Tasglu'r Cymoedd: arolwg rhanddeiliaid
Mae’r adroddiad hwn yn darparu casgliadau o arolwg gyda rhanddeiliaid Tasglu’r Cymoedd. Y nod oedd casglu daliadau ar y rhaglen, gan gynnwys heriau, manteision a blaenoriaethau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r crynodeb hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg ar-lein ymhlith rhanddeiliaid Tasglu'r Cymoedd (y Tasglu).
Sefydlwyd rhaglen y Tasglu ym mis Gorffennaf 2016 gan Alun Davies AC, Gweinidog Dysgu Gydol Oes a'r Gymraeg ar y pryd. Roedd yn ffordd newydd o weithio ar draws y llywodraeth i geisio mynd i'r afael â heriau economaidd-gymdeithasol sydd wedi ymwreiddio ar draws Cymoedd y De.
Cyhoeddodd y Tasglu ei gynllun gweithredu cyntaf, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, ym mis Gorffennaf 2017, gan nodi tair blaenoriaeth gyffredinol ar gyfer:
- swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud
- gwell gwasanaethau cyhoeddus
- fy nghymuned leol
Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (a ddaeth yn gadeirydd yn 2018), y byddai’r Tasglu yn canolbwyntio ar saith thema flaenoriaeth (Diweddariad ar y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De). Yn ogystal, estynnwyd ffin ddaearyddol y Tasglu i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin.
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Nod yr ymchwil oedd clywed barn rhanddeiliaid ar y Tasglu:
- casglu gwybodaeth am sut roedd rhanddeiliaid yn gweld y rhaglen
- ymchwilio i ddealltwriaeth rhanddeiliaid o waith y Tasglu
- ymchwilio i’r heriau yr oedd rhanddeiliaid yn eu gweld yn eu gwaith gyda’r Tasglu
- ymchwilio i’r manteision yr oedd rhanddeiliaid yn eu gweld yn deillio o’r Tasglu
- darganfod blaenoriaethau’r rhanddeiliaid ar gyfer y Cymoedd i’r dyfodol
Cynhaliwyd yr astudiaeth rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020. Nodwyd rhestr o randdeiliaid perthnasol gan dîm polisi Tasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru. Yna cysylltwyd â'r unigolion hyn drwy e-bost a'u gwahodd i gwblhau'r arolwg. Roedd y rhanddeiliaid o saith maes blaenoriaeth y Tasglu[1]. Yn gyffredinol, nodwyd 178 o randdeiliaid a chafwyd cyfradd ymateb o 21% (37 o unigolion). Roedd y mwyafrif yn gweithio i awdurdodau lleol (30%) neu'r trydydd sector (38%). Roedd cyfradd ymateb gymharol isel gan y sector preifat (5%). Roedd pawb a gyfrannodd at yr arolwg mewn rolau uwch yn y sefydliadau yr oeddent yn eu cynrychioli[2].
Oherwydd y strategaeth samplu benodol iawn a'r gyfradd ymateb, nid yw'r arolwg hwn yn cynrychioli barn holl randdeiliaid y Tasglu, ond mae'n rhoi cipolwg defnyddiol ar safbwyntiau’r rhai a wnaeth ymateb.
Cynhaliwyd dau fath o ddadansoddiad ar ganlyniadau'r arolwg, dadansoddiad disgrifiadol o gwestiynau caeedig a dadansoddiad thematig o gwestiynau ymateb agored. Lle caiff canrannau eu cofnodi yn yr adroddiad hwn, maent wedi'u talgrynnu i fyny neu i lawr i'r rhif cyfan agosaf. Ar gyfer nifer fach o gwestiynau, ni ddefnyddir canrannau, sef lle mae'r canfyddiadau'n ymwneud ag atebion a ddarperir i'r cwestiynau penagored. Cofnodir y themâu a ddefnyddir i ddadansoddi'r cwestiynau hyn.
[1] Y meysydd gwaith blaenoriaeth yw: Trawsnewid Trefi, Parc Rhanbarthol y Cymoedd / Pyrth Darganfod, Cronfa Arloesi Tasglu’r Cymoedd, Alumni / Addysg, Hybiau Strategol, Trafnidiaeth, Entrepreneuriaeth a Chymorth Busnes, Economi Sylfaenol, Tai.
