Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Sefydlwyd rhaglen Tasglu'r Cymoedd ym mis Gorffennaf 2016 gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd. Roedd ei sefydlu yn cynrychioli ffordd newydd o weithio ar sail draws-lywodraethol i geisio mynd i'r afael â heriau economaidd-gymdeithasol sydd wedi'u treiddio’n ddwfn ledled Cymoedd De Cymru.

Cyhoeddodd Tasglu'r Cymoedd ei gynllun gweithredu cyntaf, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, ym mis Gorffennaf 2017, gan nodi tair blaenoriaeth gyffredinol:

  • swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud
  • gwasanaethau cyhoeddus gwell
  • fy nghymuned leol.

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (a ymgymerodd â rôl y cadeirydd yn 2018), y byddai Tasglu'r Cymoedd yn canolbwyntio ar saith thema blaenoriaeth (Diweddariad ar y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De). Yn ogystal, ehangwyd ffin ddaearyddol y Tasglu i gynnwys Cwm Gwendraeth a Chwm Aman yn Sir Gaerfyrddin.

Nodau ac amcanion yr astudiaeth

Comisiynwyd Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad â Dateb, gan Lywodraeth Cymru i gynnal cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid allweddol rhaglen Tasglu'r Cymoedd.

Roedd nodau’r astudiaeth fel a ganlyn:

  • crynhoi'r cynnydd a wnaed gan Dasglu'r Cymoedd ers ei sefydlu yn 2016, yn benodol o amgylch y tair blaenoriaeth a saith ffrwd waith
  • nodi sut mae Tasglu'r Cymoedd wedi gweithio a pha mor effeithiol y bu hyn fel dull rhanbarthol o ddatblygu a chyflawni polisi

Roedd disgwyl i'r astudiaeth fynd i'r afael â deg amcan, gan gynnwys yr angen i nodi'r prif ysgogwyr y tu ôl i Dasglu'r Cymoedd, adolygu effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu’r rhaglen a’r trefniadau cyflwyno, nodi enghreifftiau o gydweithio effeithiol rhwng sefydliadau partner, a chasglu tystiolaeth ar sut y gallai gwersi o'r rhaglen lywio a siapio gwaith yn y dyfodol.

Dull

Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020, yn cynnwys y canlynol:

  • cam sefydlu, a oedd yn cynnwys cyfarfod sefydlu rhithwir gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a pharatoi dull methodolegol a chynllun prosiect manwl 
  • ymchwil o'r ddesg, a oedd yn cynnwys dadansoddiad llai manwl o ddogfennau polisi a strategol perthnasol Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag adolygiad manwl o ddogfennaeth y rhaglen
  • paratoi canllaw trafod ansoddol ar gyfer cyfweld â rhanddeiliaid a chyfweld cyfanswm o 32 ohonynt
  • cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes, ac adolygu o'r ddesg a drafftio adroddiad

Canfyddiadau allweddol

Canfu'r astudiaeth, o ran yr hyn yr oedd Tasglu'r Cymoedd yn bwriadu ei gyflawni, fod rhanddeiliaid a gyfwelwyd o'r farn ganlynol:

  • bu achos cryf dros ymyrraeth o ystyried bod rhanbarth y Cymoedd wedi wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol hirdymor
  • roedd Tasglu'r Cymoedd yn ymdrech fwriadol dda a oedd â'r potensial i fabwysiadu dull gwahanol ar gyfer gwella ffyniant cymunedau'r Cymoedd, o'i chymharu â mentrau cyflawni blaenorol
  • roedd wedi bod yn briodol i Dasglu'r Cymoedd gael ei sefydlu gyda chylch gwaith ledled rhanbarth y Cymoedd gan y byddai hyn yn darparu llais cefnogol cryf i'r Cymoedd, yn unol â dull mwy rhanbarthol a seiliedig ar gyfer datblygu polisi a darparu rhaglenni ledled Cymru
  • roedd blaenoriaethau a chynllun cyflwyno Tasglu'r Cymoedd wedi'u llywio'n dda gan farn a gweithgareddau ymgysylltu cymunedol cychwynnol
  • roedd Tasglu'r Cymoedd wedi'i sefydlu gyda nodau ac amcanion uchelgeisiol iawn, ond roedd amheuaeth ynglŷn â'r gallu i gyflawni'r rhain o fewn yr amserlenni a bennwyd
  • roedd nodau Tasglu'r Cymoedd yn ddeublyg: roedd llawer o randdeiliaid o'r farn mai nod Tasglu'r Cymoedd oedd sefydlu dull traws-lywodraethol, gofodol a fyddai'n cydlynu polisi ac ymyriadau presennol i gynyddu effaith adnoddau cyfredol yn y Cymoedd. Rhoddodd eraill fwy o bwyslais ar Dasglu'r Cymoedd fel cyfrwng dosbarthu a fyddai'n ariannu ymyriadau penodol er budd cymunedau'r Cymoedd
  • bu newid ym mlaenoriaethau a chynlluniau cyflenwi Tasglu'r Cymoedd dros amser; teimlwyd bod hyn yn cael ei yrru gan ddylanwadau gwleidyddol yn hytrach na'i lywio gan dystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau

Canfu'r astudiaeth, o ran ffyrdd Tasglu'r Cymoedd o weithio, fod rhanddeiliaid o'r farn ganlynol:

  • mae trefniadau llywodraethu Tasglu'r Cymoedd wedi bod yn briodol. Ymhlith y cryfderau roedd ymrwymiad gan chwaraewyr strategol, arweinyddiaeth effeithiol, a ffordd dryloyw o weithio. Roedd y gwendidau'n cynnwys strwythurau cymhleth (e.e. o ran y saith is-grŵp) a diffyg mewnbwn cymunedol ffurfiol i'r Tasglu Gweinidogol
  • roedd y Bwrdd Rhaglen wedi gweithredu'n effeithiol ond bod effeithiolrwydd yr is-weithgorau yn amrywio
  • roedd diffyg cyllid cyfalaf a refeniw sylweddol wedi rhwystro ymdrechion Tasglu'r Cymoedd. Roedd rhanddeiliaid o'r farn nad oedd digon o adnoddau i dîm gweithredol Llywodraeth Cymru
  • nid oedd hyrwyddo gwaith Tasglu'r Cymoedd wedi bod yn flaenoriaeth a gellid bod wedi gwneud mwy i roi cyhoeddusrwydd i'r hyn oedd yn digwydd o dan faner Tasglu'r Cymoedd
  • roedd Tasglu'r Cymoedd wedi ymgysylltu'n effeithiol â sefydliadau rhanddeiliaid allweddol ar draws ystod eang o sectorau ac ardaloedd daearyddol, ac wedi cryfhau cysylltiadau rhyngddynt. Nodwyd bod sawl sampl o weithio ar y cyd effeithiol rhwng sefydliadau partner wedi digwydd oherwydd Tasglu'r Cymoedd
  • credwyd bod y sector iechyd a'r sector addysg, a strwythurau rhanbarthol presennol (yn enwedig Bargeinion Dinesig) wedi ymgysylltu llai â Thasglu'r Cymoedd

O ran cyflawniadau a'r gwahaniaeth a wnaed, roedd rhanddeiliaid o'r farn ganlynol:

  • roedd yn anodd cael barn gadarn am y cynnydd a wnaed gan Dasglu'r Cymoedd, yn anad dim gan nad oedd ganddo ddangosyddion penodol ar waith i asesu perfformiad
  • roedd cynnydd wedi ei rwystro gan effaith y pandemig COVID-19 yn 2020, yn enwedig prosiectau neu syniadau Tasglu'r Cymoedd a oedd ar gychwyn neu'n cael eu datblygu ar ddechrau'r pandemig
  • roedd Tasglu'r Cymoedd wedi dod â sefydliadau ynghyd mewn modd effeithiol, a oedd yn arwain at fwy o gydweithredu a chydgynhyrchu, gan gynnwys gweithio traws-lywodraethol rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth Cymru
  • roedd Tasglu'r Cymoedd wedi hyrwyddo a chefnogi achos y Cymoedd mewn modd effeithiol, a dyfynnwyd sawl enghraifft lle roedd trafodaethau dan arweiniad Tasglu'r Cymoedd wedi dylanwadu ar bolisïau, dulliau a phenderfyniadau cyllido prif ffrwd presennol
  • roedd y mentrau a gefnogwyd gan Dasglu'r Cymoedd yn bennaf wedi bod ar raddfa fach ac ag effaith isel, gan adlewyrchu'r cyllid a gallu cyfyngedig sydd ar gael
  • roedd y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag a Phartneriaeth Ranbarthol y Cymoedd yn ddau o brosiectau mwyaf nodedig a llwyddiannus Tasglu'r Cymoedd
  • roedd bod yn gysylltiedig â Thasglu'r Cymoedd yn cynnig proffil a statws uwch i grwpiau cymunedol a mentrau presennol, a arweiniodd yn ei dro at fwy o ddiddordeb a chefnogaeth gan sefydliadau eraill
  • roedd effaith uniongyrchol Tasglu'r Cymoedd ar gymunedau'r Cymoedd yn eithaf cyfyngedig. Credwyd bod effeithiau cadarnhaol yn gysylltiedig yn bennaf â mentrau fel y Cynllun Cartrefi Gwag, prosiectau Cronfa Her yr Economi Sylfaenol a Phartneriaeth Ranbarthol y Cymoedd

