Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd a diben

1. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi tryloywder tâl uwch reolwyr. Mae'n casglu mewn un lle'r datgeliadau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi gan gyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru rhwng 2018 i 19 a 2021 i 22. Nid yw'r adroddiad yn ceisio dadansoddi na chynnig casgliadau, nodi tueddiadau neu wneud argymhellion.
 

2. Mae'r sefydliadau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli'r sector iechyd, yr awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, yr heddlu, sefydliadau eraill a ariennir gan Senedd Cymru neu Lywodraeth Cymru (gan Gronfa Gyfunol Cymru) a, lle mae gwybodaeth ar gael, sefydliadau addysg uwch.

Gofynion o ran datgelu cydnabyddiaeth ariannol uwch-reolwyr

3. Rhaid i bob corff cyhoeddus adrodd ar dâl ei staff uwch yn ei ddatganiadau ariannol blynyddol neu ei adroddiad cydnabyddiaeth ariannol. Mae union natur yr wybodaeth y mae ei hangen yn amrywio rhwng sectorau gwahanol yn unol â’r gofynion statudol perthnasol a’r canllawiau cyfrifyddu cysylltiedig.

4. Bydd cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a chyrff y llywodraeth ganolog (e.e. Llywodraeth Cymru a'i chyrff hyd braich) yn paratoi eu cyfrifon yn unol â'r canllawiau a geir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM). Mae'r FReM yn ei gwneud yn ofynnol llunio adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr ochr yn ochr â’r datganiadau ariannol blynyddol.

5. Mae'r awdurdodau lleol, heddluoedd, y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn paratoi eu cyfrifon yn unol â Chod Ymarfer ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA). Mae CIPFA yn ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon blynyddol gynnwys datganiadau ariannol sy'n cynnwys gwybodaeth benodol am gydnabyddiaeth ariannol uwch-reolwyr, ond nid oes unrhyw ofyniad i lunio adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol.

6. Mae'r gofynion datgelu ar gyfer sefydliadau addysg uwch wedi'u hamlinellu yn y Datganiad o'r Arfer a Argymhellir ar gyfer Cyfrifyddu (SORP) yn ogystal â'r cyfarwyddiadau ar gyfrifon blynyddol a gyhoeddir gan y corff ariannu perthnasol.

7. Mae llawer o'r sefydliadau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn hefyd yn llunio datganiad blynyddol ar bolisi tâl. Mae hyn wedi bod yn ofyniad ar yr awdurdodau lleol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, ac awdurdodau tân ac achub, yng Nghymru) o dan adran 38 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ers y flwyddyn ariannol 2012-13. Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru (fel cyflogwr) a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi llunio datganiadau ar bolisi tâl yn unol ag egwyddorion Llywodraeth Cymru ynghylch tryloywder adroddiadau ar gydnabyddiaeth ariannol staff uwch.

Cyfraddau cyflogau prif weithredwyr

8. Mae'r tablau'n adrodd ar gyflogau prif weithredwyr (neu eu gradd gyfatebol) ar draws gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Lle mae'r wybodaeth ar gael, mae tâl yn cael ei gymharu dros y pedair blynedd diwethaf.

9. Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar gyflog blynyddol gros ac nid yw'n cynnwys cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, treuliau na buddiannau mewn nwyddau. Os cafodd swydd ei llenwi am ran o flwyddyn yn unig, caiff hyn ei ddangos a'i esbonio mewn troednodyn. Os oedd mwy nag un person wedi dal y swydd, rydym wedi adio'r gydnabyddiaeth at ei gilydd ac esbonnir hyn mewn troednodyn. Mae'r wybodaeth yn cael ei chyflwyno yn yr un fformat ag y mae yng nghyfrifon y sefydliad, hy, fel cyflog penodol neu fel ystod cyflog.

Gwybodaeth am rywedd

10. Mae'r tablau'n adrodd ar rywedd prif weithredwyr (neu eu gradd gyfatebol) ar draws gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Ceir crynodeb o'r wybodaeth hon yn tablau 11 a 12.

Cymarebau tâl

11. Mae'r tablau'n adrodd ar dâl ar draws gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n rhaid i gyrff sy’n cyflwyno adroddiadau o dan y FReM gynnwys y gymhareb rhwng tâl canolrifol staff (cyflog y person sydd yng nghanol rhestr o dâl gyflogeion) a thâl y 'cyfarwyddwr' sy'n derbyn y tâl uchaf (yn seiliedig ar bwynt canol band cydnabyddiaeth y cyfarwyddwr sy'n).

12. Mae egwyddorion tryloywder Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai datganiadau ar bolisi tâl gynnwys y berthynas rhwng y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer swyddi uwch a chydnabyddiaeth ariannol y swyddi sy'n cael y tâl isaf.

13. Mae'r mwyafrif o'r sefydliadau a restrir isod yn yr atodiad wedi defnyddio union gyflog y prif weithredwr, neu bwynt canol band cyflog y prif weithredwr, o'i gymharu â'r cyflog canolrifol. Mae'r eithriadau wedi'u hesbonio yn y troednodiadau. 

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

14. Mae cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol eraill yn gyrff preifat y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae eu corff ambarél, Cartrefi Cymunedol Cymru, wedi cyhoeddi ei grynodeb ei hun o dâl uwch yn y sector.