Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Cyhoeddir data tân glaswelltir fel bwletin atodol i’r ystadegau digwyddiad tân ac achub a gynhyrchwyd ym mis Tachwedd 2024.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub sy’n ymwneud â glaswelltir rhwng mis Ebrill 2023 a diwedd mis Mawrth 2024, wrth gymharu ag Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Prif bwyntiau

Tanau

  • Ymatebodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru i 1,788 o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yn 2023-24, gostyngiad o 32% ar y nifer yn 2022-23.
  • Cynyddodd nifer y tanau glaswelltir cynradd 3% yn 2023-24 o gymharu â 2022-23, er bod y niferoedd yn fach.
  • Gostyngodd nifer u tanau eilaidd ar laswelltir 34% yn 2023-24 (o'i gymharu â 2022-23).
  • Yn 2023-24, roedd 7 mewn 10 o danau ar laswelltir, cnydau a choedwigoedd wedi eu cychwyn yn fwriadol.
  • Digwyddodd 61% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd 2023-24 ym mis Mai 2023 a mis Mehefin 2023. Dengys data’r Swyddfa Dywydd y gwelwyd 36% o’r oriau o heulwen a dim ond 5% o’r oriau o law a ddigwyddodd yn 2023-24 yn ystod y misoedd yma.
  • Digwyddodd 51% o danau glaswelltir yn 2023-24 yn Ne Cymru; 37% yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a 13% yng Ngogledd Cymru.

Anafiadau

  • Roedd 2 o anafiadau nad oedd yn angheuol, o ganlyniad i danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yng Nghymru yn 2023-24. 
  • Cafwyd y farwolaeth ddiwethaf yn 2007-08 o ganlyniad i danau glaswelltir.

Difrod

  • Yn 2023-24, gwnaeth 64% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd difrod i ardaloedd llai na 20 metr sgwâr. 
  • Difrododd 17% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd ardal o fwy na 200 metr sgwâr.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Claire Davey
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image