Neidio i'r prif gynnwy

Mae Information bTB (ibTB) yn declyn mapio rhyngweithiol ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Information bTB (ibTB) yn declyn mapio rhyngweithiol ar-lein. Bydd yn helpu ffermwyr gwartheg a’u milfeddygon i ddeall lefel y TB buchol yn eu hardal. Mae’r map yn dangos lleoliadau’r holl ddadansoddiadau o TB yng Nghymru a Lloegr. Defnyddiwch y map i wybod mwy am TB buchol yn eich ardal leol, a phan ydych yn prynu gwartheg. Caiff y map ei ddiweddaru bob pythefnos ac mae amrywiaeth o ffyrdd o ddewis a gweld y data.

Mae ibTB wedi’i wella’n ddiweddar i ddangos:

  • dadansoddiadau TB sy’n parhau a rhai sydd wedi’u datrys yng Nghymru a Lloegr dros y deng mlynedd diwethaf
  • dolenni defnyddiol i safleoedd perthnasol eraill
  • swyddogaeth ‘cymorth’ wedi’i gwella
  • cynrychiolaeth gliriach o ba mor fawr yw clwstwr o ddadansoddiadau ar y map

Mae nodweddion ibTB eraill yn cynnwys:

  • swyddogaeth chwilio sy’n defnyddio rhif neu god post y daliad (CPHH)
  • arddangosiad o Unedau Pesgi Cymeradwy (AFU)

Mae modd gweld y rhan o’r map yr ydych eisiau ei weld drwy nodi rhif neu god post CPHH. Mae hefyd yn bosibl chwyddo mewn ac allan o’r map i gynyddu neu leihau lefel y manylder.

ar wefan ibTB

Am ragor o wybodaeth am TB buchol, ewch i TB Hub.