Neidio i'r prif gynnwy

Cyffredinol

Nod y canllawiau hyn yw sicrhau bod systemau CCTV sydd wedi'u gosod mewn Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat a drwyddedir gan Gyngor [nodwch enw'r cyngor] yn cael eu rheoli'n briodol tra byddant yn cael eu defnyddio i atal a chanfod troseddau; a gwella iechyd a diogelwch gyrwyr trwyddedig a theithwyr. 

At ddibenion y Polisi hwn, bydd y term ‘system CCTV’ yn gymwys i unrhyw ddyfais recordio electronig sydd wedi'i chysylltu â'r tu mewn i gerbyd sydd â'r gallu technegol i ddal a chadw lluniau gweledol a recordiadau sain o'r tu mewn neu'r tu allan i'r cerbyd. Yn ogystal â'r system camera CCTV safonol, gall y rhain gynnwys, er enghraifft, ddyfeisiau megis dyfeisiau recordio data digwyddiadau/damweiniau. 

Rhaid gosod a gweithredu systemau CCTV yn unol â gofynion Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: In the picture: A data protection code of practice for surveillance cameras and personal information

Rhaid darparu datganiad cydymffurfiaeth wedi'i lofnodi gan y cwmni sy'n darparu'r system CCTV, sy'n cadarnhau bod y system yn cyd-fynd â'r fanyleb ofynnol a nodir yn y Polisi hwn.

Bydd y Polisi hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd sy'n cynnwys system CCTV fel y'i disgrifiwyd uchod.

Diben CCTV

Mae'r Cyngor yn credu y bydd yn gwella diogelwch gyrwyr/teithwyr mewn cerbydau trwyddedig drwy wneud y canlynol:

  • Atal troseddau rhag cael eu cyflawni
  • Lleihau ofn trosedd
  • Helpu'r heddlu gydag ymchwiliadau troseddol
  • Helpu cwmnïau yswiriant i ymchwilio i ddamweiniau cerbydau modur

Gofynion o ran CCTV

Mae defnyddio systemau CCTV mewn cerbydau trwyddedig yn wirfoddol.

Rhaid i unrhyw system CCTV, o leiaf, fodloni'r gofynion a nodir yn y fanyleb yn Anecs A i'r canllaw hwn. Dim ond systemau CCTV sy'n bodloni'r gofynion hyn y gellir eu gosod mewn cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Lawrlwytho data

Dim ond at y dibenion canlynol y caiff data eu lawrlwytho:

a) Mewn ymateb i gais dilys am fynediad at ddata a wneir o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, mewn perthynas â'r cerbyd/gyrrwr.
b) Mewn ymateb i Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun sy'n cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.
c) Pan fydd cŵyn ysgrifenedig wedi'i gwneud i'r Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â'r cerbyd/gyrrwr ac na ellir datrys y gŵyn mewn unrhyw ffordd arall.

Ceir rhagor o wybodaeth am lawrlwytho data o systemau CCTV ym Mholisi Lawrlwytho'r Awdurdod Trwyddedu [mewnosodwch ddolen i'r polisi ar wahân].

Cadw data

Dim ond am y cyfnodau canlynol y cedwir data a adalwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu:

a)    Achosion sy'n arwain at erlyn 10 mlynedd o ddyddiad y treial 
b)    Rhybuddiad ffurfiol 3 blynedd o ddyddiad y rhybuddiad 
c)    Rhybudd ysgrifenedig neu benderfyniad i beidio â chymryd unrhyw gamau ffurfiol 3 blynedd o ddyddiad y penderfyniad 
d)    Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun 6 blynedd o ddyddiad y cais.

Rheolydd data

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn diffinio “rheolydd data” fel y corff sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol, o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, am bob mater sy'n ymwneud â defnyddio data personol. At ddibenion gosod a gweithredu system CCTV mewn Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, y “rheolydd data” fydd cyngor.

Prosesydd Data Trydydd Parti

Os defnyddir darparwr gwasanaeth i storio data CCTV o bell, bydd yn gweithredu “prosesydd data”. Ystyr prosesydd data, mewn perthynas â data personol, yw unrhyw berson (ac eithrio un o gyflogeion y rheolydd data) sy'n prosesu data ar ran y rheolydd data, mewn ymateb i gyfarwyddiadau penodol. Fodd bynnag, mae'r rheolydd data yn parhau i fod yn gwbl gyfrifol am weithredoedd y prosesydd data. 

