Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig gan gysylltu pobl â lleoedd pan nad oes gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus amgen ar gael neu pan nad ydynt yn ymarferol. Mae tacsis yn darparu gwasanaeth hollbwysig i rai o'r aelodau mwyaf agored i niwed o gymdeithas, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes unrhyw fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae tacsis hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi'r nos a'r economi twristiaeth. Ni ellir diystyru gwerth y cymorth y mae tacsis yn ei roi i'n cymunedau ac mae'r diwydiant yn elfen hollbwysig o'n huchelgeisiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, fel y'u nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Er bod y sector hwn yn bwysig i'n huchelgeisiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, mae'r diwydiant yn dal i gael ei reoli gan gyfreithiau a wnaed pan oedd cerbydau hacni a dynnid gan geffylau yn nodwedd gyffredin ar ein strydoedd. Yn syml, mae'r gyfraith yn gymhleth, mae wedi dyddio ac mae angen ei diwygio. Mae trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn fater datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017. Nes i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth newydd, bydd y ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol sy'n gymwys i Gymru a Lloegr yn parhau i fod yn gymwys.

Awdurdodau lleol sy'n bennaf cyfrifol am drwyddedu tacsis a dros y blynyddoedd mae awdurdodau lleol wedi datblygu cyfundrefnau trwyddedu gwahanol. Mewn rhai rhannau o Gymru, mae'r safonau gwahanol hyn a'r ddeddfwriaeth nad yw'n gyfredol mwyach wedi achosi anawsterau o ran rheoli'r diwydiant yn ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu deddfwriaeth newydd a bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol dros y 12 mis nesaf er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn diwallu anghenion y sector. Ein nod hirdymor yw creu system drwyddedu sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch y cyhoedd, cydraddoldeb, gwella'r amgylchedd a phrofiad y cwsmer.

Bydd yn cymryd tipyn o amser i ddatblygu'r ddeddfwriaeth newydd yn iawn. Felly, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr trwyddedu tacsis o Awdurdodau Lleol o bob rhan o Gymru i ddatblygu rhai argymhellion byrdymor er mwyn helpu i reoli'r sector yn well, rhwng nawr a'r adeg y rhoddir y ddeddfwriaeth newydd ar waith.

Mae'r argymhellion hyn yn gam ymlaen tuag at gyflwyno dull cyson a mwy effeithiol o drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru. Ar hyrwyddo diogelwch y cyhoedd sy'n teithio y mae'r argymhellion yn canolbwyntio'n bennaf. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pob gyrrwr a gweithredwr tacsis a cherbyddau hurio preifat a phob cerbyd yn ddiogel ac yn addas i'w trwyddedu.

Mae'r argymhellion yn y Canllaw hwn wedi nodi meysydd a allai wella diogelwch y cyhoedd yn gyson ledled Cymru.  Er mwyn i'r llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yng Nghymru allu darparu dull cyson, mwy effeithiol a mwy diogel o drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru, cyn i ddeddfwriaeth newydd gael ei deddfu, byddwn yn gofyn i bob awdurdod lleol fabwysiadu'r argymhellion hyn heb eu diwygio fel blaenoriaeth.

Rhan 1. Cefndir

1. Cyflwyniad

Mae tacsis (a elwir hefyd yn gerbydau hacni) a cherbydau hurio preifat yn fath hanfodol o drafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn ddull ymarferol o gludo pobl o ddrws i ddrws. Maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r canlynol:

  • Pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle nad yw mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus yn ddigonol
  • Pobl sy'n defnyddio economi'r nos
  • Teithwyr â phroblemau symudedd

Maent hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth hwyluso cynhwysiant cymdeithasol.

Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â Thacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn gyfredol mwyach, am fod y brif ddeddfwriaeth yn dyddio'n ôl i 1847 a 1976. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hyblygrwydd o ran cynnwys polisïau ac amodau trwydded. Mae hyn wedi cyfrannu at bolisïau, safonau ac amodau anghyson ledled Cymru a Lloegr.

Mae tua 5,000 o dacsis trwyddedig, 5,400 o gerbydau hurio preifat a 12,000 o yrwyr trwyddedig yng Nghymru.

Mae'n amlwg bod y diwydiant Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn datblygu ac yn addasu'n gyflymach na'r ddeddfwriaeth sy'n ei reoli. Mae cyflwyno systemau archebu a fflagio drwy ddefnyddio apiau wedi'i gwneud yn gyflymach ac yn haws i gwsmeriaid hurio cerbydau. Mewn rhai ardaloedd, mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y cerbydau 'o'r tu allan i’r dref' ac wedi tynnu sylw at anghysondebau mewn safonau trwyddedu rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mewn rhai rhannau o Gymru, mae gormod o gerbydau trwyddedig. Gall hyn ei gwneud yn anodd i'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn yr ardaloedd hynny wneud bywoliaeth dda. Mewn rhannau eraill o Gymru, gall fod prinder cerbydau trwyddedig. Yn benodol, mae grwpiau anabledd wedi nodi ei bod yn aml yn anodd hurio cerbydau sy'n diwallu eu hanghenion.

Gall oedran y ddeddfwriaeth olygu bod swyddogaethau gweinyddu a gorfodi yn heriol i awdurdodau lleol. Er enghraifft, nid oes gan swyddogion gorfodi bwerau, yn awtomatig, i gymryd camau yn erbyn gyrwyr/cerbydau 'o'r tu allan i'r ardal' sy'n gweithredu yn eu hardal.

Mae angen diweddaru'r gyfundrefn drwyddedu er mwyn datrys y problemau presennol; sicrhau bod y system trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn addas i'r Gymru fodern; a hyrwyddo diogelwch y cyhoedd.

Mae trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn fater datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017. Nes i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth newydd, bydd y ddeddfwriaeth drwyddedu genedlaethol bresennol sy'n ymwneud â Chymru a Lloegr yn parhau i fod yn gymwys.

Terminoleg:

Mae unrhyw gyfeiriad at ‘dacsis’ yn y canllaw hwn yn cyfeirio at gerbyd hacni, fel y'i disgrifir o dan A38 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847.

Mae i Gerbydau Hurio Preifat yr ystyr a ddisgrifir o dan a80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

Nod yr argymhellion yn Rhan 2 o'r canllaw hwn yw gwella cysondeb safonau trwyddedu a sicrhau bod y cyhoedd yn fwy diogel.

