Gwybodaeth am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tanau llosgi bwriadol
Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r tân rhwng mis Ebrill 2019 a diwedd mis Mawrth 2020. Mae'n cwmpasu cyfnod yn bennaf cyn pandemig coronafeirws (COVID-19), a'r mesurau cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 23 Mawrth 2020.
Tanau
- Ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru i 6,054 o danau bwriadol yn 2019-20. Mae hyn yn ostyngiad o 20% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae tua chwarter y nifer yn 2001-02.
- Roedd tua un rhan o bump o danau bwriadol yn 2019-20 yn brif danau.
- Yn 2019-20, roedd 63% o danau bwriadol yn ne Cymru, dros chwarter yng nghanol a gorllewin Cymru, ac amgylch degfed yng ngogledd Cymru.
Cerbydau
- Yn 2019-20, roedd 670 o brif danau a gychwynnwyd yn fwriadol mewn ceir, cynnydd o 6% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Tanau mewn ysgolion
- Yn 2019-20, roedd 4 o danau bwriadol mewn ysgolion, sy’n cyfateb i 17% o’r holl danau mewn ysgolion.
Tarddiad a defnydd peryglus
- Dros y 5 mlynedd diwethaf, dodrefn ac eitemau dodrefnu oedd y defnydd a daniodd gyntaf mewn 16% o’r prif danau bwriadol.
- O’r holl sylweddau peryglus mewn prif danau bwriadol yn 2015-16 i 2019-20, roedd 79% yn hylifau fflamadwy.
Marwolaethau neu anafiadau
- Yn 2019-20, roedd 5 marwolaethau ac 69 o anafiadau heb fod yn rhai angheuol o ganlyniad i danau bwriadol.
Adroddiadau
Tanau llosgi bwriadol, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tanau llosgi bwriadol, Ebrill 2019 i Fawrth 2020: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 114 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.