Neidio i'r prif gynnwy

Data blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Sylwer bod hwn yn gyfnod y mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn effeithio arno a allai fod wedi cael rhywfaint o effaith ar y ffigurau a adroddwyd. Oherwydd y pandemig ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20.

Gall nifer yr anheddau a ddymchwelir  amrywio yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n ddibynnol ar lefel y datblygiad a chlirio o fewn pob awdurdod yn ystod y cyfnod.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2020-21, dymchwelwyd 141 o anheddau ledled Cymru, sef 88% yn fwy na 2018-19.
  • Yn y 18 o awdurdodau lleol lle y dymchwelwyd adeiladau, cafwyd y niferoedd mwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (30), Sir y Fflint (21), Gwynedd (14) a Chaerdydd (13). 
  • Dymchwelwyd 25 o adeiladau mewn ardaloedd adnewyddu[troednodyn a] yn ystod 2020-21, sy'n cyfrif am 18% o'r holl adeiladau a ddymchwelwyd, sef 21 yn Sir y Fflint a 4 yn Nhorfaen.   
  • Ni chofnodwyd unrhyw ddymchweliadau mewn ardaloedd clirio[troednodyn b] yng Nghymru ers 2016-17. 

Troednodiadau

[a] Mae cynlluniau adnewyddu tai mewn ardaloedd penodol yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.

[b] Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle caiff y tai eu hystyried yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Mae'r awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r dull mwyaf addas o ymdrin â'r amodau hyn yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.

Nodi

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo amcangyfrifon stoc annedd ar gyfer Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.