2. Cefndir

Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn, ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Canolbwyntiodd yr ymgynghoriad ar bedwar cynnig, sef:

  1. Llunio Safonau Cenedlaethol er mwyn mynd i'r afael â'r amrywiad yn y safonau ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat ledled Cymru
  2. Ymestyn pwerau gorfodi er mwyn galluogi swyddogion awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw dacsi/cerbyd hurio preifat sy'n gweithredu yn eu hardal
  3. Sefydlu protocolau rhannu gwybodaeth effeithiol at ddibenion diogelu
  4. Y posibilrwydd o ailgyfeirio swyddogaethau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat i ffwrdd oddi wrth awdurdodau lleol tuag at Gyd-Awdurdod Trafnidiaeth

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos bod cefnogaeth gref i gynigion un i dri, gweler: Gwella trafnidiaeth gyhoeddus

Cynnig pedwar oedd yr un lleiaf poblogaidd gydag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr y diwydiant tacsis/cerbydau hurio preifat. O'r 402 ymatebion i'r cynnig hwn, dim ond 17% a nododd eu bod o blaid ailgyfeirio swyddogaethau trwyddedu i Gyd-Awdurdod Trafnidiaeth.

Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaeth Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn. Derbyniodd fod cefnogaeth gyffredinol i gynigion 1-3, ond roedd yn cytuno bod teimladau cryf nad oedd y cynlluniau yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r heriau yr oedd y diwydiant a rheoleiddwyr yn eu hwynebu. O ganlyniad, nododd y Gweinidog y byddai'r cynigion ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu datblygu ymhellach.

3. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru

Er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith datblygu polisi, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Datganiad o Weledigaeth gyda'r nod canlynol:
‘Ein nod yw diweddaru ein system drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat fel ei bod yn addas at y diben yn y Gymru fodern. Rydym am greu un safon gyson a gaiff ei chymhwyso ledled Cymru, sy'n hyrwyddo diogelwch, yn cyfrannu at amgylchedd glanach, yn gwella profiad y cwsmer, ac yn hygyrch i bawb.’

Mae'r datganiad o weledigaeth yn canolbwyntio ar y pedair thema ganlynol:

  1. Diogelwch: Bydd Safonau Cenedlaethol yn anelu at sicrhau bod gweithredwyr, cerbydau a gyrwyr yn ddiogel ac yn addas i'w trwyddedu. Bydd gan reoleiddwyr y pwerau angenrheidiol i gymryd camau gorfodi effeithiol lle y bo angen. 
  2. Yr Amgylchedd: Bydd cerbydau trwyddedig glanach yn cyfrannu at dargedau cenedlaethol ar gyfer amgylchedd glanach a lleihau nwyon tŷ gwydr.
  3. Cydraddoldeb: Y nod yw sicrhau bod pob teithiwr, waeth beth fo'i ryw na ph'un a oes ganddo anabledd ai peidio, yn gallu cael gafael ar gerbyd addas. Bydd gyrwyr a gweithredwyr yn darparu gwasanaeth sy'n diwallu anghenion y cwsmer.
  4. Profiad y Cwsmer: Y bwriad yw y bydd pob cwsmer yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaeth tacsi da. Bydd cerbydau ar gael, byddant yn hygyrch ac yn ddiogel, a byddant yn cael eu gyrru gan yrwyr addas sy'n darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid.

4. Amlinelliad o'r argymhellion

Mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, derbyniwyd y gallai atebion sydyn liniaru rhai o'r problemau presennol. Y bwriad yw y gallai'r argymhellion gael eu mabwysiadu gan awdurdodau lleol heb fod angen newid deddfwriaeth.

Datblygwyd yr argymhellion yn y canllaw hwn gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chynrychiolwyr awdurdodau lleol drwy Fwrdd Diogelu'r Cyhoedd Cymru. Defnyddir y canllaw hwn fel canllawiau anstatudol.

Bwriedir i'r argymhellion a nodir yn Rhan II o'r canllaw hwn wneud y canlynol:

  • gwella diogelwch y cyhoedd
  • sicrhau mwy o gysondeb
  • gwella profiad y cwsmer

hyd y gellir heb newidiadau i ddeddfwriaeth a heb gost afresymol i awdurdodau trwyddedu a'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat.

Ni fydd yr argymhellion hyn ar eu pen eu hunain yn datrys yr holl heriau sy'n gysylltiedig â'r gyfundrefn drwyddedu bresennol, ond byddant yn sicrhau rhai gwelliannau. Byddant yn sail i waith datblygu pellach gan Lywodraeth Cymru i lunio safonau cenedlaethol.

Ystyriwyd 'Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat' yr Adran Drafnidiaeth wrth ddrafftio'r canllaw hwn a bydd mabwysiadu'r argymhellion yn Rhan II o'r canllaw hwn yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â nifer o'r argymhellion yn y Safonau. Bydd y safonau hyn yn gymwys i Gymru, nes i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth newydd.

5. Rhesymau dros fabwysiadu'r argymhellion

a) Diogelwch y cyhoedd

Prif ddiben trwyddedu yw diogelu'r cyhoedd. Ei nod yw sicrhau bod gyrwyr, gweithredwyr a cherbydau yn ddiogel ac yn addas i gludo'r cyhoedd. 

Gyrwyr

Defnyddir tacsis a cherbydau hurio preifat gan bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys plant ac oedolion sy'n agored i niwed. Dylai aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru ddisgwyl i yrrwr trwyddedig fod yn gymwys, yn onest, yn ddiogel ac yn ddibynadwy.

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ei Strategaeth Atal Troseddu Fodern. Fel rhan o'r Strategaeth, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw gyfleoedd i droseddwyr gam-drin plant yn rhywiol na chyflawni trais yn erbyn menywod a merched, drwy weithio gydag ardaloedd lleol i gyflwyno cyfundrefnau trylwyr ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Tynnodd adroddiadau Jay a Casey ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant yn Rotherham sylw at enghreifftiau o yrwyr tacsi yn cael eu cysylltu â phlant a gafodd eu cam-drin, gan gynnwys achosion lle roedd plant yn cael eu casglu o ysgolion, cartrefi plant neu gartrefi teuluol ac yn cael eu cam-drin neu'n dioddef camfanteisio rhywiol yn gyfnewid am deithio am ddim mewn tacsis.

Nododd Adroddiad Casey yn glir fod trefniadau gwan ac aneffeithiol ar gyfer trwyddedu tacsis wedi rhoi'r cyhoedd mewn perygl. Mewn ymateb i'r adroddiadau ac er mwyn cyfrannu at Strategaeth Atal Troseddu Fodern y Swyddfa Gartref, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth safonau statudol i awdurdodau lleol ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Nododd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol (Mehefin 2019), y gellid gwneud mwy ledled Cymru o ran sicrhau trefniadau cyson ar gyfer hyfforddiant diogelu i yrwyr tacsi.