[2] Yn seiliedig ar fersiwn syml o ddosbarthiad cymdeithasol-economaidd yr Ystadegau Gwladol.
Canfyddiadau
Ymgysylltu â Thasglu’r Cymoedd
Roedd mwyafrif y cyfranwyr (70%) wedi ymwneud â gwaith y Tasglu ers i Ddirprwy Weinidog presennol yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AS, ddod yn gadeirydd yn 2018. Serch hynny, roedd bron i draean (27%) o’r cyfranwyr wedi bod yn ymwneud â’r gwaith ers dechrau'r rhaglen.
Dywedodd cyfranwyr mai â meysydd blaenoriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd (68%) a'r Economi Sylfaenol (51%) yr oeddent wedi dod i gysylltiad fwyaf. Â meysydd blaenoriaeth Tai (16%) a'r Gronfa Arloesi/ Alumni/ Addysg (19%) y cafodd cyfranwyr y cysylltiad lleiaf.
Yn gyffredinol, dywedodd y cyfranwyr eu bod yn hapus gyda'r cymorth yr oeddent wedi'i gael (roedd 68% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf). Yn ogystal, roedd 59% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod Llywodraeth Cymru wedi hwyluso gwaith partneriaeth.
Cafwyd canlyniadau cymysg gan ymatebwyr o ran pa mor hawdd yr oedd i gael cymorth gan y Tasglu. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (57% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf) yn teimlo ei bod wedi bod yn hawdd cael gafael ar gymorth. Fodd bynnag, teimlai lleiafrif sylweddol (roedd 16% yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf) nad oedd wedi bod yn hawdd cael gafael ar y cymorth yr oedd ei angen.
Ffyrdd o weithio
Yn gyffredinol, cofnodwyd lefelau uchel o gyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid y Tasglu.
- Roedd 70% o'r cyfranwyr wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru, roedd 68% wedi mynd i ddigwyddiadau, ac roedd 60% wedi derbyn gwybodaeth ac wedi cyfathrebu â swyddogion Llywodraeth Cymru dros y ffôn, e-bost a'r cyfryngau cymdeithasol.
- Ychydig iawn o’r cyfranwyr a ddywedodd eu bod wedi cyflawni prosiect gyda'r Tasglu (27%), ond efallai bod hyn yn adlewyrchu natur gwaith y Tasglu, a gall fod yn anodd nodi prosiectau penodol.
Yn ogystal, canfuwyd bod cyfathrebu da o fewn meysydd gwaith blaenoriaeth, gan fod 60% o'r cyfranwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod gwaith y Tasglu wedi arwain at well cyfathrebu ag eraill o fewn eu maes gwaith blaenoriaeth.
Awgrymodd y cyfranwyr hefyd fod ganddynt ddealltwriaeth dda o waith y Tasglu.
- Roedd gan 62% ddealltwriaeth dda neu dda iawn o rôl y Tasglu
- Roedd gan 57% ddealltwriaeth dda neu dda iawn o'r rhaglen waith sy'n cael ei chynnal gan y Tasglu
- Roedd gan 68% ddealltwriaeth dda neu dda iawn o amcanion y Tasglu.
Awgrymodd y rhanddeiliaid fod y Tasglu wedi hwyluso a chynyddu gwaith partneriaeth.
- Roedd 65% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod y Tasglu wedi arwain at fwy o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Roedd 52% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod y Tasglu wedi gallu cynyddu partneriaethau rhwng sefydliadau sy'n gweithio yn y Cymoedd.
Fodd bynnag, nid oedd y cyfranwyr yn teimlo bod y Tasglu wedi newid y ffordd yr oedden nhw, na'u sefydliad, yn gweithio'n gyffredinol (14% ac 8% yn cytuno yn y drefn honno).
Beth yw union natur llwyddiant?
Teimlai 42% fod y Tasglu wedi gwneud gwahaniaeth i gymunedau'r Cymoedd.
