Systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant (WGC 010/2024)
Canllawiau i randdeiliaid ar reoliadau ar gyfer systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y cylchlythyr: WGC 010/2024
Dyddiad cyhoeddi: 23/07/2024
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant
Cyhoeddwyd gan: Colin Blick, Polisi Rheoliadau Adeiladu
Ar gyfer:
Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cymdeithas Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys
I'w anfon ymlaen at:
Rheolwyr Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau'r Senedd
Arolygiaeth Gofal Cymru
Crynodeb:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cylchlythyr
Deddf Adeiladu 1984
Rheoliadau Adeiladu 2010 ("Rheoliadau 2010")
- Ar ran Gweinidogion Cymru rwy'n tynnu'ch sylw at Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2024 ("y Rheoliadau Diwygio") a wnaed ar 07 Mehefin 2024. Bydd y Rheoliadau Diwygio'n dod i rym ar 17 Rhagfyr 2024.
- Yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984, gwnaed y Rheoliadau Diwygio ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.
- Diben y Cylchlythyr hwn yw gwneud y canlynol:
- tynnu sylw at y gwelliannau ac egluro'r newidiadau y maent yn eu gwneud i Reoliadau 2010
- Nid yw'r cylchlythyr yn rhoi cyngor ar ofynion technegol Rheoliadau Adeiladu 2010 gan fod Dogfennau Cymeradwy yn mynd i'r afael â'r materion hyn.
- Mae'r Cylchlythyr hwn yn nodi'r newidiadau i Reoliad 2 (Dehongli) a Rheoliad 37A (Darparu systemau llethu tân awtomatig) o Reoliadau 2010 fel y'u diwygiwyd. Dolenni i'r rheoliadau: Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2024 (legislation.gov.uk); Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2024 (legislation.gov.uk)
- Bydd y cyfeiriadau at Reoliad 37A o Reoliadau 2010 yn y Dogfennau Cymeradwy yn cael eu diweddaru maes o law.
Cwmpas y gwelliannau
- Mae'r Rheoliadau Diwygio yn gymwys i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru yn unig.
- Mae'r Rheoliadau Diwygio yn diwygio Rheoliadau 2010 i atgynhyrchu darpariaethau a gynhwysir ym Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r darpariaethau yn Rheoliadau 2010 bellach yn ei gwneud yn ofynnol:
- i systemau llethu tân awtomatig o dan Reoliad 37A o Reoliadau 2010 fod yn gymwys i gartrefi gofal i blant
- i systemau llethu tân awtomatig o dan Reoliad 37A o Reoliadau 2010 fod yn gymwys pan fo newid defnydd o gartref gofal i blant i gartref gofal i oedolion ac fel arall o gartref gofal i oedolion i gartref gofal i blant
Gwelliant i ddehongliad yn Rheoliad 2 o Reoliadau 2010
- Mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau Diwygio yn diwygio'r diffiniad o "sefydliad" yn Rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2010. Mae'r newid yn rhoi mwy o eglurder ynghylch yr adeiladau sy'n cael eu cwmpasu gan y diffiniad. Y prif newid yw dileu'r cyfeiriad at blant o dan bump oed, a nodi "o dan 18 oed" yn lle hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod cartrefi plant yn cael eu cynnwys yn y dehongliad hwn.
Gweliannau i Reoliad 37A o Reoliadau 2010
- Mae rheoliad 2(3)(a) o'r Rheoliadau Diwygio yn diwygio Rheoliad 37A (darparu systemau llethu tân awtomatig) o Reoliadau 2010 i gynnwys cartrefi gofal i blant yn benodol mewn is-baragraff newydd (aa). Mae is-baragraff (a) yn cynnwys cartrefi gofal i oedolion. Felly, mae'r gwelliant hwn yn sicrhau cydraddoldeb rhwng cartrefi gofal i blant a chartrefi gofal i oedolion.
- Mae rheoliad 2(3)(b) o'r Rheoliadau Diwygio yn rhoi paragraff newydd yn lle paragraff (2) fel bod newid defnydd sylweddol mewn adeilad, at ddibenion rheoliad 37A, yn cynnwys newid defnydd sylweddol o gartref gofal i blant i gartref gofal i oedolion neu o gartref gofal i oedolion i gartref gofal i blant.
- Mae paragraff (2A) sydd newydd ei fewnosod yn cadarnhau na fydd y gofynion a osodir gan Reoliad 6 o Reoliadau 2010 yn gymwys i newid defnydd sylweddol a ddisgrifir ym mharagraff (2)(b) o'r rheoliadau diwygio.
Trefniadau trosiannol
- Nid yw'r Rheoliadau Diwygio yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi ei roi i awdurdod lleol, neu pan fo cynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol cyn 17 Rhagfyr 2024.
- Pwysig: Bydd y gofyniad am systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi plant yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 cyn y dyddiad hwn.
Ymholiadau
Dylid anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r Cylchlythyr hwn i'r cyfeiriad canlynol:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu