusterau godro rhwng anifeiliaid sydd mewn cwarantin ac anifeiliaid nad ydyn nhw mewn cwarantîn. Os yw anifeiliaid godro yn mynd i’r uned gwarantin, gellir defnyddio cyfleusterau godro dros dro sy’n cael eu neilltuo ar gyfer yr uned gwarantin yn unig. Ni ddylid symud unrhyw offer cludadwy yn cael ei symud o’r uned honno cyn iddo gael ei lanhau a’i ddiheintio’n drylwyr. Ceir gwerthu llaeth yr anifeiliaid yn yr uned gwarantîn yn y ffordd arferol, ond rhaid peidio â’i fwydo i anifeiliaid eraill ar y prif ddaliad (gan gynnwys cathod a chŵn). 

Unedau Cwarantin Ardystiedig

Mae uned gwarantin sydd wedi’i hardystio gan gorff ardystio yn fath arbennig o gyfleuster ynysu, wedi’i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer gwartheg, defaid neu eifr sy’n symud i ddaliad i ddarparu llety tymor byr. Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes angen i’r daliad cyfan gael ei atal rhag symud anifeiliaid am chwe diwrnod. Maen nhw'n gweithredu rheolau a gofynion penodol i atal unrhyw gysylltiad ag anifeiliaid eraill ar y daliad ac yn cael eu cymeradwyo gan gorff ardystio. Mae uned gwarantin ardystiedig yn rhoi lefel briodol o fioddiogelwch. Maen nhw'n cael eu harchwilio, i sicrhau bod safonau’n cael eu cadw a’u bod yn cael eu defnyddio fel y dylent fod.

O dan y Drwydded Gyffredinol: TB gwartheg: symud gwartheg i sioe heb ei heithrio o Uned Cwarantin ardystiedig, pan gânt eu defnyddio ar gyfer symud gwartheg i ac o sioeau nad ydynt nhw'n esempt yn yr Ardal TB Isel, rhaid i uned gwarantin ardystiedig gynnwys dim ond gwartheg tebyg sy’n symud i sioeau esempt ac oddi yno. 

Mae’n bosibl bod gofynion unedau cwarantin ardystiedig a’r rheolau gweithredu’n debyg i’r rhai hynny ar gyfer cyfleusterau ynysu eraill, gan ddibynnu ar: 

  • ddefnydd a gofynion y cyfleusterau ynysu hynny, ac 
  • a ydyn nhw'n rhan o ofyniad ar gyfer cynllun, megis Cynlluniau Iechyd TB mewn Gwartheg y diwydiant sy’n gweithredu o dan CHeCS

Rhaid i unedau cwarantîn gael eu hardystio gan gorff ardystio a achredwyd gan Wasanaeth Achredu'r DU (UKAS). Ar hyn o bryd, mae un corff ardystio a achredir i ardystio unedau cwarantîn: 

Quality Welsh Food Certification Ltd
Ebost: info@qwfc.co.uk 
Ffôn: 01970 636 688 

Bydd y corff ardystio yn gallu rhoi'r rheolau gweithredol a'r safonau ar gyfer uned cwarantin ichi. Ar ôl ichi sefydlu eich uned gwarantin yn unol â’r safonau hyn, dylech gysylltu â’r corff ardystio i drefnu iddo adolygu ac ardystio’r uned. Codir ffi gan gyrff ardystio am y gwasanaeth hwn.