Pan ofynnwyd iddynt werthuso i ba raddau y mae'r Tasglu yn cyflawni ei rôl, credai mwyafrif (57%) ei fod yn gwneud yn 'weddol dda'. Mewn ymateb i'r opsiwn testun rhydd i fynegi pam eu bod yn credu hyn, nododd y cyfranwyr sawl ffactor cyffredin.
- Nododd llawer fod y Tasglu yn gweithredu mewn amgylchedd heriol a chymhleth. Awgrymodd y cyfranwyr fod yna rai llwyddiannau clir, megis y Grant Cartrefi Gwag, ond bod yr amserlenni yn heriol mewn meysydd blaenoriaeth eraill.
- Nododd y cyfranwyr hefyd fod yr adnoddau a’r ffocws yn cwmpasu ystod eang o flaenoriaethau.
- Nododd rhanddeiliaid eraill gryfderau mewn canlyniadau gweladwy ac ymarferol, megis ym maes blaenoriaeth yr Economi Sylfaenol.
- Awgrymodd rhai cyfranwyr fod y Tasglu yn gwneud gwaith da, gan ei bod yn bwysig bod gennym raglen i dargedu'r Cymoedd o ran cymorth.
Fodd bynnag, nid oedd cytundeb bod y Tasglu wedi targedu'r blaenoriaethau cywir. Roedd 46% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf a 22% yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf.
Roedd safbwyntiau cymysg ynghylch a oedd y Tasglu wedi ei gwneud yn haws cael gafael ar gyllid ac adnoddau.
- Roedd 49% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf ei bod yn haws cael gafael ar gyllid.
- Roedd 38% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf ac roedd 32% yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf bod y Tasglu wedi ei gwneud yn haws cael gafael ar adnoddau.
Teimlai'r rhan fwyaf o'r cyfranwyr fod y gwaith yr oeddent wedi bod yn ymwneud ag ef wedi'i gyflymu o ganlyniad i waith y Tasglu (roedd 65% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf). Roedd 49% yn awgrymu na fyddai'r prosiectau yr oeddent wedi bod yn ymwneud â nhw wedi mynd rhagddynt heb y Tasglu. Roedd 24% yn anghytuno - gan awgrymu y byddai'r gwaith wedi mynd rhagddo heb y Tasglu.
Beth yw union natur llwyddiant?
Roedd tri chwarter yr ymatebwyr (76%) yn teimlo bod y rhaglen wedi newid yn ystod eu cysylltiad â hi, ac roedd 27% yn teimlo bod y rhaglen wedi newid yn sylweddol.
Rhoddwyd cymysgedd o resymau dros y newidiadau o ran y Tasglu. Nodwyd tair prif thema ar sail yr ymatebion i'r cwestiwn ar newidiadau yn ystod cyfnod ymwneud y cyfrannwr â'r rhaglen.
- Nododd y cyfranwyr fod y rhaglen wedi gwella gan ddatblygu mwy o ffocws a rhoi mwy o sylw i nodau penodol.
- Cydnabu'r cyfranwyr fod newid y cadeirydd wedi arwain at newid yn y prosiectau a’r cyfeiriad.
- Awgrymodd y cyfranwyr fod lefel yr ymgysylltu â sefydliadau neu feysydd penodol, er enghraifft pyrth/hybiau cymunedol, wedi lleihau.
Heriau
Nododd 57% o'r cyfranwyr heriau yn eu gwaith gyda'r Tasglu.
Dyma bedair thema a nodwyd o ran yr heriau:
- Ymwybyddiaeth o waith y Tasglu: awgrymodd y cyfranwyr eu bod yn teimlo y gallai gwaith y Tasglu fod yn fwy gweladwy. Maent hefyd yn awgrymu y gallai'r rhai a oedd yn ymwneud yn llai â'r Tasglu elwa o gael mwy o eglurder ar y gwahanol brosiectau a gynhaliwyd gan y Tasglu.
- Gweledigaeth ar gyfer y Cymoedd: awgrymodd y cyfranwyr y gallai'r nodau ar gyfer y Tasglu o ran eu gwaith yn y Cymoedd fod yn fwy beiddgar. Credid y gallai hyn olygu rhoi mwy o adnoddau i’r rhaglen.