Mae'n bwysig bod yr holl gamau y gellid eu cymryd er mwyn sicrhau bod gyrwyr trwyddedig yn ddiogel ac yn addas yn cael eu hystyried. Mewn perthynas â thrwyddedu gyrwyr, ystyrir y bydd mabwysiadu'r argymhellion canlynol yn gwella diogelwch y cyhoedd ledled Cymru:

  • Gwiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a defnyddio Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Gwirio ymgeiswyr sydd wedi byw dramor am fwy na 6 mis
  • Archwiliadau meddygol safonedig
  • Defnyddio cofrestr gwrthod/dirymu NR3S
  • Hyfforddiant diogelu
  • Polisi addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded

Cerbydau

Er mwyn diogelu'r cyhoedd, mae awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i dacsis a cherbydau hurio preifat fodloni gwahanol ofynion trwyddedu, megis safonau profi cerbydau, cyfyngiadau oedran a manylebau cerbydau. Nod y gofynion hyn yw cadarnhau bod cerbydau yn addas ac yn parhau i fod yn ddiogel i'w defnyddio gan y cyhoedd.

Ledled Cymru, mae gofynion trwyddedu ychydig yn wahanol ac ystyrir y byddai ceisio cysoni'r polisïau a'r amodau hyn, cyn unrhyw newid deddfwriaethol, yn rhy ddrud ar yr adeg hon.

Ar hyn o bryd, y prif faes trwyddedu cerbydau y cytunwyd y dylid ei gysoni yw'r math o systemau teledu cylch cyfyng (CCTV) gwirfoddol a geir mewn cerbydau a'r defnydd a wneir ohonynt (camerâu sy'n wynebu tuag i mewn a thuag allan).

Mae systemau CCTV mewn cerbydau yn ddefnyddiol i atal troseddau ac ymchwilio iddynt. Gallant ddiogelu'r gyrrwr a theithwyr.

Mae gyrwyr tacsi yn aml yn cludo teithwyr sydd wedi meddwi, a all eu rhoi mewn perygl. At hynny, maent yn aml yn cario symiau mawr o arian a all eu gwneud yn darged i ladron. Gall CCTV atal troseddau o'r fath rhag cael eu cyflawni.

Mae gyrwyr tacsi weithiau'n cael eu cyhuddo ar gam o droseddau. O ganlyniad, gallant fod allan o waith am beth amser os caiff eu trwydded ei hatal dros dro neu ei dirymu tra'n aros am yr ymchwiliad. Gall CCTV helpu i wrthbrofi cyhuddiadau ar gam mewn modd amserol.

Ar hyn o bryd, nid yw'r un awdurdod lleol yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i systemau CCTV gael eu defnyddio, ond mae llawer yn caniatáu hynny ar sail wirfoddol. Gall system CCTV addas fod yn ddrud ac mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu polisïau ac asesiadau risg helaeth os byddant yn ei gwneud yn ofynnol i systemau CCTV gael eu defnyddio yn eu cerbydau trwyddedig.

Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr sydd wedi'i gwneud yn ofynnol i systemau CCTV gael eu defnyddio wedi gallu cynnig cyfraddau gostyngol drwy wahanol fentrau cyllido.

Er bod ei gwneud yn ofynnol i systemau CCTV gael eu defnyddio yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried mewn safonau cenedlaethol yn y dyfodol, ar yr adeg hon ystyrir bod manyleb y cytunir arni i berchenogion sydd am osod system yn wirfoddol yn fuddiol. Bydd y fanyleb yn sicrhau bod systemau yn ddiogel a'u bod yn cydymffurfio â'r gofynion presennol o ran diogelu data.

Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt Asesiadau o'r Effaith ar Breifatrwydd a Pholisïau ar Lawrlwytho Data ar waith pan fyddant yn cymeradwyo defnyddio systemau CCTV mewn cerbydau.

Gweithredwyr Hurio Preifat

Mae gweithredwyr hurio preifat yn aml yn coladu llawer iawn o ddata personol ac maent mewn swydd o ymddiriedaeth. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddant yn gwybod pryd mae pobl oddi cartref ar wyliau. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn cadarnhau bod gweithredwyr yn ‘gymwys ac yn briodol’ i'w trwyddedu.

At hynny, yn aml gweithredwyr yw'r pwynt cyswllt cyntaf i deithwyr sydd am gwyno am y gwasanaeth y maent wedi'i gael gan yrrwr tacsi/cerbyd hurio preifat. Mewn rhai achosion, nid yw gwybodaeth berthnasol bob amser yn cael ei rhoi i'r awdurdod trwyddedu, y gall fod angen iddo benderfynu a yw gyrrwr yn dal i fod yn ‘gymwys ac yn briodol’ i barhau fel gyrrwr trwyddedig.

Wrth ddrafftio'r argymhellion, roedd cynrychiolwyr awdurdodau lleol o'r farn y gellid gwella'r amodau ar gyfer gweithredwyr hurio preifat ledled Cymru, drwy gyflwyno gofynion ychwanegol i roi gwybod am droseddau a gweithdrefnau cwyno wedi'u dogfennu.

b) Cysondeb

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn llunio eu polisïau a'u hamodau eu hunain ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae hyn yn golygu bod y gofynion ar gyfer trwyddedau yn wahanol iawn ym mhob un o'r 22 o awdurdodau yng Nghymru.

Mae'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn aml yn ystyried bod hyn yn annheg ac yn honni, mewn rhai ardaloedd, ei fod yn ychwanegu at broblemau sy'n gysylltiedig â ‘hurio ar draws ffiniau’. Honnir bod rhai ymgeiswyr yn cael eu trwyddedu gan awdurdodau lleol sydd â gofynion trwyddedu is ac wedyn yn gwneud gwaith hurio preifat yn bennaf mewn ardaloedd lle mae'r galw yn uwch. Mae'r arfer hwn yn gyfreithlon ond gall arwain at broblemau mewn rhai ardaloedd megis y canlynol:

  • Mwy o dagfeydd,
  • Gormod o gerbydau trwyddedig mewn trefi/dinasoedd a all leihau incwm gyrrwr,
  • Dryswch i aelodau o'r cyhoedd am y gall y cerbyd y maent yn ei hurio fod wedi'i drwyddedu gan awdurdod trwyddedu gwahanol,
  • Annhegwch i'r diwydiant tacsis/cerbydau hurio preifat o ran y safonau gofynnol,
  • Cyfyngiadau gorfodi am mai cyfyngedig yw'r pwerau y gall swyddogion awdurdodau lleol eu defnyddio yn erbyn cerbydau ‘o'r tu allan i'r dref’.

Heb ofynion na ffioedd trwyddedu safonedig ledled Cymru, cydnabyddir y bydd y problemau sy'n gysylltiedig â hurio ar draws ffiniau yn parhau. Fodd bynnag, mae'r argymhellion yn Rhan II o'r canllaw hwn wedi'u llunio fel cam cyntaf tuag at wella cysondeb ledled Cymru.

c) Gorfodi

Bydd amodau trwyddedu gyrwyr a gweithredwyr wedi'u cysoni ledled Cymru yn helpu i wella cysondeb gweithgarwch gorfodi.