Casgliadau

  • Roedd rhesymeg sylfaenol gref ac angen amlwg am ymyrraeth a fyddai'n rhoi anghenion y Cymoedd ar flaen y gad o ran datblygu polisi.
  • Er bod Tasglu'r Cymoedd yn cydnabod bod angen datrysiad hirdymor ar y materion i fynd i'r afael â nhw, roedd y model a fabwysiadwyd wedi'i gyfyngu gan amser gan raglen gyfredol y llywodraeth. Er mwyn cyflawni'r nodau a osododd Tasglu'r Cymoedd iddo'i hun, dylai'r mecanwaith ymyrryd fod wedi caniatáu i ymrwymiad dros dymor llawer hwy gael ei fabwysiadu o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn codi cwestiynau sylfaenol am y math o strwythur sydd fwyaf addas i fynd i'r afael â'r materion treiddiol a fydd yn wynebu cymunedau'r Cymoedd yn y dyfodol.
  • Cryfder allweddol oedd yr ymdrech i ymgysylltu â chymunedau i gael eu barn am y blaenoriaethau y dylai Tasglu'r Cymoedd ganolbwyntio arnynt. Mae'n amlwg bod yr adborth a gasglwyd wedi'i ddefnyddio'n effeithiol i lywio blaenoriaethau'r rhaglen waith ac mae'n gwahaniaethu Tasglu'r Cymoedd o’i raglenni blaenorol.
  • Roedd gan Dasglu'r Cymoedd nodau ac amcanion uchelgeisiol iawn ond nid oedd ganddo'r adnoddau na'r gallu i gyflawni'r rhain yn effeithiol. Mater allweddol a godwyd oedd a ddylai Tasglu'r Cymoedd fod wedi'i sefydlu o'r cychwyn gyda lefel ddigonol o gyllid refeniw a chyfalaf i'w alluogi i gyflawni ei nodau a'i amcanion uchelgeisiol.
  • Mae Tasglu'r Cymoedd wedi llwyddo'n rhannol i gyflawni ei nod o ddylanwadu ac ennill trosoledd dros bolisïau ac ymyriadau a oedd eisoes ar waith, i gyflymu ac ymhelaethu ar welliannau i'r Cymoedd. Mae wedi chwarae rhan bwysig o ran eirioli dros y Cymoedd trwy sicrhau bod mwy o ffocws yn cael ei roi i faterion penodol ar draws polisi prif ffrwd a darparu gwasanaethau.
  • Mae Tasglu'r Cymoedd wedi gweithredu'n effeithiol fel cyfrwng i hwyluso cydberthnasau ac annog cydweithredu a chydgynhyrchu ar draws gwahanol feysydd polisi. Mae wedi cyfrannu a helpu i leihau gweithio mewn seilos ar draws nifer o feysydd polisi, yn enwedig o fewn Llywodraeth Cymru, a chanfu'r ymchwil sawl enghraifft o gydweithio traws-bolisi effeithiol a ysgogwyd gan Dasglu'r Cymoedd.
  • Mae'r adborth yn awgrymu bod trefniadau llywodraethu a rheoli’r rhaglen yn briodol ar y cyfan. Amlygwyd bod cael cadeirydd cryf i'r Tasglu Gweinidogol a sicrhau tryloywder gweithio yn nodweddion cadarnhaol. Prif wendidau'r trefniadau a fabwysiadwyd oedd diffyg cynrychiolaeth gymunedol o fewn strwythurau llywodraethu, tîm gweithredol heb ddigon o adnoddau, ac o bosibl strwythur llywodraethu rhy gymhleth o ran cael saith is-weithgor.
  • Gwers bwysig a ddysgwyd yw y byddai Tasglu'r Cymoedd, o ystyried ei allu a'i adnoddau eithaf cyfyngedig, wedi elwa o flaenoriaethu ei ymdrechion i ganolbwyntio ar ystod gulach o feysydd polisi a nifer llai o brosiectau a oedd yn fwy strategol. Gwers bwysig arall yw y byddai Tasglu'r Cymoedd wedi elwa o adolygiad canol cyfnod o'i gwmpas sector a pholisi er mwyn nodi unrhyw fylchau o ran ei gyrhaeddiad i'r rhain a, lle y bo'n briodol, mynd i'r afael â hwy. Yn achos cyflwyno Tasglu'r Cymoedd hyd yma, ystyriwyd bod y bylchau hyn yn fwyaf amlwg ym maes iechyd ac addysg.

