Neidio i'r prif gynnwy

Data blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Gall nifer yr anheddau a ddymchwelir  amrywio yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n ddibynnol ar lefel y datblygiad a chlirio o fewn pob awdurdod yn ystod y cyfnod.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2018-19, dymchwelwyd 75 o anheddau yng Nghymru, sydd 45% yn llai nag yn 2017-18, a’r nifer isaf ers 2008-09.
  • Yn y 13 awdurdod lleol lle cafwyd dymchweliadau, cafwyd y niferoedd uchaf yng Nghastell-Nedd Port Talbot (9), Sir y Fflint (8) a Phen-y-bont ar Ogwr (8).
  • Fel ag yn ystod 2017-18, yn Sir y Fflint y cafwyd pob un o’r dymchweliadau o fewn ardaloedd adnewyddu(a), gan gynrychioli 11% o’r holl ddymchweliadau yn 2018-19.
  • Ni chofnodwyd unrhyw ddymchweliadau mewn ardaloedd clirio(b) yng Nghymru ers 2016-17.

(a) Mae cynlluniau adnewyddu tai mewn ardaloedd penodol yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.
(b) Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle caiff y tai eu hystyried yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Mae'r awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r dull mwyaf addas o ymdrin â'r amodau hyn yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo amcangyfrifon stoc annedd ar gyfer Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.