Rhaid i bob system CCTV yng Ngherbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat trwyddedig [mewnosodwch fanylion] gael ei gosod gan ddarparwr gwasanaeth sy'n gweithredu fel prosesydd data, a gymeradwywyd gan y Cyngor. I gael manylion darparwyr cymeradwy, cysylltwch â [mewnosodwch fanylion].

Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi llunio asesiad o'r effaith ar breifatrwydd er mwyn ystyried yr angen am CCTV, sicrhau bod preifatrwydd wedi'i ystyried a rhoi rheolaethau priodol ar waith i sicrhau cyn lleied o ymyrraeth â phosibl a diogelu'r data. 

Arwyddion

Rhaid gosod arwyddion y tu mewn i bob Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat sydd â system CCTV i ddangos bod system CCTV ar waith.  Rhaid gosod o leiaf 3 arwydd yn y cerbyd (1 ar ochr y teithiwr yn y blaen, ac un ar bob ochr i'r cerbyd yn y cefn).

Rhaid i arwyddion gael eu gosod mewn mannau priodol er mwyn sicrhau eu bod mor weladwy â phosibl i deithwyr, cyn ac ar ôl iddynt fynd i mewn i'r cerbyd.

Yn y nifer bach o amgylchiadau lle y gellir cyfiawnhau defnyddio dyfeisiau recordio sain, rhaid i arwyddion nodi'n glir iawn fod dyfeisiau recordio sain yn cael eu defnyddio neu y gallent gael eu defnyddio a dylid sôn wrth y teithwyr am hyn.

Recordiadau sain

Caniateir i systemau CCTV cymeradwy gael eu defnyddio i recordio sain, ond ni ddylent allu recordio sain yn barhaus.

Dim ond drwy fotwm ‘panig’ a weithredir gan y gyrrwr neu'r teithiwr y gellir recordio sain. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gall y gyrrwr weithredu'r ddyfais recordio sain:

  • os bydd yn credu bod risg i'w ddiogelwch ei hun neu ddiogelwch yr unigolyn sy'n teithio yn ei gerbyd
  • os bydd yn pryderu ynghylch iaith a allai fod yn aflonyddol neu'n sarhaus
  • Eer mwyn diogelu ei fywoliaeth e.e. anghydfodau ynghylch talu, pryder ynghylch difrod posibl i'r cerbyd.

O dan yr amgylchiadau cyfyngedig hyn, lle y gellir cyfiawnhau defnyddio dyfeisiau recordio sain, rhaid i arwyddion nodi'n glir fod dyfais recordio sain yn cael ei defnyddio.

Cynnal a Chadw'r System a'i Defnyddio

Rhaid i'r system gael ei chynnal a'i chadw a'i defnyddio yn unol â'r amodau trwyddedu cerbydau hacni/cerbydau hurio preifat a nodir yn Anecs B.

Annecs A: gofynion sylfaenol system CCTV

1.0 Gofynion technegol gweithredol

Cyf 

Gofyniad

Manylion 

1.1

System cyflwr solet 100% neu system y profwyd y gall wrthsefyll dirgrynu a sioc

Ni ddylai fod gan y system unrhyw ffan a dylai'r recordiad allu gwrthsefyll dirgrynu a sioc, h.y.: – SSD seiliedig ar Flash (gradd ddiwydiannol 100%),

– Disg caled â system gwrthsefyll dirgrynu a sioc a system ysgrifennu ffeiliau hunanadfer a hunanwirio.

1.2

8-15 Folt DC

Yn weithredol rhwng 8 a 15 Folt DC

1.3

Wedi'i diogelu rhag  gwrthbolaredd

Bydd y system wedi'i diogelu rhag gwrthfoltedd.

1.4

Atal siortio

Bydd y system wedi'i diogelu rhag siortio

1.5

Diogelu rhag gorfoltedd

Bydd y system wedi'i diogelu rhag cerhyntau byr â foltedd uchel sy'n debygol o ddigwydd yn system drydanol y cerbyd.

1.6

Gofynion o ran Cytunedd Electromagnetig Modurol

 

Rhaid i'r system camera tacsi yn y cerbyd gydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Cyngor:

  • 2004/108/EC ar Gytunedd Electromagnetig

(CISPR 22/EN55022),

  • 2004/104/EC ar Ymyriant Radio (adrannau 6.5, 6.6,

6.8 a 6.9)

Felly, dylai'r cyfarpar camera tacsi fod wedi'i e-farcio neu wedi'i CE-farcio gyda chadarnhad gan wneuthurwr y cyfarpar nad yw'n ymwneud ag imiwnedd a'i fod yn addas i'w ddefnyddio mewn cerbydau modur.

