System dribiwnlysoedd newydd i Gymru: Papur gwyn - Pennod 7: Penodi a neilltuo
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru er mwyn creu un system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol a fydd yn cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cynnig
Rydym yn cynnig:
- dull cydlynol o benodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
- wrth wneud penodiadau, dylid ystyried yr angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir yn aelodau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
- bod y telerau a’r amodau, gan gynnwys taliadau cydnabyddiaeth, yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru
- system ar gyfer neilltuo aelodau tribiwnlysoedd yn effeithiol ar draws y system dribiwnlysoedd newydd.
Cyflwyniad
129. Rydym wedi nodi ym Mhennod 5 ein cynigion i gefnogi annibyniaeth farnwrol yn y system dribiwnlysoedd newydd. Gydag annibyniaeth daw atebolrwydd, ac nid yw’r rhain yn gynigion anghydnaws. Mae’r Bwrdd Gweithredol Barnwrol wedi crynhoi atebolrwydd barnwrol fel a ganlyn:
Mae barnwyr unigol yn ddarostyngedig i system gref o atebolrwydd mewnol mewn perthynas â chamgymeriadau cyfreithiol ac ymddygiad personol...[ac] yn atebol i’r cyhoedd yn yr ystyr bod eu penderfyniadau yn gyhoeddus yn gyffredinol ac yn cael eu trafod, yn aml yn feirniadol, yn y cyfryngau a gan grwpiau buddiant ac adrannau o’r cyhoedd y maent yn effeithio arnynt. Yn yr un modd, mae’r farnwriaeth yn atebol yn sefydliadol mewn perthynas â phenderfyniadau cyntaf a phenderfyniadau apeliadol.
Nid yw barnwyr unigol na’r farnwriaeth, ac ni ddylent fod, yn atebol i gangen weithredol y wladwriaeth oherwydd mae hynny’n groes i’r annibyniaeth farnwrol sy’n ofyniad angenrheidiol i farnwyr gyflawni eu cyfrifoldeb craidd i ddatrys anghydfodau yn deg ac yn ddiduedd. (The Accountability of the Judiciary)
130. Mae annibyniaeth ac atebolrwydd barnwrol yn gweithredu mewn cydbwysedd. Er bod y penodiadau ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru ar hyn o bryd yn dilyn prosesau dethol tryloyw, mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer penodiadau yn anghyson. Bydd dull cydlynol o benodi aelodau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, sy’n deillio o brosesau dethol clir a thryloyw, yn cyfrannu at y cydbwysedd hwn. Felly, mae ein cynigion ar gyfer penodi i’r system dribiwnlysoedd newydd yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- dylai prosesau a gweithdrefnau ddiogelu annibyniaeth aelodau tribiwnlysoedd a’r system dribiwnlysoedd newydd
- dylai’r awdurdod penodi fod yn gyson er mwyn sicrhau tegwch
- dylai penodiadau fod yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw.
Y trefniadau ar gyfer penodi ar hyn o bryd
131. Mae’r cyfrifoldeb dros benodi aelodau i dribiwnlysoedd datganoledig, a’r broses o wneud hynny, yn anghyson. Dyma un o ganlyniadau datblygiad tameidiog Tribiwnlysoedd Cymru ac mae wedi codi nid oherwydd penderfyniadau polisi i drin penodiadau ar draws tribiwnlysoedd mewn ffyrdd gwahanol, ond yn bennaf oherwydd treigl amser a gan fod y safbwyntiau ynghylch natur farnwrol tribiwnlysoedd wedi datblygu. Mae gweithdrefnau gwahanol eto yn berthnasol i aelodau Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion.
132. Mae’r trefniadau presennol ar gyfer penodiadau i’r tribiwnlysoedd datganoledig, gan gynnwys ar gyfer swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, wedi’u nodi yn y tabl isod:
Penodiadau
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
Deddfwriaeth: Adran 60 o Ddeddf Cymru 2017 ac Atodlen 5 iddi
Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Brif Ustus, ymgyngoreion - Yr Arglwydd Ganghellor, Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn).
