Yn 2015, cyflwynodd Cymru system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau, a hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud penderfyniad o'r fath.
Tair blynedd yn ddiweddarach, mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething heddiw wedi nodi'r achlysur drwy ddiolch i bawb sydd wedi rhoi organ, mae pob rhodd o organau yn werthfawr ac fe allai achub bywyd.
Ystyr system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau yw os nad yw person wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – mae hyn yn cael ei alw yn gydsyniad tybiedig.
Mae data newydd a gyhoeddwyd fis diwethaf yn dangos, am y tro cyntaf, fod cynnydd mawr wedi bod yn y cyfraddau cydsynio i roi organau yn dilyn marwolaeth coesyn yr ymennydd yng Nghymru (88.2%) o'i gymharu â Lloegr (73.3%). Mae'r gyfradd cydsynio i roi organau yn dilyn marwolaeth gylchredol yng Nghymru hefyd wedi gwella ac mae'n 68% erbyn hyn, o'i gymharu â 59.8% yn Lloegr.
Bellach y cyfraddau cydsynio i roi organau yng Nghymru yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:
"Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gymryd y cam dewr i fabwysiadu system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau yng Nghymru.
"Dyna oedd y penderfyniad cywir a thair blynedd yn ddiweddarach mae gwledydd eraill yn dilyn ôl ein troed. Erbyn hyn ein cyfraddau ar gyfer cydsynio i roi organau yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU.
"Ni fyddai'r hyn a gyflawnwyd gennym wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y bobl yng Nghymru a'r gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n chwarae eu rhan i sicrhau bod y cynllun yn llwyddo. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cefnogaeth dros y tair blynedd ddiwethaf.
"Er gwaethaf ein llwyddiant, mae mwy eto i'w wneud. Nid yw'n dderbyniol bod pobl yn parhau i farw wrth aros am drawsblaniad.
"Mae'n hollbwysig bod pobl yn sôn wrth eu teuluoedd a'u hanwyliaid am eu dymuniadau o ran rhoi organau. Mae ffigurau Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos bod nifer o achosion lle mae teuluoedd wedi trechu penderfyniad eu perthnasau ar y gofrestr rhoddwyr organau, neu heb gefnogi caniatâd tybiedig.
"Rwy'n annog pawb i gael sgwrs gyda'u hanwyliaid am eu penderfyniad o ran rhoi organau, mae pob rhodd o organau yn werthfawr, ac fe allai achub bywyd."