1.7

Switsh actifadu'r system (ymlaen / diffodd) wedi'i osod mewn man lle na ellir ei gyrraedd o'r
tu mewn i'r cerbyd (h.y. yng nghist y cerbyd/adran yr injan)

Mae angen i'r system fod ar waith pryd bynnag mae'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio fel cerbyd trwyddedig. Rhaid i'r switsh sy'n dadactifadu'r system fod wedi'i osod yng nghist y cerbyd neu adran yr injan (h.y. dim ond o'r tu allan i'r cerbyd y dylai fod yn bosibl i'r system gael ei dadactifadu)

 

1.8

Egwyddor byffer recordio y cyntaf i mewn/y cyntaf allan

 

1.9

System osodedig i gofnodi pob gweithred fynediad yn awtomatig, gan gynnwys dyddiadau ac enwau personél

 

1.10

Diogelwch a hyd ffeiliau cofnodi a'u glanhau'n awtomatig

 

1.11

Fformatau a chyfryngau allforio delweddau

Rhaid i ddelweddau gael eu hallforio mewn fformatau sydd ar gael yn fasnachol.

 

1.12

Diogelu delweddau pan fo toriad yn y cyflenwad trydan

Rhaid cadw delweddau os collir y cyflenwad trydan. Ni chaniateir defnyddio batri wrth gefn.

 

1.13

Rhaid i'r uned weithio heb danio'r cerbyd.

Rhaid i'r Uned allu gweithio am o leiaf 2 awr heb drydan o'r system danio.

 

1.14

Caiff data delweddau a data sain eu recordio e'u storio mewn uned ar wahân i ben y camera.

 

1.15

Gallu GPS

Rhaid i'r system fod yn gytûn er mwyn darparu ar gyfer gallu GPS.

1.16

Rhaid i'r system allu recordio amser sain wedi'i gydamseru â'r delweddau sy'n cael eu recordio.

 

1.17

Ni fydd y system yn recordio sain ac eithrio pan fydd y cyfleuster recordio sain wedi'i actifadu drwy ddefnyddio sbardun cymeradwy.

 

Dylai'r system allu dechrau recordio data sain drwy ddefnyddio o leiaf ddau fotwm sbardun (gweler 1.26 isod hefyd).

Rhaid i un botwm sbardun allu cael ei actifadu gan y gyrrwr. Ar ôl i'r sbardun gael ei actifadu, rhaid i'r system ddechrau recordio data sain. Bydd y system yn parhau i recordio sain nes i'r un sbardun gael ei actifadu eto. Pan gaiff y sbardun ei actifadu am yr ail dro dylai'r system roi'r gorau i recordio sain (e.e. gellid gwasgu botwm i ddechrau recordio sain, h.y. byddai'r sbardun, a allai fod yn fotwm, er enghraifft, yn cael ei wasgu i ddechrau recordio sain, byddai gwasgu'r botwm am yr ail dro yn peri i'r system roi'r gorau i recordio sain).

Rhaid i'r ail fotwm sbardun allu cael ei actifadu gan y teithwyr yn y cerbyd yn annibynnol ar y gyrrwr. Ar ôl i'r sbardun gael ei actifadu, rhaid i'r system ddechrau recordio data sain. Bydd y system yn parhau i recordio sain nes i'r un sbardun gael ei actifadu eto. Pan gaiff y sbardun ei actifadu am yr ail dro dylai'r system roi'r gorau i recordio sain (h.y. byddai'r sbardun, a allai fod yn fotwm, er enghraifft, yn cael ei wasgu i ddechrau recordio sain, byddai gwasgu'r botwm am yr ail dro yn peri i'r system roi'r gorau i recordio sain).

Rhaid i'r ddau sbardun actifadu sain fod yn annibynnol ar ei gilydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond drwy ddefnyddio'r un sbardun (sbardun y gyrrwr neu'r teithiwr) ag a ddefnyddiwyd i actifadu'r system recordio sain y gellir dadactifadu'r system recordio sain.

1.18

Pan gaiff y system ei sbarduno i ailchwarae deunydd sain, bydd mewn ‘amser real’ ac wedi'i gydamseru â'r delweddau a recordiwyd.

 

1.19

Rhaid i'r signal sain gael ei samplu'n ddigidol ar amledd uwch nag 8KHz.