At hynny, argymhellir y dylid cyflwyno protocol ar gyfer mabwysiadu system awdurdodi swyddogion ar draws ffiniau mewn ardaloedd lle mae hurio cerbydau ar draws ffiniau yn achosi problemau. Nodir protocol a awgrymir yn Local Government Association’s Taxi and PHV: Councillor's handbook (Cymru a Lloegr).

Mae protocolau o'r fath yn helpu swyddogion gorfodi i gymryd camau mwy effeithiol yn erbyn cerbydau ‘o'r tu allan i'r dref’ sy'n gweithio yn eu hardal.

d) Hygyrchedd

Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru yn hygyrch i bawb. Mae llawer o gyfrifon wedi'u dogfennu gan aelodau o'r cyhoedd sydd wedi'i chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru.

Nodir bod gan un o bob pum unigolyn yn y DU (13.3 miliwn) anabledd; o'r rhain, dim ond 26% o'r rhai sydd wedi nodi bod ganddynt anabledd sydd o dan oedran pensiwn. Namau ar symudedd yw'r math mwyaf cyffredin o anabledd, sy'n cyfrif am 49% o namau.

Mae Cymru yn uwch na chyfartaledd y DU o ran anableddau a nodir, gyda 25% o bobl yn nodi bod ganddynt anabledd o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 21%.

Yn 2017, cynhaliodd Anabledd Cymru arolwg i nodi profiadau pobl anabl a oedd yn defnyddio gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat ledled Cymru. Canfu fod 78% o'r ymatebwyr i'r arolwg wedi nodi eu bod yn anabl a dywedodd 64% o'r ymatebwyr eu bod wedi cael problemau wrth ddefnyddio tacsis neu gerbydau hurio preifat.  Ymhlith y problemau a danlinellwyd yn yr arolwg roedd:

  • diffyg cerbydau hygyrch;
  • gwrthod cymryd teithwyr mewn cadeiriau olwyn neu'r rhai â chŵn cymorth.
  • codi pris uwch ar deithwyr;
  • anallu gyrwyr i glymu cadeiriau olwyn yn ddiogel.

Mae rhagor o waith i'w wneud er mwyn sicrhau na fydd teithwyr ag anableddau yn parhau i wynebu'r mathau hyn o broblemau.

Mae Rhan II yn nodi gweithdrefn i yrwyr trwyddedig sy'n ceisio cael eu heithrio rhag cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rhagwelir y bydd y weithdrefn hon yn arwain at ddull cyson o gyhoeddi tystysgrifau eithrio ac yn sicrhau mai dim ond y rhai â rhesymau dilys o dan y ddeddfwriaeth a all gael eu heithrio rhag cyflawni eu dyletswyddau.

At hynny, mae amod trwydded a awgrymir a fyddai'n gymwys i berchenogion/gyrwyr cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn ceisio sicrhau y gall pob gyrrwr ddefnyddio rampiau cadair olwyn yn gywir a llwytho a chlymu cadeiriau olwyn yn ddiogel.

Dylid nodi bod y materion a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn faterion a gedwir yn ôl ac, felly, y byddant yn parhau i fod yn weithredol yng Nghymru nes i'r ddeddfwriaeth trwyddedu tacsis newydd gael ei chyflwyno.

e) Gwasanaeth cwsmeriaid

Mae Swyddogion Awdurdodau Lleol wedi nodi bod llawer o'r cwynion y maent yn eu cael yn ymwneud ag ymddygiad gyrwyr. Gall fod yn anodd iawn delio â hyn o ran cymryd camau gorfodi os nad oes achos diamheuol o dorri deddfwriaeth neu amod trwydded. Yn y pen draw, mater o benderfynu a yw gyrrwr yn ‘gymwys ac yn briodol’ i barhau fel gyrrwr trwyddedig ydyw.

Mae Cod Ymddygiad i yrwyr wedi'i ddatblygu er mwyn helpu gyrwyr trwyddedig i ddeall pa lefel o wasanaeth ac ymddygiad a ddisgwylir ganddynt. Dylid hysbysu gyrwyr y gallai methu â chyrraedd y safon ofynnol yn y Cod achosi pryder ynghylch eu haddasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig. Gall y Cod hefyd helpu'r cyhoedd i ddeall pa lefel o wasanaeth y gallant ei disgwyl.

Mae Cod Gwisg i yrwyr wedi'i ddatblygu hefyd er mwyn sicrhau bod dillad gyrwyr o safon dderbyniol a'u bod yn edrych yn broffesiynol bob amser.

Nod Llywodraeth Cymru yw gwneud y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn fwy proffesiynol drwy sicrhau bod y diwydiant yn cynnig gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid a bod gyrwyr yn gweithredu fel cenhadon dros Gymru.

6. Casgliad

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ar gyfer y ffordd y dylai'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat ddatblygu yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno deddfwriaeth newydd er mwyn trawsnewid y gyfundrefn drwyddedu sydd wedi dyddio.

Cyhoeddir y Canllaw hwn fel canllawiau anstatudol. Ystyrir bod yr argymhellion yn Rhan II o'r canllaw hwn yn fan cychwyn ar gyfer newid er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r problemau presennol o ran y cyfundrefnau trwyddedu, gwella safonau a chysondeb. Er mwyn gwneud hyn, argymhellir yn gryf y dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu'r argymhellion hyn (lle nad ydynt eisoes ar waith) am y rhesymau a nodwyd uchod.

Wrth newid Polisïau Trwyddedu, argymhellir y dylai awdurdodau lleol ymgynghori â rhanddeiliaid lleol a chynnal asesiadau effaith lle y bo angen.

Bydd mabwysiadu'r argymhellion yn y canllaw hwn hefyd yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â llawer o'r argymhellion yn 'Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat', a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth.

Rhan 2: argymhellion

Argymhellir y dylid ymgorffori'r geiriad a'r mesurau polisi ym Mholisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yr Awdurdod Trwyddedu, ac y dylid mabwysiadu'r dogfennau yn yr atodiadau.

Dylai awdurdodau lleol ddilyn eu gweithdrefnau arferol wrth adolygu eu datganiadau polisi trwyddedu

1. Safonau gyrwyr

a) Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:

Er mwyn bodloni'r awdurdod ei fod yn berson ‘cymwys a phriodol’, bydd pob ymgeisydd am rôl gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat yn cael Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, sy'n cynnwys gwirio'r rhestrau gwahardd ar gyfer plant ac oedolion. Ar gyfer gyrwyr trwyddedig, caiff y gwiriad hwn ei gynnal bob chwe mis.

