Neidio i'r prif gynnwy

Rôl Tasglu’r Model Cyflenwi a manylion ei aelodau.

1. Cefndir

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau fod Tasglu ar gyfer Modelau Cyflenwi yn cael ei greu i ystyried yr opsiynau cyflenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Mae gwaith y Tasglu yn deillio o ymrwymiad a nodir yn Modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus : Cynllun Gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016.

2. Dyletswydd a chyfrifoldebau

Bydd y Tasglu yn tynnu ar dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â chasgliadau adroddiadau sy’n benodol i Gymru yn y maes hwn, yn enwedig:

  • Effaith Absenoldeb Athrawon, Estyn, Medi 2013;
  • Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb, Swyddfa Archwilio Cymru, Medi 2013
  • Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Mai 2014, ac
  • Ymchwiliad i waith Athrawon Cyflenwi, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Rhagfyr 2015.

Gan mai ymrwymiad a nodir yn Modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus: Modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus : Cynllun Gweithredu yw’r Tasglu, dylai felly ystyried yr egwyddorion sy’n sail i’r ddogfen honno, a bydd egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn sail i waith y Tasglu hwn.

Swyddogaeth benodol y Tasglu yw:

  • Adolygu’r modelau cyflenwi sydd ar waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i ddarparu rhestr o’r opsiynau eraill (ynghyd â’r costau ariannol sy’n gysylltiedig) ar gyfer Llywodraeth Cymru o ran y modelau y gellid eu defnyddio yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd angen gwneud dadansoddiad cynhwysfawr o fanteision ac anfanteision pob opsiwn, gan gydbwyso’r manteision, y costau, a’r risgiau perthnasol.

Dylai’r opsiynau amlinellu system sy’n defnyddio dull gweithredu cyson ar gyfer darparu gwasanaeth cyflenwi ledled Cymru, ac sy’n sicrhau deilliannau positif i’r dysgwr, gan ei ddiogelu ar yr un pryd. Dylai’r opsiynau sy’n cael eu hargymell a’u cyflwyno:

  • Nodi a hwyluso adnodd addysgu hyblyg
  • Sicrhau system gyflogau sy’n deg, yn gyson ac yn dryloyw ar gyfer athrawon cyflenwi ledled Cymru
  • Darparu dull gweithredu strwythuredig a ffurfiol sy’n sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael manteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol a phrosesau rheoli perfformiad, gan gynnwys gweithdrefnau disgyblu a chwyno
  • Sicrhau bod ysgolion yn gallu dod o hyd i athrawon o ansawdd uchel sy’n gallu cynnig cysondeb o ran darparu dysgu o safon
  • Cefnogi athrawon cyflenwi sydd newydd gymhwyso ac sy’n ymgymryd â swydd tymor byr i allu dangos yn llawn eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon
  • Darparu gwybodaeth reoli gywir o ran costau, lefelau absenoldeb, a phatrymau cyflogaeth dros dro
  • Cynnig gwerth am arian
  • Lleihau’r baich gweinyddol a biwrocrataidd ar benaethiaid
  • Ystyried yr egwyddorion sy’n sail i Modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus: Cynllun Gweithredu
  • Bodloni’r gofynion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

3. Llywodraethu

Sandra Jones fydd yn cadeirio’r Tasglu, a hi fydd y pwynt cyswllt cyntaf.

Darperir cymorth ysgrifenyddol i’r Gweithlu gan Uned Strategaeth y Gweithlu (Ysgolion), Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru.

4. Cynnal asesiadau / cyfarfodydd

Bydd y Tasglu’n gweithredu rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2016, a bydd yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis i drafod sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.

5. Aelodau’r Tasglu

Dyma aelodau’r Tasglu:

Cadeirydd

Sandra Jones

Aelodau craidd

Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Undebau Llafur Cymru
Eithne Hughes, Pennaeth Ysgol Bryn Elian
Donna Merrick, Ymgynghorydd AD a Recriwtio

Bydd disgwyl i aelodau’r Tasglu:

  • Gynnig eu sylwadau a’u harbenigedd ar faterion sy’n ymwneud â phob agwedd ar gyflenwi, a
  • Chyfrannu at drafodaethau ar fodelau eraill ar gyfer darparu gwasanaeth cyflenwi, gan gynnig opsiynau priodol.

Bydd disgwyl i’r Gweithlu ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol wrth lunio’r opsiynau eraill hyn. Bydd angen cynnwys o leiaf y canlynol ymhlith y rhanddeiliaid hynny:

  • Undebau Addysg
  • Canolfan Cydweithredol Cymru
  • Awdurdodau Lleol, sef
    • Cyfarwyddwyr AD
    • Cyfarwyddwyr Addysg
  • Rheolwyr Gyfarwyddwyr y Consortia Rhanbarthol
  • Asiantaethau Cyflenwi/ y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Estyn
  • Swyddfa Archwilio Cymru
  • Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
  • Llywodraethwyr Cymru
  • Sefydliadau Addysg Uwch sy’n darparu hyfforddiant athrawon
  • Y Comisiwn Staff

Hefyd gofynnir i’r Tasglu geisio cyngor cyfreithiol arbenigol, er mwyn sicrhau bod pob model yn cydymffurfio â chyfraith bresennol y DU a’r UE, a’i fod o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol. Bydd Uned Strategaeth y Gweithlu yn darparu cymorth ar gyfer cael gafael ar y cyngor cyfreithiol y mae ei angen.

Dylai’r aelodau roi sylw i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan):

  • Anhunanoldeb
    Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd a hynny'n unig. Ni ddylent weithredu er mwyn cael budd ariannol neu fudd arall iddynt eu hunain, eu teuluoedd na'u cyfeillion
  • Uniondeb
    Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus eu gosod eu hunain o dan unrhyw ymrwymiad ariannol nac ymrwymiad arall i unigolion neu sefydliadau allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.
  • Gwrthrychedd
    Wrth gynnal busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrau a buddion, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud dewisiadau ar sail rhinwedd.
  • Atebolrwydd
    Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd i'r cyhoedd a rhaid iddynt dderbyn unrhyw graffu a fo'n briodol i'w swyddi.
  • Bod yn agored
    Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored ag y bo modd ynglŷn â’r holl benderfyniadau a chamau gweithredu a gymerant. Dylent roi rhesymau am eu penderfyniadau ac ni ddylent gyfyngu ar wybodaeth ac eithrio pan fo'n amlwg fod hynny er budd y cyhoedd.
  • Gonestrwydd
    Mae dyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fudd preifat yn ymwneud â'u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy'n codi mewn ffordd sy'n diogelu budd y cyhoedd.
  • Arweinyddiaeth
    Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion hyn trwy arweiniad ac esiampl.

6. Dod ag aelodaeth o’r Tasglu i ben

Caiff unrhyw ochr ddod ag aelodaeth o’r Tasglu i ben, o dan yr amgylchiadau priodol. Os bydd aelod yn torri un o delerau’r Cyfansoddiad, gan gynnwys Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, bydd hynny’n cael ei ystyried yn amgylchiad priodol ar gyfer dod ag aelodaeth i ben.

7. Cworwm

Fel arfer, ystyrir bod yna gworwm ar gyfer y Tasglu Modelau Cyflenwi pan fo pob un o’r pedwar aelod yn bresennol.

Os bydd llai na’r pedwar aelod yn bresennol, caiff y busnes fynd rhagddo o hyd, ond ni cheir gwneud penderfyniadau nes derbyn asesiad ysgrifenedig oddi wrth yr aelodau hynny nad ydynt yn bresennol.