Neidio i'r prif gynnwy

Polisi Eithriadau Meddygol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod nifer o ddyletswyddau cyfreithiol ar yrwyr trwyddedig pan fyddant yn cludo teithwyr ag anableddau.

Cŵn cymorth

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswyddau ar Yrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat trwyddedig i gludo cŵn tywys, cŵn clywed a chŵn cymorth eraill sy'n hebrwng pobl anabl a gwneud hynny heb godi tâl ychwanegol.

Mae'r dyletswyddau hyn yr un mor gymwys i gŵn a dddarperir gan elusennau yn y DU sy'n gysylltiedig ag Assistance Dogs UK, sefydliadau tramor cyfatebol neu gŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi gan eu perchenogion; a ph'un a yw'r ci yn gwisgo harnais neu siaced adnabyddadwy neu wedi cael ei ardystio'n ffurfiol ai peidio. Os bydd darpar deithiwr yn hysbysu gyrrwr bod ci y mae am deithio gydag ef yn gi cymorth, dylid derbyn hyn yn ddigwestiwn.

Mae cŵn cymorth wedi'u hyfforddi i deithio gyda'u perchennog ym mhrif adran teithwyr cerbyd, gan orwedd fel arfer wrth ei draed, a bydd y perchennog yn cyfarwyddo'r ci i fynd i mewn i'r cerbyd a'i adael. Dylid gofyn i deithwyr â chŵn cymorth a oes unrhyw sedd yn y cerbyd yr hoffent eistedd ynddi yn benodol – efallai y bydd yn well gan rai eistedd yn sedd flaen cerbyd salŵn, am fod mwy o le i'r ci eistedd wrth eu traed. Dylai gyrwyr fod yn barod i roi unrhyw gymorth rhesymol y mae'r teithiwr yn gofyn amdano; fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd angen cymorth ar gŵn cymorth i fynd i mewn i'r rhan fwyaf o gerbydau neu eu gadael heblaw agor drws y teithiwr. Ni ddylai gyrwyr geisio gwahanu cŵn cymorth oddi wrth eu perchenogion drwy fynnu bod y ci yn teithio mewn rhan wahanol o'r cerbyd – gallai gwneud hynny beri gofid i'r ci a'r perchennog.  Gall cŵn cymorth deithio yn y lle gwag i lwythi yng nghefn car stad, os bydd perchennog y ci yn fodlon ar hyn.

Caiff cŵn cymorth eu bridio a'u dewis oherwydd eu natur dawel ac maent yn cael cryn dipyn o hyfforddiant arbenigol cyn dechrau yn eu rolau. Maent yn cael eu cadw'n daclus ac maent yn cael archwiliadau iechyd rheolaidd gan filfeddygon. Er ein bod yn cydnabod y gall nifer o yrwyr nad oes ganddynt brofiad o gŵn deimlo'n anesmwyth pan fyddant mor agos at un, nid yw hyn yn rheswm dilys dros wrthod cludo teithiwr â chi cymorth. Yn yr un modd, ni ellir gwrthod cludo cŵn cymorth mewn tacsis na cherbydau hurio preifat na bodloni gofynion cyfreithiol eraill o dan gyfraith y DU ar sail credoau crefyddol.

Gall gyrwyr â chyflyrau meddygol penodol sy'n cael eu gwaethygu o fod mewn cysylltiad â chŵn gael eu heithrio rhag y gofynion hyn am resymau meddygol.

Dim ond am resymau meddygol y gall gyrwyr wneud cais i gael eu heithrio rhag cludo cŵn cymorth sy'n hebrwng pobl anabl. Felly, bydd angen i ymgeiswyr ddangos y rhesymau dros wneud cais i gael eu heithrio rhag cludo cŵn cymorth drwy roi tystiolaeth feddygol i'r Awdurdod Trwyddedu.

Mae'r prif resymau pam y gallai gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat fod am wneud cais am eithriad meddygol fel a ganlyn:

i) mae ganddo gyflwr megis asthma difrifol, a gaiff ei waethygu os daw i gysylltiad â chŵn;

ii) mae ganddo alergedd i gŵn; neu

iii) mae ganddo ffobia acíwt o ran cŵn.

Felly, mae'r Awdurdod Trwyddedu yn disgwyl i nifer y gyrwyr sy'n debygol o fod yn gymwys i gael eu heithrio fod yn fach iawn.

