Bydd Llywodraeth Cymru'n mynd â chynrychiolaeth o bum cwmni blaengar i Gynhadledd Sefydliad Technoleg Massachusetts, sy'n fyd enwog, ar Arloesi ym maes Rheoli.
Caiff y gynhadledd hon ei chynnal fel rhan o Raglen Gyswllt Ddiwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT - ILP). Bydd cyfle i'r cwmnïau elwa ar wrando ar siaradwyr uchel eu bri a chymryd rhan mewn gweithdai a bydd cyfle iddynt hefyd gael cyfarfodydd un i un a fydd wedi'u teilwra i'w hanghenion gydag arbenigwyr amrywiol.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
"Credwn fod economi gadarn a chydnerth yn gwbl allweddol i lwyddiant Cymru. Mae datblygu amgylchedd sy'n ffafriol i fusnesau ac sy'n creu cyfleoedd i fusnesau gychwyn, tyfu a ffynnu'n flaenoriaeth allweddol. Mae nifer ynghyd â phroffil y cwmnïau sydd eisoes yn gweithredu yng Nghymru'n tystio i lwyddiant Cymru mewn marchnadle byd eang.
"Nid yw Cymru'n gorffwys ar ei rhwyfau, fodd bynnag. Mae'n cydnabod pwysigrwydd allweddol hyrwyddo sgiliau, arbenigedd, arloesedd a blaengaredd heb eu hail er mwyn sicrhau llwyddiant economaidd parhaus."
"Dim ond un agwedd ar y cymorth amrywiol i fusnesau y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu yw galluogi cwmnïau i ddysgu gan y goreuon. Gall wneud hyn yn sgil ei chysylltiadau â Rhaglen Gyswllt Ddiwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts. Mae'r rhaglen hon yn galluogi arweinwyr busnes i gysylltu'n uniongyrchol â'r arbenigwyr a'r ymarferwyr uchaf eu bri o fewn Sefydliad Technoleg Massachusetts ac mae hefyd yn creu cyfleoedd unigryw ar gyfer rhwydweithio a rhannu gwybodaeth.
"Rwy'n gobeithio y bydd y mewnbwn unigryw gan yr arbenigwyr a fydd yn cyflwyno yn y gynhadledd yn ysgogi ac yn cyflymu twf busnesau ac yn annog blaengaredd a chydweithredu er mwyn atgyfnerthu a gwarchod economi Cymru at y dyfodol."