Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr hŷn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, mae Llywodraeth Cymru yn dathlu rôl hollbwysig gwirfoddolwyr hŷn wrth adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig, ac wrth helpu pobl hŷn eraill.

Bob dydd, mae pobl hŷn ledled Cymru yn cefnogi pobl yn eu cymunedau, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ddod yn rhan o grwpiau cymdeithasol sy'n gwella lles cyffredinol, sy’n chwalu rhwystrau unigedd, ac sy’n grymuso eraill i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a chyngor ariannol. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl hŷn drwy Raglenni HOPE a Gweithgarwch Corfforol Age Cymru.

Yn ddiweddar, cyfarfu'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, â gwirfoddolwyr Age Cymru, pobl sy'n ymgorffori thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn eleni – ' Y rhan rydyn ni'n ei chwarae: Dathlu rôl hanfodol pobl hŷn yn ein cymunedau.'. Dywedodd:

Roedd yn ysbrydoledig gweld y gwahaniaeth gwirioneddol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Maent nid yn unig yn helpu eraill ond hefyd yn cyfoethogi eu bywydau eu hunain trwy gysylltiadau ystyrlon a rhannu profiadau.

Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau y gall pawb heneiddio'n dda a byw bywydau llawn, egnïol, a chreu Cymru lle nad yw oedraniaeth yn cyfyngu ar botensial a lle gall pobl edrych ymlaen at fynd yn hŷn gyda hyder ac urddas. Trwy ymdrech ar y cyd, mae Cymru wedi dod yn rhan o ymdrech fyd-eang i wella polisïau a gwasanaethau i bobl hŷn i'r graddau ein bod bellach yn cael ein hadnabod fel enghraifft ryngwladol o arfer da.

Un o’r gwirfoddolwr ysbrydoledig hyn yw Corina Walker, 71 oed, sy'n arwain sesiynau Tai Chi Qigong wythnosol i bobl hŷn yng Nghaerdydd. Dywedodd:

Mae 75 o bobl yn dod i'r dosbarthiadau bob wythnos i fwynhau, cymdeithasu, gwneud ffrindiau, a theimlo'n rhan o rywbeth mwy. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n dod yn eu 70au a'u 80au. Mae fy aelod hynaf yn 94 oed ac wedi bod gyda mi ers i mi ddechrau'r dosbarth cyntaf saith mlynedd yn ôl.

Yr ymdeimlad o berthyn a chyfeillgarwch yw'r hyn sy'n gwneud i bobl i ddychwelyd o wythnos i wythnos, yn ogystal â'r ystod eang o fuddion i’w hiechyd, cydbwysedd a lles. I lawer, mae'n gyfle i gysylltu a pharhau’n egnïol, oll wrth adeiladu cyfeillgarwch cryf.

I ganfod cyfleoedd gwirfoddoli neu ddod o hyd i grwpiau lleol yn eich ardal chi, ewch i wefan Age Cymru neu cysylltwch â'ch canolfan wirfoddoli leol.