System monitro cychod pysgota (iVMS) ar gyfer gychod pysgota o dan 12m: diweddariad pwysig
Cyngor pwysig i bysgotwyr ynghylch dyfais MS44 y system.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae rheoleiddiwr morol Lloegr, y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) wedi bod yn gweithio i gyflwyno System Monitro Cychod (iVMS) ar gyfer cychod o dan 12m yn nyfroedd Lloegr. Mae’r MMO wedi dilyn trywydd gwahanol i Gymru gan ‘Gymeradwyo Mathau’ pedwar dyfais i’w defnyddio gan bysgotwyr Lloegr. Yn ystod y gwaith o gyflwyno’r dyfeisiau, cafodd y MMO adborth i awgrymu na fydd rhai dyfeisiau’n cydymffurfio â manyleb Cymeradwyo Mathau’r MMO. Wrth ymateb i hyn, mae’r MMO wedi cynnal proses brofi annibynnol sydd bellach wedi dod i ben.
O ganlyniad i’r profion, mae’r MMO wedi cyhoeddi bod statws Cymeradwyo Mathau dyfais MS44 y System Forol wedi’i ddirymu. Mae hyn yn golygu na all pysgotwyr Lloegr ei defnyddio.
https://www.gov.uk/government/news/mmo-announces-the-results-of-i-vms-device-testing.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi Cymeradwyo dyfeisiau Math iVMS a gall pysgotwyr Cymru ddefnyddio unrhyw ddyfais iVMS sy’n cydymffurfio â’r gofynion a nodwyd yn rheoliadau iVMS Cymru (Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022) (Ar GOV.UK). Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried canlyniadau profion y MMO ac ein barn ni yw nid yw dyfais MS44 y System Forol yn bodloni gofynion rheoliadau iVMS Cymru. Felly nid yw’n addas i Bysgotwyr Cymru ei defnyddio, nac ychwaith unrhyw gwch sy’n cynnal gweithrediadau pysgota yn y parth Cymreig.
Rydym yn ymwybodol bod nifer bach o bysgotwyr Cymru wedi prynu dyfais MS44 y Systemau Morol. Mae’n ofynnol i unrhyw bysgotwr sy’n dibynnu ar ddyfais iVMS y Systemau Morol gydymffurfio â Rheoliadau iVMS Cymru a chael dyfais arall cyn cynnal unrhyw weithrediadau pysgota pellach. Gellir prynu dyfais arall gan AST neu unrhyw gyflenwr dyfeisiau iVMS arall. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru stoc o ddyfeisiau iVMS AST sydd ‘wedi’u defnyddio’. Gellir darparu’r dyfeisiau hyn i bysgotwyr y mae hyn yn effeithio arnynt ond bydd cost i’w dalu i AST am adnewyddu’r ddyfais a gweinyddu’r broses o newid perchnogaeth. Dylai unrhyw bysgotwr sydd â diddordeb yn yr opsiwn hwn gysylltu ag AST (Rhif ffôn: 01603 327 417).
Ni all Llywodraeth Cymru roi cymorth ariannol i bysgotwyr y mae hyn yn effeithio arnynt gan fod dyfeisiau iVMS AST am ddim wedi cael eu cynnig i bob pysgotwr yng Nghymru cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.