Taliadau Gwledig Cymru (RPW): Y diweddaraf am y gwasanaeth a phrosiectau a noddir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig: Mehefin 2023
Diweddariad diweddaraf y gwasanaeth ar y Rhaglen Datblygu Gwledig (CDG) 2014-2020 dyddiedig Mehefin 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prosiectau sydd â dyddiad cau 30 Mehefin 2023 ar gyfer hawliadau ariannol
Disgwylir i bob prosiect sydd â hawliad ariannol diwethaf dyddiedig 30 Mehefin 2023 fod wedi cyflawni holl wariant cymwys y prosiect erbyn y dyddiad hwn a chyflwyno eu hawliad terfynol erbyn 7 Gorffennaf 2023 a dim hwyrach.
Os oes gennych chi hawliad ar eich proffil ar gyfer mis Mehefin 2023, bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn cysylltu â chi cyn 12 Mehefin fel bod gennych ddigon o amser i gyflwyno’ch hawliad terfynol erbyn 7 Gorffennaf 2023.
Os oes gennych fwy nag un hawliad ar gael (â statws Gwahoddwyd), rydym yn eich cynghori i gyflwyno hawliad mis Mehefin a chysylltu â RPW er mwyn canslo’r hawliad(au) hŷn.
Cofrestr gwariant a chofnodion tendro cystadleuol
Cofiwch gyflwyno gwybodaeth dendro gystadleuol eich prosiectau i RPW, drwy WEFO Ar-lein, i’w chymeradwyo cyn cyflwyno eich hawliad.
Ar gyfer eitemau prosiectau gwerth dros £500 ond llai na £5,000:
- Cyflwynwch gofnod Tendro Cystadleuol er mwyn cael y gwariant wedi’i gymeradwyo.
Ar gyfer eitemau prosiectau gwerth dros £5,000:
- Cyflwynwch gofnod Tendro Cystadleuol er mwyn cael y gwariant wedi’i gymeradwyo.
- Cyflwynwch dystiolaeth ategol h.y. copïau o 3 dyfynbris a gafwyd.
Fe welwch y Cofnodion Tendro Cystadleuol yn Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020: templed cofnod tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus
Ymchwiliad Prosiect ‘yn ei safle’
Mae’n ofynnol i RPW gynnal ymchwiliad ‘yn ei safle’ o’r holl brosiectau cyn y gellir rhyddhau’r taliad terfynol.
Bydd yr ymchwiliad yn gwirio bod:
- Eitemau sydd wedi’u hawlio yn eu lle
- Tystiolaeth o wariant prosiect, lle bo hynny’n briodol
- Yr allbynnau a’r dangosyddion ar gyfer eich prosiect wedi’u bodloni, ac
- Amodau arbennig cytundebol wedi’u cwblhau
Bydd angen i brosiectau sy’n cael eu cynnal o dan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) ddarparu mapiau yn dangos lleoliad y gwaith.
Bydd angen i brosiectau Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCD) ddarparu adroddiadau gwerthuso.
I helpu i leihau’r amser sydd ei angen i gynnal yr ymchwiliad ac osgoi oedi gyda’ch taliad terfynol gofynnwn ichi ddechrau casglu gwybodaeth o’r fath cyn yr ymchwiliad.
Os nad ydych eisoes wedi cael, byddwch yn cael llythyr cyn bo hir sy’n rhoi mwy o fanylion am yr wybodaeth a’r dystiolaeth y bydd angen eu cynnig a/neu eu cyflwyno yn yr ymchwiliad.
Ymholiadau am y prosiect
Os oes gennych ymholiadau, neu dystiolaeth ddogfennol i’w chyflwyno, anfonwch nhw i:
- Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu
- eich cyfrif RPW Ar-lein
Os nad ydych yn gallu agor eich cyfrif RPW Ar-lein, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar unwaith.
Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Mae gwasanaeth ffôn y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn gweithio fel a ganlyn:
Cyfnod | Oriau agor |
Llun – Gwener |
9am - 4pm |
Os medrwch, anfonwch eich ymholiadau neu geisiadau ‘pob dydd’ drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.