Neidio i'r prif gynnwy

Mae gosodiad celf  EPIC Croeso Cymru yn parhau ar ei daith o amgylch Cymru  wrth iddo deithio i gyfeiriad y dwyrain i Ganolfan Beicio Mynydd Oneplanet Adventure yng Nghoed Llandegla.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd EPIC yn symud o Ben-y-Gwryd ddydd Gwener 29 Gorffennaf a bydd i’w weld yn Llandegla ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf lle bydd yn aros tan 8 Awst. 

Mae’r llythrennau anferth adlewyrchol 4 metr o uchder ac 11 metr o led sy’n ffurfio’r gair ‘EPIC’ yn rhan o gam diweddaraf ymgyrch farchnata Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan antur. Bydd yn ymddangos yn ddirybudd ar hyd ac ar led y wlad dros yr haf.

Mae Jim Gaffney o Oneplanet Adventure, yng Nghoed Llandegla, yn edrych ymlaen at groesawu EPIC a chynnig cartref iddo am yr wythnos nesaf, a dywedodd: 

“Mae’r ffaith bod y gosodiad yn dod i’n coedwig ni yn hynod gyffrous ac o ystyried bod cynifer o dirweddau anhygoel yma yng Nghymru, mae’n fraint inni gael ein dewis. Allwn ni ddim aros i weld ymateb ein cwsmeriaid iddo, a dw i’n siŵr y bydd yn cael effaith bositif iawn o ran helpu i dynnu sylw at y cyfleusterau a’r tirweddau gwych y gall Cymru eu cynnig i unrhyw un sy’n chwilio am brofiad ‘Epig’.”  

Bydd y gosodiad celf teithiol arloesol hwn yn tyfu’n ganolbwynt i ymwelwyr dynnu hunluniau, a’r nod yw annog pobl i rannu delweddau a deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #Gwladgwlad #Epic. Yn ogystal â’r daith, mae ymgyrch integredig yn cael ei chynnal, sy’n cynnwys gwaith cysylltiadau cyhoeddus a gweithgareddau eraill ar y cyfryngau, fel hysbysebion digidol, marchnata drwy e-byst a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i deuluoedd ac ymwelwyr yn ein rhanbarthau craidd yng Ngogledd-orllewin Lloegr, Canolbarth Lloegr, De-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a’r Seilwaith yn Llywodraeth Cymru: 

“Mae hwn yn gyfnod anhygoel i dwristiaeth yng Nghymru. Rydyn ni’n gweld mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn dod yma ac yn aros yma a’r hyn sydd i gyfri’ am hynny yw’r proffil uwch sydd gennym ar lwyan y byd. 

“Mae ymdeimlad rhyfeddol o gyffro ar ôl yr Ewros a dw i’n hyderus y  byddwn ni’n gweld  twf pellach ym maes twristiaeth yng Nghymru, diolch i’r atyniadau arloesol newydd sy’n cael eu datblygu, ansawdd yr hyn sy’n cael ei gynnig ym maes twristiaeth, a mwy o’r mathau hyn o anturiaethau epig.

“Mae’r llythrennau EPIC yn anferth a byddan nhw i’w gweld ledled Cymru, gan annog pobl i ddod o hyd i’w profiadau epig eu hunain yn y Flwyddyn Antur hon.” 

Cafodd y llythrennau eu dylunio gan Smorgasbord, asiantaeth greadigol Croeso Cymru, a’u gwneud gan Wild Creations, sef y cwmni o Gaerdydd a greodd y ‘Bêl yn y Wal’ yng nghastell Caerdydd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015. Wrth greu’r gair EPIC, fe’i gorchuddiwyd â haenen adlewyrchol a fydd yn adlewyrchu prydferthwch tirwedd Cymru. Treuliodd pedwar o bobl dair wythnos yn adeiladu’r gosodiad, ac mae’r llythrennau’n pwyso 350kg yr un, sy’n gwbl syfrdanol. Bydd angen deg o bobl i’w osod ym mhob lleoliad.