Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Beth yw System Monitro Cychod Pysgota yn Nyfroedd y Glannau (iVMS)?

Mae dyfeisiau iVMS yn cael eu gosod ar gychod pysgota, ac maent yn anfon gwybodaeth, gan gynnwys lleoliad daearyddol, dyddiad, amser, cyflymder a chwrs y cwch, at yr Awdurdod Pysgota. O 15 Chwefror 2022 mae’n ofynnol cael dyfais iVMS ar gychod sy’n trosglwyddo’r wybodaeth i Awdurdodau Cymru bob 10 munud. Mae pysgota heb ddyfais iVMS weithredol ar eich cwch yn drosedd, a gall gwneud hynny arwain at gamau gorfodi’n cael eu cymryd.

Beth yw diben monitro cychod o dan 12m?

Yn 2019 fe wnaethom gyflwyno system Cofnodi Dalfeydd ar gyfer cychod dan 10m. Mae hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth inni am yr hyn sy'n cael ei ddal yn nyfroedd Cymru. Mae cyfuno data dalfeydd â data’r iVMS yn rhoi darlun llawnach inni o weithgareddau pysgota ac yn ein helpu i reoli cynaliadwyedd pysgota.

Mae’r iVMS yn rhoi tystiolaeth i’r diwydiant o darddiad dalfeydd a lle mae’r cwch yn pysgota. Gellid defnyddio’r dystiolaeth hon i ddatrys gwrthdaro â defnyddwyr morol eraill ac ar gyfer ymateb i ymgynghoriadau cynllunio morol a thrwyddedu.

Mae cyflwyno’r iVMS yn creu gofyniad cyffredin i holl gychod y DU a thrydydd gwledydd sy'n pysgota yn nyfroedd Cymru, ac mae’n galluogi trefniadau gorfodi i weithredu mewn modd mwy effeithlon a thargededig.

Pryd y daeth yn ofynnol i gychod dan 12m sy'n pysgota yng Nghymru a pharth Cymru ddefnyddio dyfais iVMS?

Daeth deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol defnyddio VMS ar bob cwch pysgota dan 12m trwyddedig sy'n gweithredu yn Nyfroedd Cymru, a llongau yng Nghymru lle bynnag y maent yn pysgota, i rym ar 15 Chwefror 2022.

The Sea Fishing Operations (Monitoring Devices) (Wales) Order 2022 (legislation.gov.uk)

Ydw i'n gymwys i gael dyfais iVMS am ddim gan Lywodraeth Cymru?

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnig cyflenwi a gosod dyfais iVMS yn rhad ac am ddim i bob cwch pysgota o dan 12m o Gymru, hyd at y dyddiad y daeth y ddeddfwriaeth am yr iVMS i rym. Nid yw dyfeisiau iVMS ar gael yn rhad ac am ddim mwyach. 

Cafodd y dyfeisiau iVMS eu cyllido gan Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop, ac oherwydd rheolau'r gronfa hon, dim ond os oedd yn cael ei gosod cyn y dyddiad yr oedd y ddeddfwriaeth i rym yr oeddem yn gallu cynnig gosod y ddyfais yn rhad ac am ddim. Rhaid ichi nawr drefnu i ddyfais iVMS addas gael ei gosod eich hun, a thalu am hynny. 

Nid oedd cychod pysgota cofrestredig nad ydynt o Gymru sy'n gweithredu yng Nghymru neu barth Cymru yn gymwys i gael dyfais am ddim gan Lywodraeth Cymru, a rhaid iddynt dalu am eu dyfais eu hunain. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'ch Awdurdod Pysgodfeydd i drafod a allant eich helpu yn hyn o beth.

O ble gallaf gael dyfais iVMS?