Er mwyn i yrrwr wneud cais i gael ei eithrio rhag cludo cŵn cymorth, rhaid i Ffurflen gais am eithriad rhag cludo cŵn cymorth gael ei chwblhau gan Ymarferydd Meddygol Arbenigol.

Mae'r enghreifftiau o weithwyr meddygol proffesiynol addas yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

i) arbenigwr/meddyg ymgynghorol;

ii) nyrs arbenigol (er enghraifft, nyrs asthma);

ii) nyrsys practis; neu

iv) meddyg annibynnol dynodedig y Cyngor.

O dan amgylchiadau eithriadol, ond dim ond os na fydd unrhyw opsiwn arall ar gael, gall yr Awdurdod Trwyddedu ystyried tystiolaeth gan Feddyg Teulu'r ymgeisydd.

Rhaid anfon tystiolaeth ddigonol o'r alergedd, e.e. canlyniadau prawf alergenau, hanes clinigol ac ati, gyda'r ffurflen. Nid ystyrir bod datganiad syml gan weithiwr meddygol proffesiynol yn ddigonol at ddibenion cais y gyrrwr i gael ei eithrio.

Os oes gan yrrwr ffobia cronig o ran cŵn, byddai'r Awdurdod Trwyddedu yn disgwyl i hyn gael ei ategu gan adroddiad gan seiciatrydd neu seicolegydd clinigol cyn y caiff gyrrwr ei eithrio.

Yr ymgeisydd fydd yn gyfrifol am dalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â darparu'r dystiolaeth feddygol angenrheidiol.

Os caiff gyrrwr ei eithrio rhag cludo cŵn cymorth, rhoddir tystysgrif a bathodyn eithrio iddo, fel y'u rhagnodir gan y gyfraith.

Caiff gyrrwr ei eithrio am gyfnod penodol o amser fel y'i pennir gan yr Awdurdod Trwyddedu.

Ystyrir y math o Gerbyd Hacni a fydd yn cael ei yrru. Rhoddir sylw penodol i'r tu mewn i'r cerbyd ac a oes gan y cerbyd bartisiwn sy'n gwahanu'r gyrrwr oddi wrth y ci cymorth a'r teithiwr.

Rhaid i'r bathodyn eithrio rhagnodedig gael ei arddangos yn glir bob amser mewn unrhyw Gerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat y bydd y gyrrwr wedi'i eithrio yn ei yrru, a dylid ei ddarparu i Swyddog Awdurdodedig os bydd yn gofyn amdano.

Byddai'n drosedd i unrhyw yrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat nad oes ganddo dystysgrif eithrio meddygol gan yr Awdurdod Trwyddedu wrthod cludo ci cymorth, gwrthod caniatáu i'r ci aros gyda'r teithiwr yn ystod y daith neu godi unrhyw dâl ychwanegol am gludo'r ci cymorth.

Cadeiriau olwyn

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswyddau ar Yrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat trwyddedig sy'n gweithredu Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i gludo teithwyr mewn cadair olwyn a rhoi cymorth iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn rhesymol gyfforddus, a gwneud hynny heb godi unrhyw dâl ychwanegol.

Mae'r mathau o gymorth y gallai fod eu hangen ar deithwyr yn cynnwys y canlynol:

  • Os bydd y teithiwr am aros yn y gadair olwyn, rhaid i'r gyrrwr helpu'r teithiwr i fynd i mewn i'r cerbyd a'i adael a chlymu'r gadair olwyn yn ddiogel yn unol â manyleb y cerbyd.
  • Os bydd y teithiwr am drosglwyddo i sedd, rhaid i'r gyrrwr ei helpu i godi o'r gadair olwyn a symud i sedd ac yn ôl i'r gadair olwyn; rhaid i'r gyrrwr hefyd lwytho'r gadair olwyn yn y cerbyd ynghyd ag unrhyw fagiau.

Bydd gyrrwr sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r dyletswyddau uchod heb amddiffyniad dilys yn cyflawni trosedd a gall gael dirwy o hyd at £1,000 am bob trosedd yn dilyn euogfarn. Gall troseddau hefyd arwain at ddirymu trwyddedau tacsi neu eu hatal dros dro.

