Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi mynegi gofid mawr ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfnewid ETS yr UE am dreth garbon os na cheir cytundeb Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ac Ysgrifennydd Amgylchedd yr Alban, Roseanna Cunnigham, mewn llythyr ar y cyd at y Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Thwf Glân, yn galw ar Lywodraeth y DU i drefnu cyfarfod â Gweinidogion ar unwaith i benderfynu ar drefniadau tymor hir newydd fydd yn gyson â’r setliad datganoli. 

Yn y cynigion a ddisgrifir yn y gyfres ddiweddaraf o Hysbysiadau Technegol ar gyfer ‘dim cytundeb’, mae Llywodraeth y DU yn cynnig cael gwared ar y system masnachu allyriadau – y cytunwyd arni gan y pedair gweinyddiaeth – a chodi treth garbon yn ei lle ar lefel y DU gyfan, heb drafod â’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar lefel Gweinidog.