Rhaid i ddyfeisiau iVMS ddarparu'r wybodaeth ganlynol i Lywodraeth Cymru o leiaf unwaith bob deg munud:

  • lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch hwnnw, gan ddefnyddio cyfesurynnau lledred a hydred System Geodetig y Byd 1984, gyda chywirdeb o fewn deg metr o leiaf.
  • y dyddiad a'r amser yn Amser Cyffredinol Cydgysylltiedig unrhyw leoliad daearyddol y cwch hwnnw.
  • cyflymder a chwrs y cwch hwnnw y pryd hwnnw.

Efallai yr hoffech ddarllen y rhestr o ddyfeisiau sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Sefydliad Rheoli Morol i nodi cyflenwyr posibl ar gyfer y ddyfais.

Os ydych chi'n pysgota yn Lloegr mae gwybodaeth ar gael ar GOV.UK:

Monitro Cychod y Glannau (I-VMS) ar gyfer cychod pysgota o dan 12m sydd wedi'u cofrestru yn Lloegr

Systemau Monitro Cychod y Glannau yn 2022

Os ydych yn dewis dyfais nad yw ar y rhestr o ddyfeisiadau cymeradwy neu wedi eu cymeradwyo gan Awdurdod Pysgodfeydd arall yn y DU, bydd angen ichi gysylltu â ni i drafod a yw'r ddyfais yn addas. Mae'n rhaid i'r ddyfais allu trosglwyddo i hyb VMS y DU, gall unrhyw ddyfais nad yw eisoes wedi'i chymeradwyo gan awdurdodau'r DU godi ffioedd cysylltiad ychwanegol.

A yw pysgotwyr mewn rhannau eraill o'r DU yn ddarostyngedig i ofynion iVMS?

Rhaid i bob cwch pysgota masnachol o dan 12m sy'n gweithredu yng Nghymru neu barth Cymru gydymffurfio â'r gofynion iVMS newydd.

Mae gofynion iVMS tebyg wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Ynys Manaw ar gyfer eu dyfroedd.  Mae y Sefydliad RheolI Morol yn cyflwyno gofynion iVMS ar gyfer pob cwch pysgota dan 12m sy'n teithio neu'n pysgota yn nyfroedd Lloegr, ac mae Awdurdodau Pysgodfeydd mewn rhannau eraill o'r DU hefyd yn ystyried mesurau tebyg.

A ellir defnyddio fy nyfais i gydymffurfio â gofynion VMS yn nyfroedd gwledydd eraill?

Dylid gofyn am gadarnhad gan gyflenwr y ddyfais pan fydd manylion cynllun iVMS y wlad arall yn hysbys. Mae'r dyfeisiau a gyflenwir gan Lywodraeth Cymru wedi'u rhaglennu i anfon gwybodaeth bob deg munud ond gellir eu gosod i wneud hynny’n amlach os oes angen.

Pwy fydd â mynediad at fy nata?

Bydd y data ar gael i’r partïon canlynol:

  • Canolfan Monitro Pysgodfeydd Cymru a thimau Rheoli a Gorfodi’r Môr a Physgodfeydd eraill Llywodraeth Cymru;
  • Gweinyddiaethau Pysgodfeydd eraill y DU;
  • Tim Gwyddoniaeth a Thystiolaeth Forol a Thîm Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru; a
  • Timau Polisi Morol a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru.

Bydd y data yn cael ei gasglu a'i brosesu er mwyn cynnal gwaith monitro a gorfodi, gwaith gwyddonol a gwaith rheoli pysgodfeydd, ac fel y gall y  Gweinyddiaethau gyflawni eu swyddogaethau statudol a’u swyddogaethau polisi. Dibenion rhannu data personol rhwng y Gweinyddiaethau yw rheoli’r môr a physgodfeydd, cynnal gwaith gwyddonol a gorfodi'r gyfraith yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bosibl y rhennir data â’r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Faterion Morol a Physgodfeydd, Comisiwn yr UE mewn achosion penodol, e.e. i fonitro gweithgareddau pysgodfeydd mewn cyd-

destun rhyngwladol ehangach neu fel rhan o ymchwiliad penodol. Mewn perthynas â chytundebau rhyngwladol, mae data VMS yn cael ei rannu drwy sianeli diogel â thrydydd gwledydd a sefydliadau rhyngwladol (Sefydliadau Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol). Mae’r data’n cael ei reoli mewn systemau diogel bob amser ac yn cael ei ddefnyddio dim ond at ddibenion archwilio a gwyliadwriaeth.