 

1.20

Rhaid i eglurdeb digidol y samplau sain fod uwchlaw 10 did.

 

1.21

Bydd y microffon sain wedi'i integreiddio ym mhen y camera.

 

1.22

Rhaid storio data sain a data delweddau gyda'i gilydd, nid mewn ffeiliau ar wahân, a dylid eu diogelu rhag mynediad heb awdurdod ac ymyrraeth.

 

1.23

Rhaid i'r system ddarparu ar gyfer profi'r gweithrediad sain at ddibenion gosod ac archwilio.

 

1.24

Rhaid i'r system ‘fynd i gysgu’ er mwyn lleihau'r pŵer sy'n cael ei dynnu o'r batri yn ystod cyfnodau hir pan fydd yn segur. Bydd yn rhaid i'r system allu cael ei hailactifadu ar unwaith.

 

1.25

Ni chaiff delweddau a gaiff eu recordio gan y system eu dangos yn y cerbyd.

 

1.26

Dylai fod gan y system o leiaf ddau sbardun actifadu mewn argyfwng (botymau actifadu sain).

 

Rhaid i un o'r sbardunau/botymau actifadu sain allu cael ei weithredu gan y gyrrwr. Dylai fod yn annibynnol ar y switsh actifadu recordio sain. Rhaid i o leiaf un sbardun/botwm actifadu sain arall allu cael ei weithredu gan deithiwr o unrhyw sedd teithiwr yn y cerbyd. Ar ôl iddo gael ei actifadu, rhaid i'r switsh hwn sbarduno recordio deunydd fideo a sain yn unol ag adran 6.1 isod. Rhaid i'r teithiwr allu gweld hysbysiad sy'n nodi sut i stopio'r system recordio sain.

1.27

Rhaid i'r system gynnwys dangosydd gweledol a fydd yn dangos yn glir pryd mae sain yn cael ei recordio. Rhaid i bob teithiwr yn y cerbyd allu gweld y dangosydd hwn.

Rhaid iddo fod ar ffurf dangosydd LED sy'n rhan o'r switsh actifadu sain neu LED o bell y gall teithwyr ei weld yn glir.

 

 

2.0 Gofynion Technegol o ran Capasiti Storio

Cyf

Gofyniad

Manylion 

2.1

Y gallu i recordio am o leiaf saith diwrnod (7 x 24 awr)

 

Rhaid i'r system gamera allu recordio a storio delweddau o faint HD1 (720/288) neu fwy am o leiaf 14 diwrnod.

Rhaid trosysgrifo recordiadau ar ôl 28 diwrnod o'r dyddiad y'u gwnaed, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol yn dilyn cais gan Heddlu …….. neu Gyngor ………. Fodd bynnag, mewn achosion o'r fath, rhaid dileu'r data ar ôl i'r mater gael ei gwblhau.

2.2 

Rhaid i ddelweddau fod yn glir ym mhob math o olau

Bydd systemau yn darparu delweddau clir mewn haul cryf, cysgod, yn y tywyllwch ac mewn tywyllwch llwyr. Hefyd, pan geir golau ôl cryf.

 

3.0 Gofynion Technegol o ran Pen y Camera

Cyf 

Gofyniad

Manylion 

3.1 

Dylid gosod y camera fel nad yw'n amharu ar welededd

Caiff y camera a holl gydrannau eraill y system eu gosod mewn ffordd nad yw'n amharu ar olwg y gyrrwr na'i allu i weld drychau neu, fel arall, weithredu'r cerbyd yn y ffordd arferol.

3.2

 

System datgysylltu'r camera wedi'i diogelu

Bydd pen y camera wedi'i ddylunio i ddatgysylltu er mwyn ei gwneud yn hawdd i bersonél cynnal a chadw ei dynnu a rhoi un newydd yn ei le.

3.3

 

Offer arbennig i addasu/tynnu

Er mwyn atal ymyrraeth amhriodol, dim ond offer a gyflenwyd i osodwyr awdurdodedig a ddylai allu gwneud addasiadau neu dynnu rhannau o'r camera.

3.4

 

Maes gwelededd i recordio delweddau'r holl deithwyr yn y cerbyd

Rhaid i lens y camera allu cynnwys y gyrrwr a phob teithiwr yn y cerbyd ar y ddelwedd a gaiff ei recordio. Rhaid defnyddio lens na fydd yn creu effaith “powlen bysgod”.

