Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2016 i Fawrth 2017.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2016-17, dymchwelwyd cyfanswm o 129 anheddau ledled Cymru, traean yn llai na nifer yr anheddau a ddymchwelwyd yn 2015-16.
  • Yn ystod 2016-17, doedd dim dymchweliadau yn 9 o’r 22 awdurdod lleol. Yn y 13 awdurdod arall, roedd y niferoedd yn amrywio o 27 yn Sir Ddinbych i 3 yn Wrecsam, Powys, Sir Benfro ac Abertawe.
  • Ar lefel awdurdod lleol, gall nifer yr anheddau a ddymchwelwyd  amrywio yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn, ac mae’n ddibynnol ar lefel y datblygiad a chlirio o fewn pob awdurdod yn ystod y cyfnod. Yn ystod 2016-17, dim ond 4 o anheddau a ddymchwelwyd yn Sir y Fflint, tra yn y flwyddyn flaenorol dymchwelwyd 114 o anheddau o ganlyniad i strategaeth adfywio lleol.
  • Yn ystod 2016-17, dymchwelwyd 45 o anheddau (35%) o fewn ardaloedd adnewyddu(a). O’r rhain roedd 23 yn Nhorfaen a 22 yn Sir Ddinbych.
  • Cafwyd 4 o ddymchweliadau mewn ardaloedd clirio(b) yn 2016-17.

(a) Mae cynlluniau adnewyddu tai mewn ardaloedd penodol yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.

(b) Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle caiff y tai eu hystyried yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Mae'r awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r dull mwyaf addas o ymdrin â'r amodau hyn yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.

Defnyddir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo amcangyfrifon stoc annedd ar gyfer Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.