Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y broses o gyflwyno Dyfeisiadau Adnabod Electronig Buchol yng Nghymru yn hwyrach nag a ragwelwyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedden ni wedi gobeithio y byddai cyflwyno EID mewn gwartheg yng Nghymru, yn unol â lansiad gwartheg ar EIDCymru. Ond nawr, nid ydyn ni'n disgwyl i dagiau EID ar gyfer gwartheg fod ar y farchnad tan 2024/2025 os nad yn hwyrach.

Rydym yn argymell eich bod ond yn archebu digon o dagiau confensiynol, ar gyfer lloi a ddisgwylir yn 2023.

Nid ydyn ni wedi cytuno ar y fanyleb ar gyfer tagiau EID Gwartheg. Y cam nesaf yw cynnal cynllun peilot i dreialu amrediad o opsiynau ar gyfer tagiau gyda nifer o ffermydd, marchnadoedd a lladd-dai.

Rydym yn gobeithio rhoi y newyddion diweddaraf ichi tuag at ddiwedd 2023, o ran amseru y broses o gyflwyno Dyfeisiadau Adnabod Electronig Buchol. Ni allwn ddarparu amserlenni pendant ar gyfer rhoi hyn ar waith eto. Mae’r cynigion yn destundiwygiadau Deddfwriaethol a’r tagiau electronig sydd ar gael.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau i’r sefyllfa hon yn Gwlad. Byddwn hefyd yn rhannu manylion gyda grwpiau diwydiant, wrth iddynt ymddangos.