Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiodd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gael gwared ar yr anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu profi mewn cymdeithas, yn dilyn pandemig COVID-19.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl adroddiad ‘Drws Ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at anghydraddoldebau y mae pobl anabl mewn cymdeithas yn eu hwynebu, yn enwedig yr hyn a welwyd yn ystod pandemig y coronafeirws.

Un elfen o ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad oedd sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion sy’n cael sylw yn yr adroddiad, bu’r Tasglu yn gweithio ochr yn ochr â’r canlynol:

  • pobl sydd â phrofiad o’r materion hyn ac sydd ag arbenigedd ynddynt
  • sefydliadau pobl anabl
  • arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru
  • cyrff/sefydliadau eraill sydd â diddordeb

Roedd ein gwaith yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth o’r Model Cymdeithasol o Anabledd, hawliau dynol a chydgyflawni.

Meysydd blaenoriaeth

Meysydd blaenoriaeth ein rhaglen waith oedd:

  1. gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru)
  2. mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
  3. byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
  4. byw’n annibynnol: iechyd a lles
  5. teithio
  6. cyflogaeth ac incwm
  7. tai fforddiadwy a hygyrch
  8. plant a phobl ifanc
  9. mynediad at gyfiawnder
  10. llesiant (fel gweithdy)

Mae gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl a’i weithgorau wedi cyfrannu at lunio’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.