- Newid personél: awgrymwyd bod newidiadau yn nhîm y Tasglu wedi arwain at golli momentwm yn y gorffennol, er y gallai hyn fod o ganlyniad i golli arbenigedd wrth i bobl symud ymlaen.
- Cydgysylltu: ystyriwyd bod arferion gwaith gwahanol ar draws awdurdodau lleol yn heriol. Awgrymwyd bod angen gwell cydgysylltu rhwng sefydliadau yn ogystal ag oddi mewn iddynt er mwyn gallu cyrraedd nodau'r Tasglu.
Roedd 86% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y byddai angen cymorth gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i brosiectau barhau. Awgrymwyd sawl maes cymorth. Awgrymodd sawl cyfrannwr yr hoffent weld cefnogaeth i fusnesau yn y dyfodol, er mwyn helpu i gefnogi cydnerthedd economaidd. Cynigiwyd y byddai cymorth yn cael ei groesawu ar gyfer busnesau newydd, mentrau cymdeithasol ac ar gyfer rheoli prosiectau ar draws mathau gwahanol o sefydliadau.
- Roedd sawl cyfrannwr am sicrhau bod yr arfer o ddysgu o waith y Tasglu yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys enghreifftiau o ddarpariaeth effeithiol a sut y gellid ymgorffori'r rhain i’r brif ffrwd. Roedd cyfranwyr am i enghreifftiau o arfer da ymsefydlu a sicrhau bod cymorth hirdymor ar gael ar gyfer menter lwyddiannus.
- Roedd rhai cyfranwyr am greu rolau cliriach i bartneriaid a hyrwyddo cyfleoedd partneriaeth yn fwy.
- Roedd rhai cyfranwyr am weld mwy o gyfathrebu â chymunedau a sefydliadau bach yn y trydydd sector.
- Awgrymodd eraill fod angen adolygiad clir o’r gweithgareddau, i helpu i gynllunio strategaeth ymadael, a chynllunio ar gyfer integreiddio â ffrydiau gwaith sy’n parhau y tu hwnt i waith y Tasglu.
Roedd gan ymatebwyr syniadau hefyd ynghylch sut y dylai'r rhaglen esblygu.
- Awgrymwyd y byddai'n bwysig cadw systemau ar waith a oedd wedi gweithio'n dda, fel bod arloesedd yn parhau i gael ei ariannu. Awgrymwyd y gellid cefnogi’r nod hwn drwy gadw swyddogion presennol Tasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru i helpu i greu gwaddol a chynnal y momentwm.
- Awgrymodd rhai hefyd y gallai'r Tasglu wneud mwy i gynyddu ymwybyddiaeth o'i waith, a gellid mynd ati i ailymgysylltu â chymunedau.
Darparodd yr ymatebwyr eu 3 blaenoriaeth ar gyfer y Cymoedd i’r dyfodol. Nodwyd y rhain drwy ddadansoddiad thematig ac maent i’w gweld yn Nhabl 1. Y 3 prif flaenoriaeth a awgrymir yw:
- cymorth cyflogaeth (gan gynnwys diweddaru sgiliau, hyfforddi a lleihau rhwystrau i gyflogaeth)
- trafnidiaeth
- yr amgylchedd (gan gynnwys ynni a chartrefi gwyrddach)
Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol y Cymoedd | Y ganran o’r holl ymatebion | Nifer yr ymatebion |
---|---|---|
Cymorth cyflogaeth | 19 | 15 |
Trafnidiaeth | 8 | 6 |
Yr amgylchedd ac ynni gwyrdd | 8 | 6 |
Gweledigaeth ar gyfer y Cymoedd | 6 | 5 |
Cysylltedd digidol | 6 | 5 |
Hyrwyddo twristiaeth | 6 | 5 |
Cymorth busnes | 5 | 4 |
Cyfathrebu | 5 | 4 |
Hybiau | 5 | 4 |
Ffocws cymunedol | 4 | 3 |
Parc Rhanbarthol y Cymoedd | 4 | 3 |
Iechyd | 4 | 3 |
Mwy o adnoddau | 4 | 3 |
Dod dros COVID-19 | 3 | 2 |
Prosesau caffael yn canolbwyntio ar y Cymoedd | 3 | 2 |
Cyfleoedd addysgol | 3 | 2 |
Ymwybyddiaeth o gyfleoedd | 1 | 1 |
Newid y strwythurau cyllid | 1 | 1 |
Gwella’r amgylchedd o ran adeiladau | 1 | 1 |
Gwella canol trefi | 1 | 1 |
Cael gwared â ffiniau daearyddol | 1 | 1 |
Mynd i’r afael â thlodi | 1 | 1 |
Cyfanswm | 100 | 78 |
Casgliadau
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau arolwg ar-lein o randdeiliaid a fu'n ymwneud â gwaith Tasglu'r Cymoedd.
