Neidio i'r prif gynnwy

Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y rhanbarth.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De wedi bod wrthi’n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled yr ardal er mwyn cael clywed barn y trigolion am yr hyn sy’n flaenoriaeth iddyn nhw yn eu cymunedau lleol. Yr wythnos yma, mae’r tasglu yn cwrdd yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Aberpennar.

Cyn y cyfarfod dywedodd:

“Mae’n amlwg bod yr ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei wneud gan y tasglu yn cynyddu. Mae’r sesiynau sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn wedi bod yn amhrisiadwy o ran llunio ein blaenoriaethau. Mae’n hanfodol serch hynny bod y gwaith yn mynd yn ei flaen a’n bod ni’n gwrando ar farn y cymunedau er mwyn cynnal y momentwm.

“Dyma rai o’r prif themâu sydd wedi dod i’r amlwg hyd yn hyn yn ein trafodaethau â’r bobl: pwysigrwydd meithrin cysylltiad rhwng busnesau ac ysgolion lleol i roi hyder a sgiliau i bobl ifanc er mwyn iddynt allu llwyddo yn y byd gwaith; a phwysigrwydd meithrin cysylltiad rhwng seilwaith megis safleoedd diwydiannol, ysgolion, colegau a mentrau trafnidiaeth, a thrwy hynny, sicrhau bod y cymoedd wedi eu cysylltu yn dda.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n teimlo i’r byw am eu cymuned i ddod draw i ddweud eich dweud wrth y tasglu. Rydym yn awyddus i glywed eich barn i’n helpu i lunio ein gweledigaeth ar gyfer y cymoedd.”

Sefydlwyd y tasglu gan y Llywodraeth ym mis Gorffennaf gyda’r bwriad o ychwanegu at y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud ledled cymoedd y De. Y bwriad yw gwneud hynny mewn ffordd sy’n cydgysylltu’n well ac yn targedu anghenion cymunedau’r cyhoedd yn well.

Ewch i dudalen Facebook i ddysgu rhagor am y tasglu a’i waith neu er mwyn cadw lle mewn un o’r cyfarfodydd cyhoeddus.