3.5

 

Rhaid i ddelweddau fod yn glir

Bydd y system yn darparu delweddau clir ym mhob math o olau ac yn ei gwneud yn bosibl i wahanol liwiau croen gael eu nodi

3.6

 

Rhaid iddi allu cael ei defnyddio mewn cerbydau â phartisiwn (sgrin)

Rhaid i'r system gamera allu cael ei haddasu i ddarparu delweddau clir pan fydd sgrin wedi'i gosod yn y cerbyd. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio nifer o bennau camera.

3.7

 

Nifer o gamerâu

 

Bydd yr uned yn gallu cynnal hyd at bedwar (4) camera. Efallai y bydd angen pedwar camera i sicrhau cwmpas digonol mewn cerbydau mwy o faint a/neu rai cerbydau pwrpasol.

 

4.0  Gofynion Technegol – Dyfais Storio

Cyf

Gofyniad

Manylion

4.1

Yn gallu gwrthsefyll trawiadau a sioc

Bydd y recordydd yn gallu gwrthsefyll trawiadau, ddigon i wrthsefyll damwain car nodweddiadol neu ergyd gwrthrych trwm megis cês dillad.

4.2

Y rheolydd mewn man cuddiedig

Bydd yr uned storio wedi'i chuddio o'r golwg ac yn anhygyrch ac eithrio i bersonél awdurdodedig.

4.3

Darpariaeth porth lawrlwytho

Bydd gan y recordydd borth cyfathrebu ar gyfer lawrlwytho gan bersonél awdurdodedig.

4.4

Bydd porth lawrlwytho wedi'i osod mewn man hygyrch megis blwch menig.

Bydd porth lawrlwytho'r recordydd wedi'i osod yn y blwch menig os bydd hynny'n ymarferol. Os na fydd yn ymarferol, dylid ei osod mewn man lle nad oes angen tynnu paneli a lle mae'n hygyrch. 

4.5

Hyd cebl y porth lawrlwytho (o leiaf troedfedd)

Dylai'r porth lawrlwytho fod yn droedfedd o hyd o leiaf er mwyn hwyluso'r broses lawrlwytho.

4.6

Dylai'r recordydd fod yn sownd wrth y cerbyd

 

4.7

Log i gofrestru pob mynediad gan ddefnyddiwr

 

4.7.1

Log i gofrestru addasiadau i baramedrau'r system gamera

 

4.7.2

Log i gofrestru pob sesiwn lawrlwytho delweddau

 

4.7.3

Log i gofrestru achosion o addasu/trin delweddau wedi'u lawrlwytho

 

4.7.4

Log i gofrestru allforio delweddau wedi'u lawrlwytho

 

4.7.5

Log i gofrestru allforio clipiau wedi'u lawrlwytho

 

4.7.6

Ffeil log wedi'i diogelu rhag mynediad heb awdurdod

 

4.7.7

Stamp amser/dyddiad

Rhaid i bob delwedd wedi'i storio fod wedi'i stampio â'r amser a'r dyddiad.

4.7.8

Stamp rhif adnabod cerbyd

Dylai fod gan bob delwedd wedi'i storio ddau faes adnabod cerbyd (VIN a phlât rhif).

4.7.9

Stamp cod adnabod na ellir ei newid ar y rheolydd

Caiff pob delwedd wedi'i recordio ei stampio'n awtomatig â chod unigryw na ellir ei newid sy'n nodi'r rheolydd a ddefnyddiwyd i recordio'r ddelwedd

4.7.10

Rheolydd (Recordydd Storio)

Bydd y gwneuthurwr yn rhoi offer arbenigol i Gyngor ……… er mwyn ei gwneud yn bosibl i'r rheolydd gael ei dynnu ac i ddata gael eu lawrlwytho, yn ôl yr angen.

5.0 Gofynion o ran recordio delweddau fideo a sain

Cyf

Gofyniad

Manylion

5.1

Recordio delweddau fideo pan fydd y system wedi'i hactifadu (pan na fydd y system sain wedi'i hactifadu).

Bydd y system yn recordio delweddau ar gyfradd o bedair delwedd yr eiliad o leiaf.

5.2

Recordio delweddau fideo pan fydd y system sain wedi'i hactifadu.

Bydd y system yn recordio delweddau ar gyfradd o 25 o ddelweddau yr eiliad yn ystod cyfnodau pan fydd y system recordio sain wedi'i hactifadu (naill ai oherwydd gofyniad amser neu drwy gael ei hactifadu gan switsh sbardun y gyrrwr neu fotwm sain y teithiwr).

