Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, dargedau uchelgeisiol newydd ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyfanswm y trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi treblu ers 2010, gan ddarparu y llynedd 32% o’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn credu y gall Cymru fod ar flaen y gad o ran yr ymdrechion byd-eang i ddatgarboneiddio, a chyhoeddodd heddiw dargedau newydd uchelgeisiol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Dywedodd wrth Aelodau'r Cynulliad ei bod yn awyddus i weld Cymru yn cynhyrchu 70 y cant o’r trydan y mae’n ei ddefnyddio gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy erbyn 2030. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, “Rhaid i Gymru allu cystadlu yn y farchnad carbon isel fyd-eang, yn enwedig o gofio ein bod ni’n gadael yr UE. Mae ein gallu i ddiwallu ein hanghenion drwy ddefnyddio ynni glân yn sail i economi carbon isel sy’n ffyniannus.

“Dyma pam dwi’n cyhoeddi heddiw dargedau i ganolbwyntio arnyn nhw ledled y wlad er lles Cymru.

“Yn gyntaf, dw i’n gosod targed i Gymru gynhyrchu 70 y cant o’r ynni y mae’n ei ddefnyddio gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy erbyn 2030. 

“Yn ail, rwy’n gosod targed i un Gigawatt o ynni adnewyddadwy gael ei gynhyrchu’n lleol erbyn 2030. 

“Yn olaf, erbyn 2020 rwy’n disgwyl y bydd gan brosiectau ynni adnewyddadwy newydd o leiaf un elfen o berchnogaeth leol.

“Credaf fod y targedau hyn yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy ac y byddant yn ein helpu i ddatgarboneiddio ein system ynni, lleihau costau tymor hir a dod â mwy o fanteision i Gymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r targedau hyn ond mae hefyd yn edrych tuag at Lywodraeth y DU i gyflawni mewn meysydd sydd heb eu datganoli i Gymru. Dylai Llywodraeth y DU gefnogi technolegau er mwyn iddyn nhw allu cystadlu yn y farchnad.

Dywedodd:

“Mae newidiadau cyflym i bolisïau'r DU wedi amharu’n sylweddol ar rannau mawr o’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae datblygiadau a allai fod yn werthfawr i Gymru wedi'u hatal yn llwyr gan Weinidogion Llywodraeth y DU.  Mae’r rhan fwyaf o’r buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy gan Lywodraeth y DU yn mynd yn awr i brosiectau gwynt ar y môr y tu allan i Gymru. Ymhlith y bobl sy’n talu am y buddsoddiad hwn mae talwyr biliau yng Nghymru.  

“Mae angen i’r rhan fwyaf o’r cyflenwad ynni ddod o’r technolegau mwyaf fforddiadwy, os bydd y costau i’w talu drwy’r biliau ynni. Felly, mae angen i’r technolegau hyn gael llwybr i’r farchnad os rydym am gyflawni ein targedau uchelgeisiol a chyflwyno’r budd mwyaf i dalwyr biliau yng Nghymru. Dyna pam rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU beidio â pharhau i atal prosiectau gwynt ar y tir a phrosiectau solar o’r broses Contracts for Difference ar sail ideoleg.”

Mae Llywodraeth Cymru’n  cyfrannu at y gwaith. Rydyn ni wedi darparu tua €100 miliwn o Gronfa Strwythurol yr UE ar gyfer buddsoddi mewn ynni’r môr.