Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Gorffennaf, cafodd y targed cenedlaethol ei fodloni gan bob BIL am yr ail fis yn olynol ers i’r model ymateb clinigol newydd gael ei roi ar brawf am y tro cyntaf fis Hydref y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ystadegau diweddaraf, o fis Gorffennaf 2016, yn dangos bod 75.3% o ymatebion brys i salwch neu anafiadau sy’n fygythiad uniongyrchol i fywyd, sef galwadau coch, wedi cyrraedd o fewn wyth munud – gan ragori ar y targed o 65%.

5 munud a 5 eiliad oedd yr amser ymateb canolrifol i alwadau coch ar draws Cymru gyfan. Deliodd y gwasanaeth â 1,277 o alwadau y dydd ar gyfartaledd, cynnydd o 3.4% ar y cyfartaledd dyddiol ym mis Mehefin 2016.

Ym mis Gorffennaf, cafodd y targed cenedlaethol ei fodloni gan bob Bwrdd Iechyd Lleol am yr ail fis yn olynol ers i’r model ymateb clinigol newydd gael ei roi ar brawf am y tro cyntaf fis Hydref y llynedd. Mae’r model hwn yn rhoi blaenoriaeth i gleifion sy’n ddifrifol wael.    

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Llesiant:

“Mae’n galonogol iawn gweld bod pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru wedi rhagori ar y targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch am yr ail fis yn olynol, er gwaetha’r galw sy’n cynyddu’n rheolaidd. Ym mis Gorffennaf, cafodd mwy na 39,500 o alwadau brys eu gwneud i Wasanaeth Ambiwlans Cymru – 1,277 o alwadau y dydd ar gyfartaledd.

“Hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am eu hymroddiad i ddarparu’r help sydd ei angen ar bobl yn gyflym, er gwaetha’r pwysau hyn.  

“Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod gwasanaeth ymateb brys yn cael ei ddarparu i gleifion sydd wir ei angen diolch i’r model newydd a gafodd ei gyflwyno gennym fis Hydref. Dylai pobl fod yn gwbl hyderus fod y system newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd y gofal mae pobl yn ei gael ac ar y canlyniadau.

“Yma yng Nghymru, mae gennym ni lawer i ymfalchïo ynddo, ond fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – a’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach – eisoes yn cynllunio ar gyfer y misoedd sydd i ddod a’r cyfnod anodd dros y gaeaf.”