Neidio i'r prif gynnwy

Ystyried pa mor sefydlog yw'r llwybr môr rhwng Cymru ac Iwerddon yn dilyn cau Porthladd Caergybi dros dro oherwydd Storm Darragh.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diben a nodau

Daw'r cyhoeddiad am dasglu yn dilyn cau porthladd Caergybi dros dro wedi i Storm Darragh achosi difrod i'w seilwaith docio.

Rydym wedi cydnabod arwyddocâd strategol Caergybi erioed, yn enwedig o safbwynt symudiadau teithwyr a masnach, trwy ein cefnogaeth i Borthladd Rhydd Ynys Môn a'n cefnogaeth i sicrhau y gellir cynnal morglawdd y porthladd fel bod modd defnyddio'r porthladd am ddegawdau lawer i ddod. Mae Stena Ports yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddyfodol hirdymor Caergybi.

Bydd y tasglu'n canfod beth sydd ei angen ar Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru gan bob rhanddeiliad dros y tymor hwy, nid yn unig er mwyn goroesi, ond i ffynnu.

Bydd y tasglu yn ystyried gwydnwch y cysylltedd môr rhwng Cymru ac Iwerddon, er mwyn i’r cysylltiadau trafnidiaeth hollbwysig hyn allu gwrthsefyll yn well yr heriau rydym yn eu disgwyl yn sgil newidiadau mewn patrymau tywydd garw oherwydd yr hinsawdd a pheryglon a bygythiadau eraill. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel y gallwn sicrhau dyfodol llwyddiannus i groesi Môr Iwerddon. Bydd mewnbwn rhanddeiliaid Iwerddon yn hanfodol ar gyfer trafodaethau cynllunio wrth gefn, lles a chyfleusterau, a'u dealltwriaeth o'r fflyd bresennol o longau sy'n gweithredu ar y llwybrau hyn.

Mae pob cyfarfod tasglu yn debygol o ganolbwyntio ar bwnc gwydnwch penodol.

Bydd y tasglu yn canolbwyntio ar dri maes allweddol a bydd yn cynghori Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar; 

1. Cynllunio wrth gefn

Dylai allbwn y tasglu hwn fod yn ganllaw, yn nodi disgwyliadau clir o'r camau y dylai rhanddeiliaid eu cymryd pe bai porthladd yn cael ei gau ar fyr rybudd. Dylai'r elfen hon gynnwys camau gweithredu gan ein rhanddeiliaid Gwyddelig. 

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys:

  • gwydnwch Porthladdoedd Cymru, archwiliad dwfn i ba wybodaeth y gall porthladdoedd Cymru ei rhannu ar eu cynlluniau gwydnwch, pa wersi a ddysgwyd o Gaergybi, y capasiti dros dro a grëwyd yn Abergwaun a Doc Penfro, sut y gwnaeth ein cysylltiadau trafnidiaeth ymdopi, pa newidiadau sydd wedi digwydd, beth arall y gall eraill ei wneud i helpu a ble mae'r bylchau?
  • y rôl ddaearyddol ehangach – beth yw cynlluniau gwydnwch porthladdoedd eraill y DU a beth all gwledydd datganoledig eraill ei rannu fel arfer gorau?  Byddwn yn cynnwys adborth, manylion a gwybodaeth gan Ddulyn a Rosslare ar yr elfen hon.

2. Prosiectau cyfredol a byw

Prosiectau cyfredol a byw i wella gwydnwch a datblygu cyfleusterau'r porthladdoedd, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Morglawdd Caergybi, Porthladd Rhydd Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru (a Bae Abertawe os yw'n berthnasol), Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol de orllewin Cymru a gogledd orllewin Cymru, argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru. Y rôl y mae Llywodraeth (Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, llywodraethau rhanbarthol a lleol) yn ei chwarae wrth wireddu'r prosiectau hyn. Mae gwydnwch porthladdoedd yn rhan o bwnc trafod Grŵp Trafnidiaeth Rhyngweinidogol. Dulliau cyflawni a rhwystrau. 

3. Datblygiadau at y dyfodol

Beth fydd anghenion porthladdoedd ar gyfer y dyfodol, twf capasiti, gofynion seilwaith, gwydnwch, cyfleoedd economaidd?

Sut mae'r rhain yn cael eu cynnwys mewn blaenoriaethau polisi a phenderfyniadau buddsoddi, gan gynnwys rôl Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn y dyfodol mewn perthynas â'r cynlluniau datblygu strategol, cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a blaenoriaethau llesiant economaidd rhanbarth?

