Mae ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod y dreth gyngor yn dal i fod yn is yng Nghymru nag yn Lloegr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd treth gyngor Band D yng Nghymru yn £1,420 ar gyfartaledd yn 2017-18, sy'n £171 yn llai na'r swm cyfartalog yn Lloegr, sef £1,591.

Yn seiliedig ar yr amcangyfrifon sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, mae'r cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor ar gyfer band D yng Nghymru hefyd yn is na'r ffigur ar gyfer Lloegr. 4.0% yw'r cynnydd cyfartalog yn Lloegr ar gyfer 2017-18, ac mae'r cynnydd hwn yn 3.3% yng Nghymru. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i roi cymorth i bron i 300,000 o aelwydydd sydd angen help i dalu eu biliau treth gyngor drwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Nid yw tua 220,000 o'r aelwydydd hynny yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Gan groesawu'r ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw, dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae cynghorau yma yn wynebu rhai heriau ariannol sylweddol ond mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos ein bod yn amddiffyn llywodraeth leol o'r toriadau gwaethaf sydd wedi cael eu trosglwyddo inni gan San Steffan. Drwy wneud hynny, rydyn ni hefyd yn amddiffyn y trethdalwr, wrth reswm; sefyllfa sydd ddim yn cael ei hadlewyrchu'r ochr draw i'r ffin.

“Yn 2017-18, rydyn ni'n rhoi £10 miliwn yn fwy o gyllid i lywodraeth leol o'i gymharu â 2016-17. O dan y cyllid gwaelodol gafodd ei gyflwyno gennym yn y Setliad Llywodraeth Leol, fydd dim rhaid i unrhyw gyngor oroesi ar lai na  99.5% o'r arian parod a gafodd ei roi iddyn nhw y llynedd, a bydd y rhan fwyaf yn cael mwy na hynny.  

“Mae ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn chwarae rôl allweddol i drechu tlodi yng Nghymru, ond rydyn ni hefyd yn ystyried ar hyn o bryd sut allwn ni wneud ein system yn decach i'r rheini sydd ddim yn gallu cyfrannu cymaint. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach am ein cynlluniau yn ystod tymor y Cynulliad hwn.”