Tai a gafodd eu dymchwel: Ebrill 2023 i Fawrth 2024
Gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Gall nifer yr anheddau a ddymchwelir amrywio’n fawr o’r nail flwyddyn i’r llall. Bydd yn dibynnu ar faint o waith datblygu a gwaith clirio a wneir yn ardal pob awdurdod yn ystod y cyfnod dan sylw [troednodyn 1].
- Yn 2023-24, dymchwelwyd 106 o anheddau ledled Cymru, gostyngiad o 39% o'i gymharu â 2022-23 [troednodyn 2].
- Yn yr 15 o awdurdodau lleol lle dymchwelwyd anheddau, roedd y niferoedd uchaf yn Wrecsam (32), a Sir y Fflint (24).
- Roedd 24 achos o ddymchwel mewn ardaloedd adnewyddu (i gyd yn Sir y Fflint), [troednodyn 3].
- Ers 2016-17, nid oes unrhyw waith dymchwel wedi cael ei wneud ar ardaloedd clirio yng Nghymru [troednodyn 4].
Troednodiadau
[1] Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo amcangyfrifon ar gyfer y stoc anheddau yng Nghymru.
[2] Yn cynnwys ffigurau amcangyfrifedig ar gyfer Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023-24.
[3] Mae cynlluniau adnewyddu tai sy’n seiliedig at ardaloedd yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.
[4] Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle’r ystyrir bod y tai yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu eu bod yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Bydd yr awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r ffordd fwyaf addas o ymdrin ag amodau o’r fath yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.