Mae’n bosibl y rhennir data â thrydydd parti at ddibenion ymchwil wyddonol, ond bydd unrhyw wybodaeth y gellir ei chysylltu ag unigolion yn cael ei chuddio. Yn ogystal, bydd fersiwn ddienw a chyfanredol o'r data’n cael ei ychwanegu at borth data Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i'r cyhoedd. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys gwybodaeth am leoliad, ar gael i bysgotwyr eraill nac i’r cyhoedd. Ni fydd gweinyddwyr y system dechnegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.

A gaf ddefnyddio System Adnabod Awtomatig yn lle dyfais iVMS?

Nid ystyrir bod y system adnabod awtomatig yn system orfodi addas ar gyfer cychod o dan 12m. Datblygwyd systemau adnabod awtomatig at ddiben gwahanol i’r VMS, a’u prif bwrpas yw caniatáu i gychod weld a chael eu gweld gan draffig morol yn eu hardal. Mae systemau adnabod awtomatig yn systemau ffynhonnell agored, sy'n golygu bod yr holl ddata ar gael i'r cyhoedd gan gynnwys lleoliad cwch, cyfeiriad teithio a math y cwch.

Roedd preifatrwydd data yn un o’r prif bryderon a gafodd eu codi yn ystod ymgynghoriad Cymru ar yr iVMS. Mae’r iVMS wedi’i dylunio i sicrhau mai dim ond yr Awdurdod Pysgota sy'n derbyn y data, ac mae’n cael ei amgryptio a’i drosglwyddo drwy sianel ddiogel. Mantais ychwanegol dyfeisiau iVMS yw eu bod wedi’u dylunio fel nad oes modd ymyrryd â nhw. Yn wahanol i ddyfais i-VMS, gellir diffodd system adnabod awtomatig.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth drwy:

E-bost: MarineEvidenceandTech@llyw.cymru

Rhif Ffôn: 03000 258907/03000 258923. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Cyfeiriad:               

Llywodraeth Cymru
Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
Is-adran y Môr a Physgodfeydd
C1 Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
Conwy LL31 9RZ

Mae'r cwestiynau a'r atebion canlynol yn ymwneud yn benodol â’r dyfeisiau o AST a gyflenwir gan Lywodraeth Cymru i gychod pysgota cofrestredig o Gymru

Sut y byddaf yn gwybod a yw fy dyfais yn gweithio'n iawn?

Mae AST Applied Telematics yn darparu mynediad i berchnogion/capteiniaid llongau, sy'n defnyddio dyfais AST, i ap symudol. Bydd yr Ap yn caniatáu ichi weld a yw'ch dyfais VMS yn gweithio'n gywir ac yn dangos lleoliad cyfredol / hysbys diwethaf y ddyfais. Byddwch ond yn gweld eich gwybodaeth llongau eich hun ar yr Ap.
I gael mynediad i'r ap cysylltwch â AST:

Bydd yr ap ar gael ar yr app store, chwiliwch am "AST IVMS Check".  Mae'n rhaid i chi gysylltu ag AST i gwblhau'r broses sefydlu yn –

telematics@theastgroup.com neu 
(0)1603 327936 a dewis opsiwn 2

Mae AST yn anfon rhybuddion batri isel i'r rhai sydd wedi darparu cyfeiriad e-bost, edrychwch yn eich ffolder ‘junk’, efallai bod eich darparwr e-bost wedi dargyfeirio'r e-byst. Gallwch newid hyn yn eich gosodiadau drwy ychwanegu'r e-bost at eich rhestr ddibynadwy, anfonir y rhybudd o

irams-hub@ast-msl.com

Caiff dau rybudd eu hanfon:

"Bydd eich traciwr VMS / iVMS yn gweithredu am tua dau ddiwrnod arall cyn i'r batri redeg allan. Dylech wefru eich traciwr, dros nos, neu am o leiaf 8 awr, cyn gynted â phosibl".

