Gwybodaeth am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tanau llosgi bwriadol
Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau tân rhwng mis Ebrill 2021 a diwedd mis Mawrth 2022. Gwneir cymariaethau â’r cyfnod Ebrill 2020 i Fawrth 2021, cyfnod a effeithiwyd i raddau helaeth gan y pandemig coronafeirws (COVID-19), pan roedd cyfyngiadau iechyd cyhoeddus mewn grym. Er i gyfyngiadau gael eu llacio yn ystod 2021-22 bu rhai cyfnodau yn ystod y flwyddyn lle'r oedd cyfyngiadau’n parhau i fod mewn grym, ac mae’n bosibl nad oedd patrymau ymddygiad wedi dychwelyd i batrymau cyn y pandemig.
Tanau
- Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i gyfanswm o 6,122 o danau bwriadol yn 2021-22. Mae hyn yn gynnydd o 4% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae tua chwarter y nifer yn 2001-02.
- Roedd tua un rhan o bump o danau bwriadol yn 2021-22 yn brif danau.
- Yn 2021-22, roedd 65% o’r tanau bwriadol yn Ne Cymru, dros chwarter yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a bron i ddegfed yng Ngogledd Cymru.
Cerbydau
- Yn 2021-22, roedd 499 o brif danau a gafodd eu cynnau’n fwriadol mewn ceir, gostyngiad o 6% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Tanau mewn ysgolion
- Yn 2021-22, cafwyd 5 o danau bwriadol mewn ysgolion, sy’n cyfateb i chwarter yr holl danau mewn ysgolion.
Tarddiad a deunyddiau peryglus
- Dros y 5 mlynedd diwethaf, fflam noeth oedd tarddiad y tân mewn 31% o’r prif danau bwriadol.
- O’r holl sylweddau peryglus mewn prif danau bwriadol yn y cyfnod 2017-18 hyd at 2021-22, roedd 82% yn hylifau fflamadwy.
Marwolaethau ac anafiadau
- Yn 2021-22, cafwyd 2 farwolaeth a 42 o anafiadau heb fod yn rhai angheuol o ganlyniad i danau bwriadol.
Adroddiadau
Tanau llosgi bwriadol, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tanau llosgi bwriadol, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 70 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.