Rhaid i bob ymgeisydd/deiliad trwydded gofrestru â Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a pharhau i danysgrifio iddo tra bydd ei drwydded yn weithredol. Rhaid i ddeiliad y drwydded roi caniatâd i'r Awdurdod Trwyddedu wirio ei statws gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dim ond os bydd dyddiad y datgeliad o fewn un mis calendr cyn i'r cais gael ei gyflwyno y derbynnir tystysgrifau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Er mwyn helpu i asesu addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded, bydd yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y ddogfen, ‘Guidance on determining the suitability of applicants and licensees in the hackney and private hire trades’, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Trwyddedu ym mis Ebrill 2018.

Dylid nodi y caiff cais unigolion sy'n ymddangos ar y naill restr gwahardd neu'r llall ei wrthod fel mater o drefn, oni fydd amgylchiadau eithriadol lle mae'r awdurdod trwyddedu o'r farn, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod yr unigolyn yn ‘gymwys ac yn briodol’.

b) Gwiriad cofnodion troseddol tramor

Ar gyfer pob ymgeisydd am drwydded gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat sydd wedi treulio cyfnod di-dor o chwe mis neu fwy y tu allan i'r Deyrnas Unedig ers ei ddegfed pen blwydd, bydd angen iddynt roi tystiolaeth i'r Awdurdod Trwyddedu o wiriad cofnodion troseddol o'r wlad/gwledydd yr ymwelwyd â hi/nhw sy'n cwmpasu'r cyfnod yr oedd yr ymgeisydd dramor.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd dalu unrhyw gostau ariannol sy'n gysylltiedig â gwiriadau o'r fath.

Ar gyfer gwladolion yr UE (gan gynnnwys dinasyddion y DU), dylai gwiriadau addas fod ar gael. Ar gyfer y gwledydd hynny nad oes gwiriadau ar gael ar eu cyfer, bydd angen i'r Awdurdod Trwyddedu gael tystysgrif ymddygiad da a ddilyswyd gan y llysgenhadaeth berthnasol. Rhaid i'r dystysgrif gael ei dilysu, ei chyfieithu a'i selio gan y Llysgenhadaeth neu'r Uchel Gomisiwn. Mae gwybodaeth am dystysgrifau ymddygiad da neu ddogfennau tebyg o sawl gwlad ar gael yn: Criminal records checks for overseas applicants 

Os na fydd ymgeisydd yn gallu cael tystysgrif ymddygiad da, dylai’r ymgeisydd gysylltu â'r Awdurdod Trwyddedu i gael rhagor o wybodaeth. 

Rhaid bod gwiriadau cofnodion troseddol tramor wedi'u cael o fewn y cyfnod o chwe mis cyn i'r cais gael ei gyflwyno.

Bydd angen i'r Awdurdod Trwyddedu gael unrhyw Dystysgrif Ymddygiad Da sydd gan yr ymgeisydd, waeth beth fo oedran y ddogfen.

Bydd angen i Dystysgrifau Ymddygiad Da sydd mewn iaith heblaw Saesneg gael eu cyfieithu i'r Saesneg ar draul yr ymgeisydd gan wasanaeth cyfieithu annibynnol a bydd yn rhaid i'r cyfieithiad gael ei wirio.

c) Gwiriadau meddygol

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd am drwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat gyrraedd safonau meddygol Grŵp 2 y DVLA ar gyfer ffitrwydd i yrru. Rhaid i'r asesiad meddygol gael ei gynnal gan feddyg teulu’r ymgeisydd ei hun neu feddyg teulu arall ym mhractis cofrestredig yr ymgeisydd sydd â mynediad llawn at ei gofnodion meddygol.

O dan amgylchiadau eithriadol, a dim ond ar ôl cael caniatâd yr Awdurdod Trwyddedu ymlaen llaw, gall asesiad meddygol gael ei gynnal gan bractis cofrestredig arall ar yr amod bod hanes meddygol llawn yr ymgeisydd wedi cael ei weld a'i asesu gan y meddyg teulu hwnnw.

Gall yr Awdurdod Trwyddedu gyfarwyddo unrhyw ddeiliad trwydded i ddarparu tystiolaeth foddhaol ar ffurf tystysgrif feddygol, sy'n nodi bod deiliad y drwydded yn cyrraedd safonau gofynnol Group 2, os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch ei ffitrwydd meddygol.

Os na fydd unigolyn sy'n cyflwyno cais i roi neu adnewyddu trwydded yn gallu bodloni'r Awdurdod Trwyddedu ei fod yn cyrraedd y safon feddygol ofynnol, yna ni roddir trwydded i'r unigolyn hwnnw, neu ni chaiff y drwydded ei hadnewyddu neu caiff ei dirymu.

Dyma’r gofynion o ran archwiliad meddygol ar gyfer ymgeiswyr/gyrwyr trwyddedig:

  • Pan wneir cais, bob 3 blynedd rhwng 45 oed a 65 oed
  • Bob blwyddyn pan fo'r gyrrwr yn 65 oed neu drosodd
  • Neu unrhyw bryd fel sy'n ofynnol gan yr Awdurdod Trwyddedu neu'r ymarferydd meddygol.

Mae’r ffurflen feddygol yn ddilys am 4 mis o’r dyddiad y mae’r meddyg, yr optegydd neu’r optometrydd sy’n cynnal yr archwiliad yn ei llofnodi.

Mae'n ofynnol i bob deiliad trwydded hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu am unrhyw salwch neu gyflwr sy'n effeithio ar ei allu i yrru.

Caiff yr holl gostau sy'n gysylltiedig â chael y dystysgrif feddygol berthnasol eu talu gan yr ymgeisydd/deiliad y drwydded.

Ceir ffurflen feddygol yn: Adroddiad meddygol ar gyfer tacsi neu drwydded yrru cerbyd hurio preifat: ffurflen gais

d) Polisi eithriadau meddygol o dan y ddeddf cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod nifer o ddyletswyddau cyfreithiol ar yrwyr trwyddedig pan fyddant yn cludo teithwyr ag anableddau.

Er mwyn gwella cydymffurfiaeth â gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb, dylid mabwysiadu'r Polisi a nodir yn Tacsis a cherbydau hurio preifat: polisi eithriadau meddygol o dan y ddeddf cydraddoldeb mewn perthynas ag eithriadau meddygol gyrwyr rhag y rhwymedigaethau sy'n ymwneud â chludo cŵn cymorth a theithwyr mewn cadeiriau olwyn.

e) Ymddygiad Gyrwyr

Disgwylir i yrwyr trwyddedig ymddwyn mewn modd proffesiynol a darparu gwasanaeth o safon uchel bob amser.