"Bydd eich traciwr VMS / iVMS yn gweithredu am tua 16 awr cyn i'r batri redeg allan. Dylech wefru eich traciwr, dros nos, neu am o leiaf 8 awr, cyn gynted â phosibl".

Os oes difrod gweladwy i'r ddyfais VMS rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru ar:

cyn gynted ag y byddwch yn dod yn ymwybodol o'r broblem a chysylltwch â chyflenwr y ddyfais i drefnu gwaith trwsio ar

Bydd Llywodraeth Cymru neu gyflenwr y ddyfais yn cysylltu â chi os nodir problem gyda'r data a drosglwyddir gan y ddyfais.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau:

(a) nad yw'r ddyfais fonitro wedi'i datgysylltu â llaw;

(b) nad yw'r ddyfais fonitro yn cael ei dinistrio, ei difrodi, ei gwneud yn anweithredol, neu’n cael ei rhwystro fel arall; 

(c) nad yw unrhyw antena sy'n gysylltiedig â'r ddyfais fonitro yn cael ei rwystro mewn unrhyw ffordd; a 

(d) nad yw'r cyflenwad pŵer i'r ddyfais fonitro yn cael ei atal.

Beth yw cost trosglwyddo data ?

Cost trosglwyddo data drwy ddyfeisiau a gyflenwir gan Lywodraeth Cymru yw £120 + TAW am y flwyddyn gyntaf sef 2022-23. 

Mae'n ofynnol i bysgotwyr lofnodi telerau ac amodau AST, a yw hyn yn gytundeb ymlaen llaw i dderbyn cynnydd mewn costau yn y dyfodol?

Nac ydy, nid yw telerau ac amodau'r cyflenwr yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at gostau na chanslo yn y dyfodol, ac eithrio cyhoeddi anfoneb 30 diwrnod cyn i'r cyfnod y gellir anfon gwybodaeth am ddim ddod i ben. Byddai’r anfoneb yn cynnwys y tâl blynyddol ymlaen llaw, ac os penderfynwch beidio â thalu'r ffi, bydd y gwasanaeth yn dod i ben.

Beth yw telerau ac amodau dyfais a ariennir gan Lywodraeth Cymru?

Drwy dderbyn bod dyfais yn cael ei gosod ar eich llong neu gwch rydych yn cytuno i delerau ac amodau Llywodraeth Cymru fel y nodir isod:

  • Nid oes hawl gwaredu, trosglwyddo perchnogaeth na gwerthu unrhyw offer a ddarperir heb ganiatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys newidiadau anuniongyrchol e.e. os bydd llong neu gwch yn newid perchnogaeth neu os bydd lleoliad unrhyw eitemau a ariennir yn newid.
  • Os nad ydych yn derbyn telerau ac amodau'r cyllid yna bernir nad yw'r eitem wedi cyflawni ei rhwymedigaethau i'r cynllun ac felly gellir cychwyn achos adfer ac adennill cyllid.

A gaf ddychwelyd y ddyfais iVMS heb orfod talu cost?

Gellir trosglwyddo'r uned iVMS yn ôl i Lywodraeth Cymru. Ni fydd tâl yn cael ei godi arnoch oni bai bod angen peiriannydd i dynnu'r ddyfais o'r cwch. Bydd rhaid ichi dalu’r gost hon yn ogystal â chost dyfais amgen a’r taliadau data sy’n gysylltiedig â’r ddyfais honno.

A fydd y ddyfais yn anfon data pan fydd ar dir?

Na fydd. Ni fydd y ddyfais yn parhau i anfon gwybodaeth am leoliad pan fydd cwch ar y tir.

A gaf osod y ddyfais fy hun?

Na chewch. Rhaid i’r ddyfais gael ei gosod gan beiriannydd cymwys, a rhaid i’r peiriannydd gynnal prawf ar y safle i wirio bod y ddyfais yn anfon data.