Argymhellion

Gan ystyried y safbwyntiau a gynigiwyd gan randdeiliaid, mae'r adroddiad yn cynnig yr argymhellion canlynol i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Argymhelliad 1

Ar y sail bod ardal y Cymoedd yn parhau i brofi materion ac anghydraddoldebau dwfn o’i chymharu â gweddill Cymru, mae achos cryf dros ymyrraeth barhaus a ffocws ar y Cymoedd fel endid rhanbarthol

Argymhelliad 2

Y dylid ystyried y strwythur mwyaf priodol a fyddai fwyaf addas i fynd i'r afael ag anghenion y Cymoedd yn y dyfodol, gan sicrhau bod y strwythur hwn yn caniatáu i ddull hirdymor gael ei fabwysiadu sy'n adlewyrchu sefydlu Cynghorau Cyfiawnder Sifil ar draws Cymru

Argymhelliad 3

Bod graddfa'r uchelgais a nodir ar gyfer unrhyw ymyrraeth yn y Cymoedd yn y dyfodol yn cael ei chyfateb yn briodol o ran adnoddau cyllid cyfalaf a refeniw, gan gydnabod bod heriau cyllidebol ar ôl COVID-19 yn debygol o effeithio ar hyn

Argymhelliad 4

Bod unrhyw ymyrraeth yn y Cymoedd yn y dyfodol yn mabwysiadu ystod gulach o flaenoriaethau ac yn ystyried cefnogi nifer llai o brosiectau mawr a mwy strategol

Argymhelliad 5

Bod unrhyw ymyrraeth yn y Cymoedd yn y dyfodol yn adeiladu ar ddulliau ymgysylltu â'r gymuned effeithiol a fabwysiadwyd gan Dasglu'r Cymoedd ac yn ystyried sut y gellid cynnal yr ymgysylltiad hwn a'i ymgorffori yn nhrefniadau dylunio a llywodraethu rhaglenni yn y dyfodol

Argymhelliad 6

Bod unrhyw ymyrraeth yn y dyfodol yn mynegi'n glir, trwy ddull theori newid o'r cychwyn cyntaf, nodau cyflawni tymor byr (e.e. o fewn tymor un llywodraeth) a chanlyniadau a dyheadau trawsnewidiol tymor hwy

Argymhelliad 7

Dylid ystyried sut y gellir cynnal rhai o'r ymyriadau llwyddiannus a dreialwyd trwy Dasglu'r Cymoedd (yn benodol y Cynllun Grant Cartrefi Gwag a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd) yn y dyfodol.

Manylion cyswllt

Bryer, N (2021). Rhaglen Tasglu'r Cymoedd Cyfweliadau ansoddol gyda rhanddeiliaid. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth 19/2021

Safbwyntiau'r ymchwilwyr sy'n cael eu mynegi yn yr adroddiad hwn, ac nid o reidrwydd safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

Am wybodaeth bellach, gallwch gysylltu fel a ganlyn:

Launa Anderson
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd

E-bost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

 

Image
GSR logo

Digital ISBN 978-1-80082-897-1