Ni fydd y tasglu yn cynhyrchu adroddiad, ond yn hytrach set o gasgliadau sy'n nodi'r camau y mae angen i aelodau'r tasglu eu cymryd ar wahân. Gellid ystyried yr argymhellion yn fanylach yng nghynllun cludo nwyddau a logisteg Llywodraeth Cymru a/neu’r Strategaeth Porthladdoedd a Morwrol.

Bydd camau gweithredu hefyd i’r rhanddeiliaid a’r holl sectorau perthnasol yn economi Cymru eu cymryd i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ym mhorthladdoedd Cymru, yn ogystal â chamau i oresgyn heriau’r dyfodol.

Meysydd allweddol y bydd angen i'r tasglu fynd i'r afael â nhw/eu hystyried wrth ddatblygu'r canllaw wrth gefn:

  • gofynion buddsoddi a datblygu porthladdoedd i ymdopi â phatrymau tywydd yn y dyfodol
  • gwydnwch a gwelliannau cysylltedd Porthladdoedd Cludo Nwyddau a Theithwyr
  • yn achos cytundeb brys gyda phorthladdoedd Cymru/ y DU, a oes angen hwyluso mynediad.
  • rhyngweithrededd, hy paru llongau â docfeydd, er mwyn gallu trosglwyddo o un llwybr i'r llall yn gyflym a didrafferth.
  • dynodi "cydlynwyr cadwyni cyflenwi a thrafnidiaeth" ar ddwy ochr Môr Iwerddon, i'w rhoi ar waith mewn amgylchiadau brys.
  • ystyriaethau lles staff/gweithlu gweithwyr porthladdoedd, gyrwyr a gweithlu'r cadwyni cyflenwi.
  • gofynion sgiliau ac arbenigedd
  • cyfathrebu os bydd porthladd yn cau

Bydd y tasglu yn dod i ben erbyn diwedd mis Hydref 2025.

Oherwydd sensitifrwydd masnachol y deunydd sydd i'w drafod o fewn y tasglu, ni fyddwn yn cyhoeddi cofnodion o'r cyfarfodydd. Bydd yr Aelodau'n parchu natur gyfrinachol unrhyw drafodaethau. Bydd holl aelodau'r grŵp yn cytuno ar unrhyw allbynnau eraill a gyhoeddir gan y grŵp.

Swyddogaeth yr ysgrifenyddiaeth

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth.

Gweinyddu ac aelodaeth

Bydd y tasglu yn ceisio cwrdd bob mis trwy gyfuniad o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd ar Microsoft Teams.

Bydd y tasglu yn cael ei gefnogi gan swyddogion o bob rhan o'r llywodraeth.

Mae pob cyfarfod yn debygol o ganolbwyntio ar thema benodol.

Cydlynydd/Cadeirydd y tasglu fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Bydd aelodaeth fel a ganlyn:

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
  • Gweinidog Gwladol Iwerddon gyda chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth Ryngwladol a Thrafnidiaeth Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd
  • Conswl Cyffredinol Iwerddon
  • Swyddogion Trafnidiaeth Llywodraeth Iwerddon
  • Cynrychiolydd o Bolisi Morwrol Llywodraeth yr Alban
  • Cynrychiolydd o Adran Isadeiledd Gogledd Iwerddon
  • Cynrychiolydd o Adran Drafnidiaeth Iwerddon
  • Cynrychiolydd o Swyddfa Cymru
  • Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
  • Arewinydd Cyngor Sir Penfro
  • Cynrychiolydd o Irish Ferries
  • Cynrychiolydd o Stenaline
  • Cynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol y Gweithiwr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth
  • Cynrychiolydd o Y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd
  • Cynrychiolydd o Logisteg Prydain
  • Cynrychiolydd o Gymdeithas Allforwyr Iwerddon
  • Cynrychiolydd o Gymdeithas Cludiant Cludo Nwyddau Iwerddon
  • Cynrychiolydd o Llywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth

Grwpiau Cyswllt

Bydd grŵp cyswllt yn cael ei sefydlu ar gyfer yr Aelodau hynny o'r Senedd sydd â phorthladdoedd Môr Iwerddon yn eu hetholaeth (gan gynnwys ASau rhanbarthol) fel eu bod yn parhau i gael eu diweddaru wrth i'r tasglu fynd rhagddo.

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn anfon brîff ysgrifenedig yn dilyn pob un o gyfarfodydd y tasglu (gyda'r opsiwn o drefnu galwad dilynol).