Ystadegau, Dogfennu
Tanau llosgi bwriadol: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (canlyniadau pennawd)
Gwybodaeth am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 95 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau tân rhwng mis Ebrill 2023 a diwedd mis Mawrth 2024. Gwneir cymariaethau â’r cyfnod Ebrill 2022 i Mawrth 2023.
Prif bwyntiau
Tanau
- Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i gyfanswm o 5,379 o danau bwriadol yn 2023-24. Mae hyn yn ostyngiad o 14% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae hyn tua un un rhan o bump o’r nifer yn 2001-02.
- Roedd tua un rhan o bump o danau bwriadol yn 2023-24 yn brif danau.
- Yn 2023-24, roedd 70% o’r tanau bwriadol yn Ne Cymru, dros un rhan o bump yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a bron i ddegfed yng Ngogledd Cymru.
Cerbydau
- Yn 2023-24, roedd 473 o brif danau a gafodd eu cynnau’n fwriadol mewn ceir, cynnydd o 11% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Tanau mewn ysgolion
- Yn 2023-24, cafwyd 2 o danau bwriadol mewn ysgolion, sy’n cyfateb i 13% yr holl danau mewn ysgolion.
Tarddiad a deunyddiau peryglus
- Dros y 5 mlynedd diwethaf, fflam noeth oedd tarddiad y tân mewn 29% o’r prif danau bwriadol.
- O’r holl sylweddau peryglus mewn prif danau bwriadol yn y cyfnod 2019-20 hyd at 2023-24, roedd 86% yn hylifau fflamadwy.
Marwolaethau ac anafiadau
- Yn 2023-24, cafwyd 4 farwolaeth a 50 o anafiadau heb fod yn rhai angheuol o ganlyniad i danau bwriadol.