Datblygwyd y Cod Ymddygiad i Yrwyr a nodir yn Cod ymddygiad gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat er mwyn nodi'r safonau a ddisgwylir gan yrwyr trwyddedig ac mae'n rhan annatod o'r asesiad ‘cymwys a phriodol’.

Mae'r Cod hefyd yn rhoi cyngor i deithwyr posibl ar lefel y gwasanaeth y dylent ei disgwyl wrth hurio cerbyd trwyddedig.

f) Cod Gwisg i Yrwyr

Cydnabyddir, yn y diwydiant tacsis, fod Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn chwarae rôl bwysig wrth gyfleu delwedd gadarnhaol o'r ardal a gellir ystyried bod gyrwyr yn genhadon allweddol dros Gymru.

Mae unrhyw beth sy'n gwella delwedd broffesiynol y diwydiant Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ac sy'n hyrwyddo'r cysyniad bod gyrwyr cerbydau trwyddedig yn yrwyr galwedigaethol proffesiynol i'w groesawu.

Er mwyn sicrhau nid yn unig fod y nodau uchod yn cael eu cyflawni ond hefyd fod cerbydau yn cael eu gyrru'n ddiogel, mae Cod Gwisg i yrwyr trwyddedig wedi'i bennu, a nodir yn Tacsis a cherbydau hurio preifat: cod gwisg.

g) Amodau ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat

Nodir yr amodau trwyddedu sy'n gymwys i yrwyr cerbydau hurio preifat yn Cherbydau hurio preifat: amodau trwyddedu

h) Hyfforddiant diogelu

Mae gan yrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gyfrifoldeb pwysig o ran cludo teithwyr sy'n talu yn ddiogel. Disgwylir i yrwyr ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser a darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.

Gall gyrwyr trwyddedig yn aml weithredu fel llygaid a chlustiau cymuned. Gall hyfforddiant fod yn bwysig er mwyn helpu gyrwyr trwyddedig i wybod pryd maent yn cludo teithwyr sy'n wynebu risg o gamdriniaeth a chamfanteisio.

Rhaid i bob ymgeisydd newydd am drwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat gael hyfforddiant diogelu. Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio ar adnabod y ffactorau sy'n gwneud oedolion a phlant yn agored i niwed ac arwyddion trais, camfanteisio'n rhywiol, gweithgarwch llinellau cyffuriau a masnachu mewn pobl. Mae'n cynnwys enghreifftiau o deithiau amheus yn ogystal â gwybodaeth am gynnal ffiniau proffesiynol. Bydd yr hyfforddiant yn egluro wrth yrwyr sut y dylent adrodd ar bryderon am ddiogelu ac yn rhoi manylion cyswllt defnyddiol.

Mae hyfforddiant ar ddiogelu yn ofynnol. Fel enghraifft o hyfforddiant ar ddiogelu, mae’r fideo canlynol a’r prawf sy'n seiliedig ar gynnwys y fideo yn elfennau a allai gael eu pasio cyn y caiff trwydded ei roi.

Gwyliwch y fideo: Hyfforddiant diogelu ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a hurio Preifat a Cynorthwywyr Teithwyr

2. Safonau cerbydau

a) Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd am drwydded cerbyd hacni a cherbydd hurio preifat gyflwyno datgeliad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn bodloni'r awdurdod ei fod yn berson ‘cymwys a phriodol’. Caiff y gwiriadau hyn eu cynnal bob blwyddyn ar gyfer deiliaid trwydded cerbyd. Yr ymgeisydd/deiliad y drwydded fydd yn talu cost y gwiriadau hyn.

Ni fydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd eisoes yn dal trwydded gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat gyda'r awdurdod hwn ddarparu'r datgeliad sylfaenol fel rhan o'u cais am drwydded gweithredwr hurio preifat.

Er mwyn helpu i asesu addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded, bydd yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y ddogfen, ‘Guidance on determining the suitability of applicants and licensees in the hackney and private hire trades, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Trwyddedu ym mis Ebrill 2018.

Fel arfer, ni chaiff troseddau gyrru eu hystyried fel rhan o'r asesiad ar gyfer deiliaid trwydded cerbyd.

Ni chaiff gwybodaeth a geir mewn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd na fyddai'n cael ei datgelu mewn gwiriad sylfaenol ei hystyried fel rhan o'r asesiad ar gyfer trwydded cerbyd.

b) Gwiriad Cofnodion Troseddol Tramor

Ar gyfer pob ymgeisydd am drwydded gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat sydd wedi treulio cyfnod di-dor o chwe mis neu fwy y tu allan i'r Deyrnas Unedig ers ei ddegfed pen blwydd, bydd angen i'r Awdurdod Trwyddedu weld tystiolaeth o wiriad cofnodion troseddol o'r wlad/gwledydd yr ymwelwyd â hi/nhw sy'n cwmpasu'r cyfnod yr oedd yr ymgeisydd dramor.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd dalu unrhyw gostau ariannol sy'n gysylltiedig â gwiriadau o'r fath.

Ar gyfer gwladolion yr UE (gan gynnnwys dinasyddion y DU), dylai gwiriadau addas fod ar gael. Ar gyfer y gwledydd hynny nad oes gwiriadau ar gael ar eu cyfer, bydd angen i'r Awdurdod Trwyddedu gael tystysgrif o ymddygiad da a ddilyswyd gan y llysgenhadaeth berthnasol. Rhaid i'r dystysgrif gael ei dilysu, ei chyfieithu a'i selio gan y Llysgenhadaeth neu'r Uchel Gomisiwn. Mae gwybodaeth am dystysgrifau ymddygiad da neu ddogfennau tebyg o sawl gwlad ar gael yn: Criminal records checks for overseas applicants 

Os na fydd ymgeisydd yn gallu cael tystysgrif ymddygiad da, dylai’r ymgeisydd gysylltu â'r Awdurdod Trwyddedu i gael rhagor o wybodaeth. 

Rhaid bod gwiriadau cofnodion troseddol tramor wedi'u cael o fewn y cyfnod o chwe mis cyn i'r cais gael ei gyflwyno.

Bydd angen i'r Awdurdod Trwyddedu gael unrhyw Dystysgrif Ymddygiad Da sydd gan yr ymgeisydd, waeth beth fo oedran y ddogfen.

Bydd angen i Dystysgrifau Ymddygiad Da sydd mewn iaith heblaw Saesneg gael eu cyfieithu i'r Saesneg ar draul yr ymgeisydd gan wasanaeth cyfieithu annibynnol a bydd yn rhaid i'r cyfieithiad gael ei wirio.

c) Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) mewn Cerbydau

Mae diogelu gyrwyr a theithwyr o'r pwys pennaf a gall camerâu CCTV y tu mewn i gerbydau fod yn arf ataliol werthfawr.