Diffinnir ‘cadair olwyn gyfeirio’ mewn statud fel un sydd â'r mesuriadau canlynol: Hyd: 1200mm (tua 48”) gan gynnwys platiau traed Lled: 700mm (28”) Cyfanswm uchder wrth eistedd: 1350mm (54”) Uchder y troedle: 150mm (6”)

Disgwylir i'r mesuriadau uchod ar gyfer cadair olwyn gyfeirio gwmpasu'r mwyafrif o gadeiriau olwyn llaw. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall rhai cadeiriau olwyn â gweithrediad arbenigol, neu gadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd, fod yn fwy na'r mesuriadau hyn ac na fyddant, o bosibl, yn gallu cael eu llwytho na'u cludo'n ddiogel ym mhob tacsi dynodedig. Mewn achosion o'r fath, disgwylir i yrwyr asesu a ellir cludo'r teithiwr yn ddiogel yn eu cerbyd, cludo'r teithiwr os gellir sicrhau y bydd yn ddiogel ac yn rhesymol gyfforddus neu ei helpu i ddod o hyd i gerbyd amgen addas, lle y bo'n ymarferol. Gall amgylchiadau o'r fath fod yn amddiffyniad rhag trosedd a nodwyd uchod.

Ym mhob achos, rydym yn disgwyl i yrwyr drin teithwyr â pharch a sensitifrwydd ac egluro i'r teithiwr pam na fu'n bosibl iddo ei gludo.

Gall fod rhai rhesymau meddygol sy'n golygu na all y gyrrwr roi cymorth, er enghraifft os bydd cyflwr corfforol unigolyn yn ei gwneud yn amhosibl, neu'n eithaf anodd, iddo gynorthwyo teithwyr mewn math penodol o gadair olwyn.

Gan ei bod yn debygol mai'r prif resymau pam y bydd gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat yn gofyn am eithriad meddygol yw anafiadau i'r cefn neu anafiadau sy'n gysylltiedig â'r cyhyrau, mae'r Awdurdod Trwyddedu yn disgwyl i nifer y gyrwyr sy'n debygol o fod yn gymwys i gael eu heithrio fod yn fach.

Er mwyn i yrrwr wneud cais i gael ei eithrio rhag cludo cadeiriau olwyn a chynnig cymorth, rhaid i Ffurflen gais am eithriad rhag cludo cadeiriau olwyn gael ei chwblhau. Rhaid i'r ffurflen gael ei chwblhau gan Feddyg Teulu'r ymgeisydd neu Ymarferydd Meddygol Arbenigol arall, a rhaid iddi gael ei hategu gan ddigon o dystiolaeth megis diagnosis llawn, manylion archwiliadau parhaus ac ati. Nid ystyrir bod datganiad syml gan weithiwr meddygol proffesiynol yn ddigonol at ddibenion cais y gyrrwr i gael ei eithrio.

Yr ymgeisydd fydd yn talu unrhyw gostau yr eir iddynt yn y broses hon.

Penderfyniad yr awdurdod trwyddedu

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth o'r ffurflen feddygol ac adroddiadau cysylltiedig. Os bydd y ffurflen neu'r adroddiad yn amwys mewn unrhyw ffordd, ni wneir penderfyniad a gofynnir i ymarferydd meddygol arbenigol yr ymgeisydd ddarparu rhagor o wybodaeth er mwyn sicrhau ymateb clir.

Rhoddir tystysgrif eithrio am gyfnod penodol i ymgeiswyr sydd â chyflwr dros dro. Os bydd yr ymgeisydd am ymestyn y cyfnod eithrio, bydd angen cwblhau asesiad meddygol arall (gan ddefnyddio'r ffurflen yn Atodiad A) cyn i'r dystysgrif eithrio ddod i ben.

Os na fydd cais i ymestyn tystysgrif dros dro wedi'i wneud, disgwylir i yrwyr ailgydio yn eu dyletswyddau arferol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 unwaith y bydd y dystysgrif eithrio wedi dod i ben.

Rhaid i yrwyr y rhoddwyd tystysgrif eithrio meddygol dros dro iddynt ei rhoi yn ôl i'r Awdurdod Trwyddedu o fewn un diwrnod gwaith ar ôl i'r dystysgrif ddod i ben.

Apelio

Gall unrhyw yrrwr sy'n teimlo ei fod wedi cael cam o ganlyniad i benderfyniad yr Awdurdod Trwyddedu i wrthod rhoi tystysgrif eithrio meddygol apelio i'r Llys Ynadon o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad i wrthod rhoi tystysgrif.