Ble y dylid lleoli'r ddyfais ailwefradwy/solar pan fydd yn cael ei defnyddio?

Dylid sicrhau bod y ddyfais bob amser yn cael ei rhoi yn sownd yn y bracedi a ddarperir, at ddibenion diogelwch ac i sicrhau ei bod yn gweithio. Yn yr ychydig eithriadau lle nad oes modd gosod y bracedi, dylid gosod y ddyfais bob amser yn y lleoliad y cytunwyd arno gyda'r peiriannydd pan gafodd ei gosod. Dylid rhoi sylw gofalus i gyfeiriad y cês, gan fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd solar a'r signal GPS gorau posibl. Mae angen sicrhau bod yr erial yn wynebu tua’r awyr gyda golwg glir o’r awyr.

A oes angen gosod y cap glas yn sownd ar y doc gwefru?

Pryd bynnag nad yw’r doc gwefru’n cael ei ddefnyddio, rhaid bob amser osod y cap glas gwrth-ddŵr yn sownd i atal y pinnau gwefru rhag gael eu difrodi gan y tywydd. Gall gwarant y gwneuthurwr fod yn annilys os yw'r pinnau gwefru yn cael eu difrodi o ganlyniad i ddod i gysylltiad â’r tywydd yn ddiangen.

Faint o amser mae’n ei gymryd i fatri’r ddyfais wefru yn llawn?

Mae'r ddyfais iVMS yn cymryd 11 awr i wefru’n llawn, a dylai’r batri bara am 11 diwrnod. Peidiwch â gadael y mesurydd batri ymlaen pan fydd y ddyfais yn cael ei gwefru, gan y bydd hyn yn ei hatal rhag gwefru’n iawn (bydd pŵer yn cael ei ddargyfeirio i'r mesurydd batri, gan atal y batri rhag gwefru’n llawn).

Pam mae'r batri wedi mynd yn ddi-bŵer mewn llai nag 11 diwrnod?

Os bydd y dangosydd batri yn cael ei adael ymlaen, bydd  hyn yn lleihau'r pŵer yn y batri.  Dim ond i wirio lefel y pŵer y dylid troi’r dangosydd batri ymlaen. Peidiwch â gadael y mesurydd batri ymlaen wrth wefru’r ddyfais gan na fydd yn gwefru’n iawn.

A gaf ddatgysylltu’r pŵer i’r ddyfais os nad yw’r cwch yn cael ei ddefnyddio, fel nad yw’r batri’n cael ei ddraenio?

Mae'n iawn datgysylltu’r pŵer i’r ddyfais os nad ydych yn bwriad defnyddio eich cwch am sawl diwrnod.

Sut mae'r panel solar yn estyn oes y batri?

Bydd yr unedau solar yn estyn oes y batri yn ystod yr haf pan fydd rhagor o olau dydd. Bydd angen gwefru’r batri yn amlach yn y gaeaf. Ni ddylid byth adael y dangosydd batri ymlaen gan y bydd hyn yn lleihau'r pŵer yn y batri.  Pan nad yw'n cael ei ddefnyddio am gyfnodau estynedig, argymhellir bod y panel solar yn cael ei ddiffodd, gweler adran 3.1 (Sut mae'n gweithio) a 3.2 (Eich cyfrifoldebau) yn y llawlyfr i ddefnyddwyr i gael rhagor o wybodaeth am ddyfeisiau solar.

Ble dylwn storio’r ddyfais pan nad yw’n cael ei defnyddio?

Dylid storio pob dyfais uwchben y llinell ddŵr bob amser. Ni ddylid gadael y ddyfais hon ar gwch pan nad yw’n cael ei ddefnyddio am gyfnodau hir.

Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os oes gennyf unrhyw gwestiynau neu broblemau gyda dyfais wedi'i gosod?

AST Llinell gymorth 01603 327936 opsiwn 2.

Fersiwn 6: Awst 2024