Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2017-18, dymchwelwyd cyfanswm o 137 anheddau ledled Cymru, sydd  6% yn fwy na’r nifer a ddymchwelwyd yn 2016-17.
  • Yn ystod 2017-18, doedd dim dymchweliadau yn 7 o’r 22 awdurdod lleol. Yn y 15 awdurdod arall, roedd y niferoedd yn amrywio o 26 yng Nghastell-Nedd Port Talbot i 1 yng Ngheredigion a 2 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
  • Ar lefel awdurdod lleol, gall nifer yr anheddau a ddymchwelwyd  amrywio yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn, ac mae’n ddibynnol ar lefel y datblygiad a chlirio o fewn pob awdurdod yn ystod y cyfnod. Er enghraifft, cafwyd 25 o ddymchweliadau yn Wrecsam yn ystod 2017-18, stoc yr awdurdod lleol yn bennaf, o gymharu â 3 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn ystod 2017-18, dymchwelwyd 10 o anheddau (7%) o fewn ardaloedd adnewyddu(a). Roedd y rhain i gyd yn Sir y Fflint.
  • Ni chofnodwyd unrhyw ddymchweliadau mewn ardaloedd clirio(b) yn ystod 2017-18.

(a) Mae cynlluniau adnewyddu tai mewn ardaloedd penodol yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.

(b) Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle caiff y tai eu hystyried yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Mae'r awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r dull mwyaf addas o ymdrin â'r amodau hyn yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.

Defnyddir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo amcangyfrifon stoc annedd ar gyfer Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.