5.3

Pan fydd wedi'i hactifadu, rhaid i sain gael ei recordio mewn amser real ac ar yr un pryd ag y mae delweddau fideo yn cael eu recordio.

Pan fydd wedi'i hactifadu, rhaid i sain gael ei recordio mewn amser real ac ar yr un pryd ag y mae delweddau fideo yn cael eu recordio.

5.4

Bydd y system yn parhau i recordio delweddau (a sain pan fo'n gymwys) pan fydd yr injan wedi'i diffodd.

Rhaid i'r system barhau i recordio delweddau (a sain pan fo'n gymwys) am 30 munud ar ôl i'r injan/system danio gael ei diffodd.

6.0 Gofynion o ran actifadu drwy ddefnyddio sbardun/botwm sain y gyrrwr neu'r teithiwr

Cyf

Gofyniad

Manylion

6.1

Rhaid i'r weithred o actifadu botwm sbardun ddarparu ar gyfer storio delweddau wedi'u diogelu rhag cael eu trosysgrifo pan gaiff ei actifadu gan y gyrrwr neu deithiwr.

Dylai fod o leiaf ddau fotwm sbardun wedi'u gosod ar y system, a fydd yn sbarduno recordio sain a delweddau fideo wedi'u diogelu, ar ôl iddynt gael eu hactifadu (gweler hefyd 1.17 ac 1.26 uchod).

6.2

Y gallu i ddiogelu delweddau rhag cael eu trosysgrifo mewn argyfwng

Caiff cyfresi o ddelweddau sy'n deillio o actifadu'r system mewn argyfwng eu recordio mewn cof sydd wedi'i ddiogelu rhag cael ei drosysgrifo

6.3

Y gallu i ddiogelu rhag trosysgrifo am o leiaf 3 actifadiad

 

6.4

Hunan-glirio'r cyfleuster diogelu rhag trosysgrifo ar amserydd 96 awr

 

 

 

7.0 Gofynion Technegol o ran Lawrlwytho

Cyf

Gofyniad

Manylion

7.1

Ni fydd yn cymryd mwy na 30 munud i lawrlwytho'r cof cyfan

Caiff y broses lawrlwytho ei chwblhau mewn 30 munud neu lai.

7.2

Darparu'r feddalwedd, ceblau, allweddi diogelwch angenrheidiol i Dîm Trwyddedu Cyngor

 

7.3

Rhaid i'r system fod yn gytûn â system weithredu TG y cytunwyd arni â'r awdurdod lleol

 

7.4

Caiff delweddau wedi'u lawrlwytho eu storio mewn cyfrwng sy’n dal i storio data heb bŵer trydanol

 

7.5

Caiff delweddau wedi'u lawrlwytho eu storio mewn fformat diogel

 

7.6

Dilysrwydd gwiriadwy delweddau

 

Bydd pob delwedd wedi'i stampio â rhif adnabod y rheolydd a rhif adnabod y cerbyd a bydd wedi'i diogelu rhag ymyrraeth.

7.7

Darparu cymorth technegol i Dîm Trwyddedu Cyngor yn ôl yr angen.

Helpu i gael mynediad i'r system os caiff y cerbyd neu'r system ei (d)difrodi os bydd damwain o fewn awr yn ystod oriau gwaith arferol ac o fewn 8 awr fel arall.

7.8

Gwaherddir Lawrlwytho Di-wifr

 

Ni ddylai'r uned ei gwneud yn bosibl i lawrlwytho data'n ddi-wifr. Gellir defnyddio diagnosteg ddi-wifr. Bydd unrhyw galedwedd ddi-wifr wedi'i hanalluogi.

7.9

Hidlo'r delweddau penodol ar gyfer digwyddiadau ac amseroedd er mwyn nodi'n fras pryd y cyflawnwyd y drosedd.

 

 

8.0 Gofynion o ran Gwybodaeth am y System

 Cyf

Gofyniad

Manylion

8.1

Darparu taflen log gwasanaeth gyda phob uned a anfonir

Bydd gwneuthurwr yr uned yn trefnu i log gwasanaeth gael ei anfon gyda'r uned. Bydd y gwneuthurwr hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl i'r gyrwyr gyda phob uned a anfonir.  Darperir llawlyfr gosod hefyd i'r gosodwyr awdurdodedig a gweithredwyr fflydoedd.

