Neidio i'r prif gynnwy

Yfory (1 Ebrill) bydd system "gadarn, deg a thryloyw" newydd yn cael ei lansio ar gyfer ffioedd trwyddedu morol a chostau cysylltiedig yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn cydweithrediad â'r diwydiant a phartneriaid eraill, mae Adolygiad o Ffioedd Trwyddedu Morol wedi'i gynnal am y tro cyntaf ers 2010. Diben yr adolygiad hwn yw datblygu system briodol sydd wedi'i diweddaru ar gyfer ffioedd a chostau trwyddedu morol yng Nghymru. 

Am y tro cyntaf erioed, mae'r model newydd ar gyfer ffioedd yn cyflwyno haenau, gyda chymysgedd o ffioedd penodedig a chostau yr awr. Mae hyn yn wahanol i'r model ffioedd penodedig cyffredinol a ddefnyddiwyd o'r blaen. Mae'r dull newydd yn golygu bod costau yn gallu cael eu hadennill yn fwy cywir a theg. 

Mae ffioedd ceisiadau yn cyfateb i’r gwasanaethau a ddarperir. Bydd bandiau ffioedd penodedig o £600 (Band 1) a £1,920 (Band 2) yn gymwys ar gyfer gweithgareddau ar raddfa fach a gweithgareddau arferol, yn y drefn honno. Bydd hefyd gyfradd yr awr o £120 (Band 3) yn daladwy ar gyfer y pecynnau gwaith mwyaf cymhleth. Yn yr achosion hyn, bydd cwsmeriaid yn cael amcanbrisiau ymlaen llaw ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ynghylch y costau.

Llywodraeth Cymru sydd wedi gosod y ffioedd newydd a Cyfoeth Naturiol Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu morol yng Nghymru, fydd yn codi'r ffioedd hynny.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu mwy o wasanaethau cyn cyflwyno cais. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i drafod a chael cymorth pwrpasol sydd wedi'i deilwra'n arbennig, ynghyd ag adolygu datganiadau amgylcheddol drafft. Diben hyn yw darparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a sicrhau bod y broses yn un effeithlon.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu rhaglen wella barhaus ar gyfer y system trwyddedu morol a bydd y ffioedd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Bydd y Grŵp Rhanddeiliaid Trwyddedu Morol presennol hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i rannu gwybodaeth ac i gael adborth gan gynrychiolwyr o'r diwydiant. 

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

"Rwy’n falch o gadarnhau ein bod yn lansio system ar gyfer ffioedd trwyddedu morol a chostau cysylltiedig sydd, yn ein barn ni, yn un gadarn, deg a thryloyw.

"Mae'r diwydiant morol yn hanfodol bwysig i Gymru.  Buom yn gweithio’n agos â'r diwydiant hwn wrth adolygu'r system ffioedd ac rwy'n siŵr y bydd yn ymuno â ni a Cyfoeth Naturiol Cymru i groesawu'r system newydd hon."