Mae'r dystiolaeth gan randdeiliaid yn awgrymu bod llawer iawn o gyfathrebu wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid y Tasglu, a bod y mwyafrif yn fodlon ar y cymorth a ddarparwyd. Mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu bod y Tasglu wedi hwyluso gwaith partneriaeth (68% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf) ac wedi cefnogi’r rhanddeiliaid i wella’r cyfathrebu ar draws meysydd gwaith blaenoriaeth (60% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf). Hefyd, mae’r rhanddeiliaid yn cofnodi dealltwriaeth dda o nodau ac amcanion y Tasglu.
Nododd y rhanddeiliaid a holwyd gymysgedd o safbwyntiau ynghylch p’un a oedd y Tasglu wedi arwain at brosiectau newydd a ph’un a oedd wedi’i gwneud yn haws cael gafael ar gyllid ac adnoddau. Roedd ychydig o dan hanner (49%) o'r rhanddeiliaid a holwyd yn awgrymu na fyddai'r prosiectau yr oeddent wedi bod yn ymwneud â nhw wedi mynd rhagddynt heb y Tasglu, ond roedd 24% yn anghytuno, gan awgrymu y byddai'r gwaith wedi mynd rhagddo heb y Tasglu.
Fodd bynnag, roedd y rhanddeiliaid yn cytuno bod y Tasglu wedi prysuro cynnydd prosiectau a oedd yn bodoli eisoes (65% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf). O'r rhanddeiliaid a ymatebodd i'r arolwg, roedd 38% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf, a 32% yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf, fod gwaith y Tasglu wedi ei gwneud yn haws cael gafael ar adnoddau.
Nodwyd sawl her mewn ymatebion testun agored yn yr arolwg, ac roedd y rhain yn cwmpasu amrywiaeth o faterion, o raglenni unigol i heriau sefydliadol ar y raddfa uchaf. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y gallai nodau'r Tasglu fod yn fwy beiddgar, ond hefyd fod ceisio trefnu partneriaethau ar draws ystod o sefydliadau bob amser yn mynd i fod yn heriol dros ben. Awgrymwyd hefyd fod newid swyddogion a blaenoriaethau'r Tasglu wedi arwain at amserlenni heriol.
Nid oedd y rhanddeiliaid a ymatebodd i'r arolwg yn teimlo bod y Tasglu wedi newid y ffordd yr oedden nhw na'u sefydliad yn gweithio'n gyffredinol (14% ac 8% yn cytuno yn y drefn honno). At hyn, nid oedd cytundeb ar flaenoriaethau'r rhanddeiliaid a holwyd ar ffocws y Tasglu (roedd 46% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf ac roedd 22% yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf).
Mae'r dystiolaeth o'r arolwg hwn yn awgrymu bod rhanddeiliaid yn dymuno gweld cefnogaeth y Tasglu yn parhau (86%). Awgrymwyd y dylai blaenoriaethau'r dyfodol gynnwys: cymorth i fusnesau a mathau eraill o gymorth economaidd, sicrhau cyfathrebu gwell gan y Tasglu yn ogystal ag adolygu'r gwaith a wnaed er mwyn ymchwilio i'r hyn y dylid ei ddatblygu. Awgrymodd y rhanddeiliaid ei bod yn bwysig cynnal y momentwm.
Manylion cyswllt
Adroddiad Ymchwil Llawn: Browne Gott, H (2021) Tasglu’r Cymoedd: Arolwg Rhanddeiliaid. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 18/2021
Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â:
Hannah Browne Gott
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru
ISBN Digidol 978-1-80082-902-2