Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn flaenorol yn yr adroddiad ‘Peryglon a thrwyddedau tai’. Gweler cyhoeddiadau blaenorol Peryglon Tai a thrwyddedau ar gyfer blynyddoedd cynharach.

Cyflwynwyd trwyddedu tai amlfeddiannaeth o dan Ddeddf Tai 2004 (Deddfwriaeth y DU) i helpu i sicrhau bod HMOs yn cael eu rheoli’n dda.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am drwyddedu gorfodol ar gyfer HMOs mwy, gyda risg uwch (gydag o leiaf dri llawr a phum preswylydd). Mae gan awdurdodau lleol hefyd y disgresiwn i ymestyn trwyddedu i gategorïau eraill o Dai Amlfeddiannaeth i fynd i'r afael â phroblemau penodol a all fodoli mewn eiddo llai neu mewn ardaloedd daearyddol penodol.

Prif bwyntiau

Rhwng 31 Mawrth 2017 a 31 Mawrth 2021, gostyngodd nifer y trwyddedau gorfodol o 2,973 i 2,443. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaraf, mae nifer y trwyddedau gorfodol wedi cynyddu, gyda 3,050 o drwyddedau gorfodol wedi’u cofnodi ar 31 Mawrth 2024.

Ers 31 Mawrth 2018, mae nifer y trwyddedau ychwanegol wedi gostwng yn raddol, o 6,056 yn 2018 i 4,332 yn 2023. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf, mae nifer y trwyddedau ychwanegol wedi cynyddu i 4,989.

Ffigur 1: Nifer y tai amlfeddiannaeth trwyddedig, yn ôl y math o drwydded, 31 Mawrth 2015 i 31 Mawrth 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Graff llinell yn dangos bod nifer y trwyddedau mandedol ac ychwanegol wedi cyrraedd uchafbwynt ar 31 Mawrth 2018.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol.

[Nodyn 1] Ni chafodd data eu casglu ar gyfer Mawrth 2020 oherwydd COVID-19.

[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

Ar 31 Mawrth 2024, yr awdurdodau lleol â’r nifer uchaf o HMOs trwyddedig oedd Caerdydd (3,072) ac Abertawe (1,807), y ddwy yn ardaloedd trefol mawr â lefelau uchel o anheddau rhent preifat a phoblogaethau myfyrwyr.

Ffigur 2: Yr amcangyfrif o dai amlfeddiannaeth a’r nifer sy’n hysbys, 31 Mawrth 2015 i 31 Mawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar clwstwr sy'n dangos bod nifer yr HMOs amcangyfrifedig wedi amrywio rhwng 18,167 a 19,587 yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, tra bod nifer yr HMOs hysbys wedi amrywio rhwng 14,070 a 15,247.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Ni chafodd data eu casglu ar gyfer Mawrth 2020 oherwydd COVID-19.

[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

Ar 31 Mawrth 2024, amcangyfrifodd awdurdodau lleol fod cyfanswm o 18,454 o HMOs yng Nghymru, sef cynnydd o 5% ar y flwyddyn flaenorol. Ynghyd â hyn cafwyd cynnydd yn nifer yr HMOs y mae awdurdodau lleol yn gwybod amdanynt (o 14,434 ym mis Mawrth 2023 i 15,016 ym mis Mawrth 2024). Ar 31 Mawrth 2024, roedd 81% o HMOs amcangyfrifedig yn hysbys i awdurdodau lleol.

Gofnodwyd y niferoedd uchaf o HMOs amcangyfrifedig yng Nghymru gan Caerdydd ac Abertawe (7,000 a 2,500 yn y drefn honno). Yng Nghaerdydd ac Abertawe, roedd cyfran uchel o HMOs amcangyfrifedig yn hysbys i'r awdurdod lleol (92% yng Nghaerdydd ac 89% yn Abertawe). Mewn cyferbyniad, adroddodd Sir Ddinbych y nifer a oedd trydydd uchaf o HMOs amcangyfrifedig (1,351) gyda chyfran lawer llai o'r HMOs hyn yn hysbys i'r awdurdod lleol (16%).

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image