Mae'n rhaid i'r defnydd o system CCTV y tu mewn i gerbyd gael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Trwyddedu ac mae'n rhaid iddi gyd-fynd â'r manylebau a nodir yn Tacsis a cherbydau hurio preifat: manyleb camerâu teledu cylch cyfyng neu ragori arnynt.

Rhaid i'r system allu recordio delweddau a sain (mewn argyfwng).

Ceir amodau sy'n ymwneud â systemau CCTV yn yr amodau trwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Y gyrrwr trwyddedig sy'n gyfrifol am sicrhau bod y system CCTV yn gwbl weithredol ar ddechrau pob sifft a chyn derbyn teithwyr sy'n talu.

d) Systemau Fideo 'Pwynt Taro' (VPIS)/Camerâu Dangosfwrdd

Mae'r Awdurdod Trwyddedu yn caniatáu i systemau VPIS (camerâu dangosfwrdd sy'n wynebu tuag allan) gael eu defnyddio mewn cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Rhaid i berchennog unrhyw gerbyd y mae system VPIS wedi'i gosod ynddo gydymffurfio â'r amodau a nodir yn Tacsis a cherbydau hurio preifat: polisi camerâu dangosfwrdd.

e) Hygyrchedd

Rhaid i gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn dynodedig allu hwyluso cludo pobl anabl a chynnwys person anabl mewn cadair olwyn ‘gyfeirio’* yn adran y teithwyr.

*Diffinnir cadair olwyn gyfeirio yn Atodlen 1 i Reoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000

Mae gan berchenogion gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw yrrwr trwyddedig sy'n gyrru un o'u cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn yn cael ei hysbysu am ei ddyletswyddau mewn perthynas â chludo pobl anabl mewn cadeiriau olwyn wrth yrru cerbyd hygyrch i gadeiriau olwyn trwyddedig.

Dylai'r amod trwyddedu canlynol fod yn gymwys i berchenogion cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn:

Rhaid i berchennog cerbyd hygyrch i gadeiriau olwyn trwyddedig ddangos i bob unigolyn sy'n gyrru'r cerbyd sut i helpu teithiwr mewn cadair olwyn i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd a chlymu'r gadair olwyn yn ddiogel yn y cerbyd. Bydd hyn yn cynnwys dangos i'r gyrrwr sut i osod y ramp(iau) a sut i ddefnyddio ac addasu'r ataliadau. Rhaid i'r perchennog gadw cofnod o ddangos hyn a chynnwys y canlynol:

  1. Y dyddiad y gwneir hyn
  2. Enw a rhif trwydded y gyrrwr
  3. Datganiad wedi'i lofnodi ac wedi'i ddyddio gan y gyrrwr sy'n cydnabod y dangoswyd iddo beth i'w wneud a'i fod yn deall yn glir sut i helpu teithiwr mewn cadair olwyn i fynd i mewn i'r cerbyd

Rhaid i'r perchennog gadw'r cofnod hwn cyhyd ag y bydd y gyrrwr yn defnyddio'r cerbyd. Os bydd y gyrrwr yn rhentu'r cerbyd eto yn y dyfodol, bydd yn rhaid i'r perchennog ddangos iddo beth i'w wneud a'i gofnodi.

Os mai'r perchennog yw gyrrwr trwyddedig y cerbyd hefyd, bydd y perchennog yn cofnodi datganiad cydnabod wedi'i lofnodi i ardystio y gall gyflawni cyfarwyddiadau gwneuthurwr y cerbyd ynglŷn â sut i helpu teithiwr mewn cadair olwyn i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd yn ddiogel a sut i glymu'r gadair olwyn yn ddiogel.  

3. Safonau Gweithredwr Hurio Preifat

a) Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Rhaid i bob unigolyn sy'n gwneud cais i roi neu adnewyddu trwydded Gweithredwr Hurio Preifat gyflwyno datgeliad sylfaenol (wedi'i ddyddio o fewn un mis i ddyddiad y cais) y gellir ei gael gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn bodloni'r awdurdod ei fod yn berson ‘cymwys a phriodol’. Yn achos ceisiadau gan gwmni neu sefydliad, rhaid i bob un o gyfarwyddwyr y cwmni/sefydliad ddarparu datgeliad sylfaenol. Yr ymgeisydd/deiliad y drwydded fydd yn talu cost y gwiriadau hyn.

Ni fydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd eisoes yn dal trwydded gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat gyda'r awdurdod hwn ddarparu'r datgeliad sylfaenol fel rhan o'u cais am drwydded gweithredwr hurio preifat.

Er mwyn helpu i asesu addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded, bydd yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y ddogfen, ‘Guidance on determining the suitability of applicants and licensees in the hackney and private hire trades’, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Trwyddedu ym mis Ebrill 2018.

Fel arfer, ni chaiff troseddau gyrru eu hystyried fel rhan o'r asesiad ar gyfer deiliaid trwydded gweithredwr hurio preifat. Ni chaiff gwybodaeth a geir mewn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd na fyddai'n cael ei datgelu mewn gwiriad sylfaenol ei hystyried fel rhan o'r asesiad ar gyfer trwydded gweithredwr hurio preifat.

b) Amodau ar gyfer Gweithredwyr Hurio Preifat

Nodir yr amodau trwyddedu sy'n gymwys i weithredwyr cerbydau hurio preifat yn Amodau ar gyfer Gweithredwyr Hurio Preifat.

4. Polisi Cyffredinol

a) Hunangofnodi gan Ddeiliaid Trwydded

Mae'n ofynnol i bob Deiliad Trwydded hysbysu'r awdurdod trwyddedu o fewn 48 awr i unrhyw achos lle mae wedi cael ei arestio a'i ryddhau am unrhyw drosedd rywiol, unrhyw drosedd sy'n ymwneud ag anonestrwydd neu drais ac unrhyw drosedd foduro. Rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu ymhellach o fewn 48 awr am unrhyw gyhuddiad ac unrhyw euogfarn. Gallai methiant i ddatgelu arestiad yr hysbysir yr awdurdod trwyddedu amdano wedi hynny gael ei ystyried yn ymddygiad sy'n codi amheuaeth ynghylch gonestrwydd ac, felly, addasrwydd deiliad y drwydded, waeth beth fo canlyniad y cyhuddiad cychwynnol.

b) Cofrestr genedlaethol o drwyddedau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat a ddirymwyd ac a wrthodwyd (NR3S)

Mae'r Awdurdod Trwyddedu yn darparu gwybodaeth ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol o Drwyddedau Tacsis a Wrthodwyd ac a Ddirymwyd (NR3S), sef system i awdurdodau trwyddedu rannu manylion unigolion y mae eu gyrwyr trwydded cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat wedi'i dirymu neu unigolion y mae eu cais am drwydded o'r fath wedi'i wrthod. Mae angen gwneud hyn er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yn yr Awdurdod Trwyddedu – hynny yw, asesu a yw unigolyn yn berson cymwys a phriodol i ddal trwydded gyrwyr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat.