8.2

Nodir y rhif cyfresol ar y log gwasanaeth

Bydd rhif cyfresol wedi'i nodi ar yr uned

8.3

Bydd y dyddiad gosod wedi'i nodi ar y log gwasanaeth

Y ddarpariaeth i'r gosodwr nodi'r dyddiad gosod

8.4

Darparu cerdyn cyfarwyddiadau i'r gyrrwr gyda phob uned a anfonir

 

8.5

Darparu llawlyfr gosod i osodwyr a gweithredwyr fflydoedd

 

8.6

Eglurder y cyfarwyddiadau gweithredu

Darperir cyfarwyddiadau gweithredu clir a chryno ar gyfer y system, a fydd wedi'u hysgrifennu gan roi sylw priodol i wahanol lefelau o lythrennedd.

8.7

Caiff yr uned ei gosod gan asiantau awdurdodedig

Caiff yr uned ei gosod gan asiantau awdurdodedig y gwneuthurwr.

8.8

Darparu rhestr o asiantau awdurdodedig i Dîm Trwyddedu Cyngor

Bydd y gwneuthurwr yn darparu rhestr o'r holl asiantau awdurdodedig i Dîm Trwyddedu Cyngor

8.9

Dogfennaeth

Rhaid i'r gwneuthurwr ddarparu cyfarwyddiadau clir a chryno sydd wedi'u hysgrifennu mewn iaith syml.  (Manylion am y ffordd y mae'r system yn recordio'r delweddau)

8.10

Diogelu Delweddau

Rhaid i bob delwedd sy'n cael ei recordio gael ei diogelu gan ddefnyddio meddalwedd amgryptio sy'n cyrraedd safon bresennol FIPS 140-2 (lefel 2) neu safon gyfatebol neu sy'n rhagori ar y safon honno.

9.0 Cyfleuster Archwilio Cerbydau

 Cyf

Gofyniad

Manylion

9.1

Darparu dangosydd statws/cyflwr y system

Bydd gan y gyrrwr ddangosydd sy'n dangos pryd y mae'r system yn weithredol a phryd nad yw'r system yn gweithio.  

9.2

Dim ond y gyrrwr a ddylai allu gweld y man lle mae dangosydd statws/cyflwr y system wedi'i osod

Caiff y dangosyddion eu gosod lle y gallant gael eu gweld gan y gyrrwr yn unig.

9.3

Gofyniad i ddarparu dangosydd ychwanegol

Os bydd dangosydd wedi'i osod ar system i ddangos bod y system yn weithredol, bydd y dangosydd hwn ar wahân i'r rhai a restrwyd uchod neu o liw gwahanol er mwyn osgoi unrhyw ddryswch posibl ar ran y gyrwyr sy'n defnyddio'r system.

9.4

Wedi'i dylunio/gosod fel y gellir ei phrofi gan Dîm Trwyddedu Cyngor ……….. (neu bersonau sy'n gweithredu ar ran y Cyngor, megis archwilwyr cerbydau)

Bydd y system wedi'i dylunio ac wedi'i gosod fel y gall y system gael ei phrofi'n hawdd gan staff Tîm Trwyddedu Cyngor ……….. er mwyn sicrhau bod pob rhan ohoni yn gweithio a bod delweddau yn cael eu recordio fel y rhagnodwyd.

10.0 Gofynion Cyffredinol o ran y System

 Cyf

Gofyniad

Manylion

10.1

Rhaid i'r system allu gwrthsefyll fandaliaeth ac ymyrraeth

 

10.2

Darparu datganiad cydymffurfiaeth

Yn ogystal â phrawf ffurfiol ar bob agwedd ar y fanyleb gofynion hon, caiff datganiad cydymffurfiaeth ei ddarparu a'i lofnodi gan un o swyddogion y cwmni. 

10.3

Dibynadwyedd o dan amodau gweithredol ac amgylcheddol

Bydd y system yn gweithio mewn ffordd ddibynadwy a llawn o dan yr holl amodau gweithredol ac amgylcheddol a geir wrth weithredu tacsis.

10.4

Rhaglenadwyedd paramedrau amseru delweddau

Bydd yn bosibl i'r amseriad a'r paramedrau gael eu newid heb orfod newid cydrannau.

10.5

Hyfforddiant a Chymorth Technegol a Chyfarpar

Rhaid i'r gwneuthurwr ddarparu Llawlyfr Hyfforddiant a Thechnegol i Dîm Trwyddedu Cyngor ………… 

10.6

Meddalwedd a Chaledwedd

Bydd y gwneuthurwr yn rhoi cyflenwad o geblau a meddalwedd  i Gyngor ………….. eu gosod o dan oruchwyliaeth staff awdurdodedig y Cyngor.

