Taliadau Gwledig Cymru (RPW): rhanddirymiadau contract Glastir: Gorffennaf 2023
Dylech gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru os ydych yn cael anawsterau bodloni unrhyw un o'r gofynion cytundebol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Os ydych yn cael anawsterau bodloni unrhyw un o'r gofynion cytundebol o dan eich contract Glastir, dylech gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar unwaith i ofyn am randdirymiad a thrafod yr opsiynau sydd ar gael i chi.
Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ofyn am randdirymiad oherwydd yr amodau tywydd sych diweddar neu gyfyngiadau symud TB.
Rhaid gwneud pob cais am randdirymiad yn ysgrifenedig neu drwy eich cyfrif RPW Ar-lein a rhaid eu gwneud ymlaen llaw Dylai'r cais gynnwys manylion llawn, gan gynnwys rhif y caeau a'r opsiynau sydd wedi eu heffeithio. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos, ac ni ddylech wyro oddi wrth eich contract Glastir heb gymeradwyaeth gan RPW.
Pan fydd rhanddirymiad yn cael ei roi, mewn rhai amgylchiadau ni fydd yr opsiwn(au) yn cyfrannu at eich taliad blynyddol, ond ni fydd unrhyw gosbau am fethu â chyflawni'r opsiwn(au) a gwmpesir gan y rhanddirymiad.
Byddwch yn ymwybodol nad ellid rhoi i randdirymiad os ydych yn barod wedi methu’r gofynion cytundebol o dan eich contract.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein neu drwy'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.