Felly:

  • Os caiff trwydded gyrwyr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat ei dirymu neu os caiff cais am un ei wrthod, bydd yr awdurdod yn cofnodi'r penderfyniad hwn yn awtomatig ar NR3S.
  • Caiff pob cais am drwydded newydd neu bob cais i adnewyddu trwydded ei wirio'n awtomatig ar NR3S. Os bydd chwiliad o NR3S yn dangos bod ymgeisydd eisoes wedi'i gofnodi arni, bydd yr awdurdod yn ceisio rhagor o wybodaeth am y cofnod ar y gofrestr gan yr awdurdod dan sylw. Dim ond mewn perthynas â'r cais penodol am drwydded y defnyddir unrhyw wybodaeth a geir o ganlyniad i chwilio NR3S a chaiff ei dileu unwaith y penderfynir ar y cais hwnnw.

    Bydd y wybodaeth a gofnodir ar NR3S wedi'i chyfyngu i'r canlynol:
  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad a manylion cyswllt
  • rhif yswiriant gwladol
  • rhif y drwydded yrru
  • y penderfyniad a wnaed
  • dyddiad y penderfyniad
  • y dyddiad y daeth y penderfyniad i rym

Cedwir gwybodaeth ar NR3S am gyfnod o 25 mlynedd.

Mae hyn yn rhan orfodol o'r broses o wneud cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat. Mae gan yr awdurdod bolisi cyhoeddedig ar sut y bydd yn ymdrin â cheisiadau gan awdurdodau eraill am ragor o wybodaeth am gofnodion ar NR3S, ac ar y defnydd y bydd yn ei wneud o unrhyw wybodaeth bellach a roddir iddo. 

Caiff gwybodaeth ei phrosesu yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae unrhyw chwiliadau neu unrhyw achos o ddarparu neu dderbyn gwybodaeth sydd ynghlwm wrth NR3S yn angenrheidiol er mwyn cyflawni swyddogaethau trwyddedu statudol yr awdurdod i sicrhau bod pob gyrrwr yn gymwys ac yn briodol i ddal y drwydded gymwys. Ni fwriedir i unrhyw ddata NR3S gael eu trosglwyddo allan o'r Deyrnas Unedig.

Os hoffech godi unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys drwy ddibynnu ar unrhyw hawliau a roddir i destunau data o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r awdurdod yn MEWNOSOD MANYLION CYSWLLT. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cais am fynediad at ddata gan y testun.

Mae gennych yr hawl hefyd i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ceir cyngor ar sut i godi pryder ynghylch y ffordd y caiff data eu trin ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Make a complaint.

c) Gweithgarwch Gorfodi ar Draws Ffiniau

Os daw'n amlwg bod nifer o gerbydau sydd wedi'u trwyddedu gan yr awdurdod hwn yn gwneud y mwyafrif (h.y. mwy na 50%) o'r gwaith hurio preifat mewn ardal awdurdod lleol arall, neu pan fo'n amlwg bod nifer o gerbydau sydd wedi'u trwyddedu gan awdurdod lleol arall yn gwneud y mwyafrif o'r gwaith hurio preifat yn yr ardal hon, bydd yr awdurdod trwyddedu yn ceisio datblygu protocolau gorfodi gyda'r awdurdodau lleol hynny.

O dan yr amgylchiadau hyn, dilynir y protocol canlynol (fel y'i disgrifir yn Local Government Association’s Taxi and PHV Licensing Councillor’s handbook):

  • Mae pob awdurdod yn cytuno ar y lefel ofynnol o arbenigedd/cymwysterau/sgiliau ar gyfer cymeradwyo awdurdodi pob unigolyn.
  • Mae pob awdurdod yn nodi, drwy ei gynlluniau dirprwyo ei hun, ba gamau gweithdrefnol sydd angen eu cymryd er mwyn awdurdodi unigolyn yn ddilys (h.y. adroddiad prif swyddog, penderfyniad is-bwyllgor neu bwyllgor llawn).
  • Mae pob awdurdod yn cytuno ar ffurf a geiriad y ‘llythyr awdurdodi’ a'r ‘cerdyn gwarant â llun’ sydd i'w cyhoeddi.
  • Mae pob ‘cyngor sy'n gwneud cais’ yn gwneud cais ffurfiol i awdurdodi swyddogion unigol a enwir.
  • Mae pob ‘cyngor sy'n derbyn’ yn cael awdurdodiad ac yn rhoi ‘llythyr awdurdodi’ mewn perthynas â swyddogion yr awdurdod arall.
  • Mae pob awdurdod cyflogi yn rhoi cerdyn gwarant â llun i'w swyddogion ei hun sy'n nodi, at ddibenion [nodwch y Deddfau Seneddol], fod [enw] yn swyddog a awdurdodwyd yn briodol yn [rhestr o'r holl gynghorau awdurdodi].
  • Mae pob awdurdod yn rhoi copïau o is-ddeddfau priodol, amodau a methodolegau/systemau adrodd y cytunwyd arnynt ar gyfer ymdrin â cherbydau diffygiol a materion eraill o ardaloedd eraill i bob swyddog.
  • Mae pob awdurdod yn ceisio cymeradwyaeth wleidyddol ac ariannol ar gyfer gweithrediadau ar y cyd a gynlluniwyd ymlaen lllaw gyda'i gilydd a gyda'r heddlu/Cyllid a Thollau EM.
  • Caiff protocolau rhannu data, fel y bo angen, eu sefydlu rhwng awdurdodau, gan gynnwys templedi cofnodi digwyddiadau/logiau gweithrediadau safonol i'w defnyddio gan bawb er mwyn sicrhau cysondeb a chofnodi cynlluniau.

d) Polisi addasrwydd

Er mwyn asesu addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded, bydd yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y ddogfen, ‘Guidance on determining the suitability of applicants and licensees in the hackney and private hire trades’, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Trwyddedu ym mis Ebrill 2018.

Nodir y canllawiau yn ‘Guidance on determining the suitability of applicants and licensees in the hackney and private hire trades’.

e) Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat yr Adran Drafnidiaeth

Mae Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat yr Adran Drafnidiaeth yn nodi fframwaith o bolisïau o dan Adran 177 (4) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 y mae'n rhaid i awdurdodau trwyddedu “eu hystyried” wrth arfer eu swyddogaethau.

Er mwyn diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed, mae'r awdurdod trwyddedu yn ymrwymedig i roi'r argymhellion yn Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat yr Adran Drafnidiaeth ar waith. Mae geiriad y Polisi hwn wedi'i ddiwygio er mwyn ystyried y Safonau.