Tair blynedd ar ôl refferendwm yr UE, mae'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles yn dweud bod yr achos dros bleidlais arall yn gryfach nag erioed.
Dywedodd Mr Miles unwaith eto nad oes mandad ar gyfer Brexit heb gytundeb, ac y byddai rhwygo'r wlad o'r UE heb gytundeb yn niweidio economi Cymru yn fwy nag unman arall.
"Yn dilyn canlyniad y refferendwm, fe aethom ni ati ar unwaith i weithio ar gynllun manwl ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn ffordd a oedd yn adlewyrchu'r canlyniad ond a oedd hefyd yn osgoi unrhyw niwed diangen i'n heconomi a'n swyddi.
"Yn anffodus, dydy'r fersiwn rydyn ni'n ei chynnig o Brexit ddim yn medru sicrhau cefnogaeth mwyafrif yn Senedd y Deyrnas Unedig.
"Mae hynny'n gadael dau ddewis: cael ein rhwygo o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
"Yn syml, does dim mandad ar gyfer ymadael heb gytundeb. Nid dyna'r cwestiwn a holwyd i bobl yn 2016, ac yn sicr nid dyma sydd orau i ni. Ond mae'n ymddangos bod y rhai sy'n benderfynol o gael Brexit heb gytundeb bellach yn cydio mewn grym.
"Dydy newid arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ddim yn mynd i newid y sefyllfa sydd ohoni. Pwy bynnag sy'n olynu Theresa May, beth bynnag ei gefndir neu sgiliau seneddol, bydd yn wynebu'r un problemau y methodd hi eu goresgyn.
"Rhaid i ni beidio ag ildio i'r rhai sy'n annog ymadael heb gytundeb; y bobl sydd am weld Brexit caled ond sy'n gwrthod cydnabod y goblygiadau i'r rhai fydd yn dioddef ergyd i'w swyddi a'u bywoliaeth.
"Rhaid i ni beidio credu'r rhai sy'n addo'n ddi-hid y bydd popeth yn iawn mewn rhai blynyddoedd. Rhaid i ni amddiffyn ein cymunedau a'n pobl nawr.
"Yn ôl yr ystadegau diweddaraf* bydd colli mynediad am ddim at farchnad fwyaf Cymru yn cael effaith hynod o niweidiol. Does dim modd anwybyddu'r ffaith bod 61.1% o'n nwyddau yn cael eu masnachu ar hyn o bryd gyda'r Undeb Ewropeaidd: does dim modd diystyru hynny drwy edrych o’r neilltu a rhoi addewid annelwig y bydd popeth yn iawn yn y man.
"Mae amser yn brin, a'r perygl o ymadael heb gytundeb yn cynyddu. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i gymryd camau i ddiogelu buddiannau Cymru a'i phobl. Er mwyn gwneud hynny, rydym yn argymell y dylai Cymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac fe fyddwn yn parhau i bwysleisio nad oes unrhyw fandad ar gyfer Brexit heb gytundeb."