10.7

Cytundeb rhwng Gwneuthurwr y Camera a Chyngor …………..

 

Cytundeb i alluogi Cyngor …………. i gael y feddalwedd berthnasol gan y Gwneuthurwr er mwyn i'r Cyngor allu cynnal y system, os bydd y Gwneuthurwr yn rhoi'r gorau i fasnachu.

10.8

Rhaid i'r holl gyfarpar gydymffurfio ag unrhyw ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â Rheoliadau Adeiladu a Defnyddio Cerbydau Modur

 

Annecs B: amodau ychwanegol

Amodau trwyddedu tchwanegol ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni/Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau os bydd system CCTV wedi'i gosod mewn cerbyd: 

Bydd perchennog y cerbyd yn sicrhau'r canlynol:

1.    Ni chaiff unrhyw system CCTV ei gosod mewn cerbyd trwyddedig, oni bai bod y math o system sydd i'w gosod wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod trwyddedu a bod caniatâd ysgrifenedig wedi'i roi gan yr awdurdod trwyddedu yn cadarnhau'r math o system, y lleoliad a nifer y camerâu. Ni chaiff y math o system, y lleoliad na nifer y camerâu ei amrywio heb gael caniatâd yr awdurdod trwyddedu ymlaen llaw.

2.    Caiff y system CCTV ei chynnal a'i chadw a'i gwasanaethu'n briodol ac yn rheolaidd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr gan unigolyn cymwys addas, a gymeradwywyd gan yr awdurdod trwyddedu. Caiff cofnodion ysgrifenedig o'r holl waith cynnal a chadw a gwasanaethu eu gwneud a'u cadw gan y perchennog am o leiaf 12 mis. Darperir cofnodion ysgrifenedig o'r fath os bydd un o swyddogion awdurdodedig yr awdurdod trwyddedu neu Swyddog yr Heddlu yn gofyn amdanynt.

3.    Rhaid i'r system CCTV fod yn gwbl weithredol pryd bynnag y bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i'w hurio neu am dâl.  Os na fydd y system yn weithredol, ni ddylid defnyddio'r cerbyd i'w hurio nac am dâl nes y bydd wedi'i thrwsio ac yn gwbl weithredol yn unol â manyleb CCTV yr awdurdod trwyddedu.

4.    Rhaid i'r system recordio a'r cerdyn cof (neu system recordio cof delweddau arall) fod wedi'u storio'n ddiogel yn y cerbyd mewn man lle na all y cyhoedd gael gafael arnynt.  

5.    Ni ddylai'r perchennog ymyrryd â'r system na'r ffilm sydd wedi'i recordio arni (ac ni ddylai'r perchennog ganiatáu i unrhyw berson, nad oes ganddo ganiatâd penodol yr awdurdod trwyddedu i wneud hynny, ymyrryd â'r system), ac eithrio fel y disgwylid i weithredu'r system yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

6.    Dim ond un o Swyddogion Awdurdodedig yr awdurdod trwyddedu neu Swyddog yr Heddlu a all lawrlwytho'r delweddau a geir yn y ddyfais recordio.

Amodau Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat:

1.    Rhaid i'r gyrrwr sicrhau bod y system CCTV yn weithredol pryd bynnag y bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i'w hurio neu am dâl. Os na fydd y system yn weithredol, ni ddylid defnyddio'r cerbyd i'w hurio nac am dâl nes y bydd wedi'i thrwsio ac yn gwbl weithredol yn unol â manyleb CCTV yr awdurdod trwyddedu.

2.    Rhaid i'r system recordio sain gael ei hactifadu gan y gyrrwr o dan yr amgylchiadau canlynol:

a.    Pryd bynnag y bydd plentyn (o dan 18 oed) neu oedolyn sy'n agored i niwed yn cael ei gludo yn y cerbyd ar ei ben ei hun
b.    Unrhyw bryd y bydd anghydfod rhwng y gyrrwr a theithiwr a bod y gyrrwr yn teimlo ei fod mewn perygl oherwydd ymddygiad teithiwr. 

3.    Ni ddylai'r gyrrwr ymyrryd â'r system na'r ffilm sydd wedi'i recordio arni (ac ni ddylai'r gyrrwr ganiatáu i unrhyw berson, nad oes ganddo ganiatâd penodol yr awdurdod trwyddedu i wneud hynny, ymyrryd â'r system), ac eithrio fel y disgwylid i weithredu'r system yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.