Neidio i'r prif gynnwy

Bydd miloedd o ymwelwyr yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd y penwythnos hwn i ddathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Tafwyl eleni yn cael ei agor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles, a Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Sarah Murphy.

Gydag amserlen lawn eto, tua 2,500 o ymwelwyr yn aros yng Nghaerdydd, a disgwyl i’r gwariant lleol fod dros £410,000, mae buddion diwylliannol ac economaidd Tafwyl, a gaiff ei threfnu gan Fenter Caerdydd, yn sylweddol.

Bydd yr ŵyl eleni, sydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac sy’n cael ei chynnal ym Mharc Bute ar 13 a 14 Gorffennaf, ei chefnogi gan £100,000 o grantiau Digwyddiadau Cymru a Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles: 

"Mae Tafwyl yn enghraifft berffaith o sut mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae'n gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd yng nghalon ein prifddinas i ddathlu'n hiaith ac arddangos ein diwylliant byw fel bod mwy a mwy o bobl yn ymuno â ni ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Mae hefyd yn hwb sylweddol i'r economi leol, gan ddarparu swyddi a denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau'r gorau o gelfyddyd, bwyd a chrefftau Cymru. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Tafwyl eto eleni."

Un o lwyddiannau'r ŵyl yw'r band Taran, a ffurfiwyd drwy’r prosiect 'Yn Cyflwyno'. Mae'r fenter hon yn annog disgyblion ysgolion Caerdydd i sefydlu bandiau Cymraeg, gan gynnig cyfleoedd mentora a pherfformio iddynt yn yr ŵyl. Ers eu hymddangosiad cyntaf yn Tafwyl y llynedd, mae Taran wedi parhau i wneud argraff ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Dywedodd Rhys, gitarydd Taran: 

"Fe wnaeth chwarae yn Tafwyl agor ein llygaid i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog a'r holl gyfleoedd sydd ar gael. Rydyn ni'n anelu at ryddhau cerddoriaeth a fydd yn cael ei chwarae ar lwyfannau fel BBC 6Music i ddangos bod talent Cymru yn ffynnu."

Ychwanegodd Nat, aelod arall o'r band: 

"Fel rhywun sy’n dod o deulu di-Gymraeg, cefais fy synnu gan y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg ifanc. Mae'r gigs a'r anogaeth ry'n ni wedi'u derbyn wedi bod yn anhygoel."

Dywedodd Gweinidog â chyfrifoldeb am y diwydiannau creadigol, Sarah Murphy: 

"Mae Tafwyl yn arddangos ffyniant y sîn greadigol Gymreig. Mae taith Taran nid yn unig wedi tanio eu diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg ond hefyd wedi creu cyd-destun naturiol i'r Gymraeg y tu hwnt i giatiau’r ysgol. Mae eu brwdfrydedd yn adlewyrchu'r cyffro ehangach y mae Tafwyl yn ei greu."

Mae disgwyl i gyfanswm effaith economaidd Tafwyl fod tua £2.1 miliwn.