Neidio i'r prif gynnwy

Data am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Prif bwyntiau

Tanau

  • Ymatebodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru i 2,189 o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yn 2019-20, gostyngiad o 45% ar y nifer yn 2018-19.
  • Mae nifer y tanau hyn yn dueddol o amrywio ac mae'r gostyngiad hwn mewn niferoedd yn dilyn cynnydd o 92% yn 2018-19.
  • Roedd llai na hanner y nifer o danau glaswelltir cynradd yn 2019-20 o’i gymharu â 2018-19.
  • Gostyngodd hefyd nifer o danau eilaidd ar laswelltir 45% yn 2019-20 (o'i gymharu â 2018-19).
  • Yn 2019-20, cafodd dros dri chwarter o danau ar laswelltir, cnydau a choedwigoedd eu cychwyn yn fwriadol.
  • Digwyddodd 32% o danau glaswelltir yn 2019-20 ym mis Ebrill 2019, fwy na 3 gwaith cymaint ag ym mis Ebrill 2018. Dengys data’r Swyddfa Dywydd y gwelwyd 24% yn fwy o oriau o heulwen a 15% yn llai o law ym mis Ebrill 2019 o'i gymharu â Ebrill 2018.
  • Digwyddodd hanner nifer y tanau glaswelltir yn 2019-20 yn Ne Cymru; 37% yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a 13% yng Ngogledd Cymru.

Anafiadau

  • Roedd 6 o anafiadau nad oedd yn angheuol, o ganlyniad i danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yng Nghymru yn 2019-20.
  • Cafwyd y farwolaeth ddiwethaf yn 2007-08 o ganlyniad i danau glaswelltir.

Difrod

  • Yn 2019-20, difrododd dros hanner y tanau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd ardaloedd llai na 20 metr sgwâr.
  • Difrododd un ymhob pump o danau ardal o fwy na 200 metr sgwâr.

Adroddiadau

Tanau glaswelltir, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Tanau glaswelltir, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 98 KB

ODS
Saesneg yn unig
98 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.