Mae'r tablau yn rhoi cipolwg ar economi Cymru ac yn manylu ar y perthnasoedd prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni ar gyfer 2019.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyfres o Dablau Cyflenwad a Defnydd (SUTs) a Thablau Mewnbwn-Allbwn (IOTs) ar gyfer 2019. Mae'r tablau hyn yn rhoi cipolwg ar Economi Cymru ac yn manylu ar y perthnasoedd prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni. Cyhoeddir tablau tebyg hefyd gan Lywodraeth yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), yn ogystal â chan yr ONS ar gyfer y DU gyfan.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn ganlyniad prosiect 3 blynedd i ddeall economi Cymru yn well. Ymunodd yr Athro Calvin Jones â Llywodraeth Cymru ar secondiad i ddatblygu'r gwaith hwn, ac rydym yn ddiolchgar iddo am ei arbenigedd gwerthfawr.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys dolenni i'r tablau cyflenwad a defnydd a’r tablau mewnbwn-allbwn ar fformat excel, dogfen fethodoleg sy'n egluro ein dulliau a blog gan Calvin Jones sy'n manylu ar y broses gynhyrchu a'r goblygiadau ar gyfer tirwedd data Cymru (Blog Digidol a Data). Byddwn yn cyhoeddi adnodd fydd yn galluogi defnyddwyr i gynnal dadansoddiadau gyda'u tablau eu hunain yn hwyrach yn ystod Gwanwyn 2025.
Ystadegau Swyddogol o dan ddatblygiad
Cyhoeddwyd yr ystadegau hyn fel 'Ystadegau Swyddogol o dan ddatblygiad', yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU). Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad yw ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu; efallai eu bod yn ystadegau newydd neu gyfredol, a byddant yn cael eu profi gyda defnyddwyr, yn unol â'r safonau o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gellir dod o hyd i'n Datganiad Cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ar ddiwedd y ddogfen Fethodoleg sy'n cyd-fynd â’r cyhoeddiad hwn.
Mae'r tablau cyflenwad a defnydd a’r tablau mewnbwn-allbwn yn ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi a byddant yn cael eu profi a’u trafod gyda defnyddwyr. Mae'r ddogfen fethodoleg sy'n cyd-fynd â’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu'r cyfyngiadau o ran argaeledd ac ansawdd data. Mae ein dulliau wedi cael eu hadolygu gan gydweithwyr ledled y DU a bydd y mewnwelediadau o'r broses hon yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad y gwaith hwn yn y dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, rydym yn cynllunio gwaith datblygu pellach ar dablau mewnbwn-allbwn:
- Ymgysylltu â defnyddwyr – Byddwn yn gofyn am adborth gan randdeiliaid ar gyhoeddi'r tablau hyn, ac yn gweithio gyda nhw i ddeall sut maen nhw'n defnyddio'r tablau o fewn eu gwaith. Bydd ein grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd yn trafod y gwaith hwn fis Mawrth 2025. Bydd adborth defnyddwyr yn bwydo i mewn i'r rhaglen waith yn y dyfodol.
- Datblygiadau methodolegol – byddwn yn gweithredu ar adborth o'r broses adolygu cymheiriaid i weithredu newidiadau i’r tablau mewnbwn-allbwn yn y dyfodol lle bo hynny'n ymarferol.
- Ansawdd data - byddwn yn datblygu cynllun ar gyfer gwella argaeledd ac ansawdd y data sy'n bwydo i mewn i'r tablau mewnbwn-allbwn. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r ONS, llywodraethau datganoledig a rhanddeiliaid a darparwyr data eraill.
Adborth
Byddem yn croesawu adborth ar y cynhyrchion hyn ac yn gwahodd defnyddwyr i gyflwyno hyn i TablauMewnBwnAllbwn@llyw.cymru.
Hoffem ddiolch yn arbennig i gydweithwyr yn yr ONS, Llywodraeth yr Alban a NISRA, y mae eu mewnwelediad a'u harbenigedd wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol y prosiect hwn.
Adroddiadau
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Jonathan Bonville-Ginn
E-bost: TablauMewnBwnAllbwn@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.