Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru yn mynd ati i gyflwyno dulliau mwy cynaliadwy o fynd i'r afael â dŵr glaw a fydd yn lleihau perygl llifogydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn Strategaeth Dŵr Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn awyddus i  weld seilwaith carthffosiaeth a systemau draenio dŵr gwastraff a dŵr wyneb sy’n cael eu rheoli'n dda a'u cynnal a'u cadw mewn ffordd integredig.

Er mwyn helpu i gyrraedd y nod yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru am weld pob datblygiad newydd yn defnyddio systemau draenio cynaliadwy effeithiol. Nod systemau o'r fath yw mynd i'r afael â dŵr glaw drwy ddefnyddio technegau megis basnau a ffosydd ymdreiddio a storio sy'n debyg i ffyrdd naturiol o ymdrin â dŵr ffo ar safle. 

Mae cynlluniau draenio cynaliadwy yn arafu llif y dŵr ac yn cael gwared ar lygredd, gan wneud hynny fel arfer drwy gyfuniad o balmentydd hydraidd, ffosydd cerrig, toeon gwyrdd, pantiau a phyllau. 

Aeth Llywodraeth Cymru ati'n ddiweddar i ymgynghori ar sut y dylid mynd ati i gyrraedd y nod o weld systemau draenio cynaliadwy yn cael eu defnyddio ar bob datblygiad newydd mewn ffyrdd a fydd o fudd i'n cymdeithas mewn nifer o ffyrdd.  

Rhwng 2010 a 2015, bu Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo  Dŵr Cymru Welsh Water i ddatblygu cyfres o brosiectau draenio cynaliadwy o'r enw ‘GlawLif’. Mae un o'r rhai mwyaf o'u plith yn Ysgol Gynradd Stebonheath, Llanelli, sy'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau draenio cynaliadwy i ddargyfeirio neu i leihau'r dŵr glaw sy'n llifo i'r rhwydwaith carthffosiaeth. Yn eu plith y mae palmentydd hydraidd, casgenni dŵr, potiau plannu, mwy o goed, porfa a phlanhigion, a phant mawr. 

Ysgol Gynradd Stebonheath yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru â chynllun gwaredu dŵr wyneb wedi’i ôl-osod ar ei dir. Mae'r cynllun wedi bod yn gyfle addysgol hefyd, gan  helpu’r disgyblion i feithrin gwell dealltwriaeth am reoli adnoddau dŵr.

Wrth siarad yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Stebonheath, dywedodd Hannah Blythyn:

“Mae llifogydd sy'n cael eu hachosi gan ddŵr wyneb yn broblem ddifrifol. Mae'r prosiect GlawLif dw i wedi'i weld heddi' yn ffordd arloesol a chynaliadwy o fynd i'r afael â dŵr glaw. Mae'n lleihau perygl llifogydd a llygredd dŵr, ac mae hefyd, ar yr un pryd, o fudd i gymunedau mewn nifer o ffyrdd.

"Roedd hi'n wych clywed bod y plant wedi cael bod yn rhan o'r gwaith o ddylunio a chynnal a chadw nodweddion y cynllun GlawLif. Roedd yn arbennig o ddiddorol cael clywed eu bod wrthi'n addysgu eu rhieni am fanteision y prosiect. Mae hynny, yn ei dro, wedi meithrin gwell dealltwriaeth yn y gymuned o faterion yn ymwneud â draenio. Dw i'n meddwl ei bod yn ddigon teg dweud nad yw'n bwnc sy’n sbarduno trafodaeth fel arfer!"  

“Mae systemau draenio cynaliadwy yn helpu i leihau perygl llifogydd sy'n cael ei achosi gan ddŵr wyneb, i ddiogelu ansawdd dŵr ac i wella'r amgylchedd lleol. Rydyn ni'n awyddus i'w gwneud yn ofynnol ar bob datblygiad newydd yng Nghymru a dw i'n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'n hymgyngoriadau yn ddiweddar."