Neidio i'r prif gynnwy

Mae pob un ohonom yn gyfarwydd ag egwyddorion cyfiawnder, gan gynnwys cydraddoldeb o dan y gyfraith a thriniaeth deg, ac mae’r egwyddorion hyn yn elfennau allweddol o wneud Cymru’n genedl gyfiawn, gyfartal, amrywiol a ffyniannus. Mae cyfiawnder yn treiddio i gymaint o agweddau ar fywydau pobl Cymru ac mae sicrhau cyfiawnder yn effeithiol yn ffordd hanfodol o sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed, a’n bod yn gallu gorfodi ein hawliau sylfaenol.

Am flynyddoedd lawer, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau y dylid datganoli cyfiawnder i Gymru ac mae hyn yn parhau yn nod gennym fel rhan o’n rhaglen lywodraethu. Yn ein barn ni, bydd gwneud penderfyniadau am gyfiawnder yma yng Nghymru yn arwain at well canlyniadau, a hynny drwy gysoni cyfiawnder yn briodol â’n polisïau datblygol ein hunain ar gyfer cymdeithas, iechyd ac addysg, a’r corff cynyddol o gyfraith Cymru.

Yn ein cyhoeddiad Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, fe wnaethom amlinellu rhai o’r llu o ffyrdd arloesol mae cyfiawnder yn cael ei sicrhau yma yng Nghymru ar hyn o bryd, a pham mae sicrhau newid yn fater hollbwysig i Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, wrth inni ddadlau o blaid newid, rhaid inni hefyd ddefnyddio ein meysydd cyfrifoldeb presennol fel meincnodau ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni. Er nad yw’r system llysoedd a thribiwnlysoedd sydd ar waith yng Nghymru wedi’i datganoli’n gyffredinol; mae gan Gymru ei chorff bach, ond arwyddocaol, o dribiwnlysoedd datganoledig. Fel y nododd y Comisiwn annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd:

“…dylai tribiwnlysoedd Cymru a'u gweinyddiaeth gael eu gweld a'u trin fel rhan o system farnwrol Cymru sy'n dod i'r amlwg” (Adroddiad Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru).

Mae tribiwnlys yn fforwm effeithlon a hygyrch ar gyfer datrys anghydfod. Mewn rhai achosion mae’n cynnig gwarchodaeth bwysig yn erbyn camau gweithredu annheg gan y wladwriaeth; dro arall mae’n ffordd i unigolion ddatrys eu hanghydfodau cyfreithiol preifat. Er eu bod yn fwy anffurfiol na llys yn aml, nid ydynt yn cael eu hystyried yn un o ganghennau’r llywodraeth mwyach. Yn hytrach maen nhw’n cael eu hystyried, yn gywir, yn rhan hollbwysig o’r system farnwrol.

Mae fframweithiau deddfwriaethol annibynnol yn rheoli ein holl dribiwnlysoedd datganoledig. Yn ymarferol, mae hyn wedi creu bylchau ac anghysondeb yn system dribiwnlysoedd Cymru fel y mae heddiw. Ond nid drwy fwriad. Y rheswm yw bod tribiwnlysoedd wedi datblygu’n dameidiog dros lawer o flynyddoedd. Un o’r datblygiadau diweddar yw creu swyddfa Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Ond mae’r ddeddfwriaeth honno’n troshaenu’r fframweithiau sy’n bodoli eisoes ac nid yw’n creu cyfanwaith cydlynol.

Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr elfennau datganoledig o’r system gyfiawnder yn esiampl o’r hyn y gall Cymru ei gyflawni. Mae diwygio tribiwnlysoedd yn rhan hanfodol o’r uchelgais hon. Mae Comisiwn y Gyfraith wedi amlinellu glasbrint ar gyfer diwygio (Comisiwn y Gyfraith, 2021 - Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru) ac mae’r cynigion yn y Papur Gwyn hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn.

Rydym yn cynnig cyfuno ein tribiwnlysoedd datganoledig ar wahân mewn un strwythur unedig a chydlynol, sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac, am y tro cyntaf yn hanes cyfreithiol Cymru, Tribiwnlys Apêl Cymru. Bydd ein cynigion yn gwneud y system dribiwnlysoedd yn fwy hyblyg, felly wrth i gyfraith ddatganoledig barhau i dyfu, gellir ymgorffori llwybrau apelio pellach heb fawr o darfu, gan alluogi ein seilwaith cyfiawnder tribiwnlysoedd i dyfu a datblygu dros amser.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael eu trin yn deg ac yn gyfartal, a hynny wrth gael mynediad at gyfiawnder hefyd. Mae ein cynigion ar gyfer diwygio yn ategu’r ymrwymiad hwn. Wrth roi ein cynigion ar waith i greu strwythur newydd i dribiwnlysoedd Cymru, mae ein hamcan yn ddeublyg. Yn gyntaf, creu system dribiwnlysoedd fodern i Gymru, gan ganolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder ac ar anghenion defnyddwyr tribiwnlysoedd, a all fod yn hyderus bod y system yn gweithredu’n annibynnol ac mewn modd sy’n dyfarnu ar eu hanghydfodau yn gyfiawn, yn effeithlon ac yn brydlon. Yn ail, gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi’i ddatganoli ac mae Cymru’n gweinyddu ei system ehangach o lysoedd a thribiwnlysoedd.

Rydym yn edrych ymlaen at gael eich safbwyntiau ar ein cynigion, ac yn gwerthfawrogi eich barn.

Image

Mick Antoniw AS / MS
Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Image
Counsel General and Minister for the Constitution