Panel Dyfarnu Cymru
Deddfwriaeth: Adran 75 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000
Awdurdod penodi: Gweinidogion Cymru
Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
Deddfwriaeth: Adran 73 o Atodlen 9 i Ddeddf Amaethyddiaeth 1947
Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor
Tribiwnlys Addysg Cymru
Deddfwriaeth: Adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Awdurdod penodi: Mae’r Arglwydd Ganghellor yn penodi: y Llywydd, y panel cadeirydd cyfreithiol.
Gweinidogion Cymru yn penodi panel lleyg gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Llywydd.
Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
Deddfwriaeth: Adran 65 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac Atodlen 2 iddi
Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor
Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
Deddfwriaeth: Adran 229 o Ddeddf Tai 2004, adran 173 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2022 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977
Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor yn penodi aelodau cyfreithiol. Gweinidogion Cymru yn penodi: aelodau cyffredinol, Is-lywydd, Llywydd o blith y sawl a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor.
Tribiwnlys y Gymraeg
Deddfwriaeth: Adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac Atodlen 11 iddo
Awdurdod penodi: Gweinidogion Cymru
Tribiwnlys Prisio Cymru
Deddfwriaeth: Rheoliadau 9, 11 a 12 o Reoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 ac Atodlen 2 iddynt
Awdurdod penodi:
Panel Penodi Cyngor Llywodraethu’r Tribiwnlys:
- Aelodau
- Cadeiryddion
Etholiad drwy bleidlais gan holl aelodau’r Tribiwnlys:
- Llywydd
Nodyn: Mae gan Weinidogion Cymru bwerau diofyn os na wneir y penodiadau uchod o fewn tri mis i’r dyddiad pan ddaw’r swydd yn wag.
Derbyn i ysgol
Deddfwriaeth: Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005
Awdurdod penodi: Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu benodi naill ai 3 neu 5 aelod i bob panel apêl
Gwahardd o’r ysgol
Deddfwriaeth: Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003
Awdurdod penodi: Rhaid i awdurdod lleol benodi naill ai 3 neu 5 aelod i bob panel apêl
133. Gydag eithriadau cyfyngedig (gweler Pennod 6: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, paragraff 112), nid oes gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru gyfrifoldebau dros benodiadau i Dribiwnlysoedd Cymru. Mae’r cyfraniad a’r oruchwyliaeth farnwrol gyfyngedig ar gyfer penodiadau i dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd yn cyferbynnu â’r sefyllfa yn system Cymru a Lloegr ac yn yr Alban, a’r swyddogaethau a roddir yn y drefn honno i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd (Troednodyn 1) ac i Arglwydd Lywydd a Llywydd y Tribiwnlysoedd (Troednodyn 2).
Y trefniadau arfaethedig ar gyfer penodi
134. Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio’r prosesau penodi cyfredol yn cynnig awdurdodau penodi newydd ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru (gweler Atodiad 2, argymhellion Comisiwn y Gyfraith 31 i 37). Gellir crynhoi'r rhain fel a ganlyn:
- ac eithrio Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau, aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i’w penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru
- Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru i’w penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
135. Rydym yn cytuno ag egwyddor cynigion Comisiwn y Gyfraith. Gellid rhoi cyfrifoldebau’r awdurdod penodi i Weinidogion Cymru, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, neu i weinidog penodol megis y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol. O dan y trefniadau ar hyn o bryd, mae’r cyfrifoldebau penodi ar gyfer rhai o Dribiwnlysoedd Cymru yn perthyn i weinidog penodol (yr Arglwydd Ganghellor) sydd â dyletswyddau statudol penodol mewn perthynas ag annibyniaeth y farnwriaeth. Yn gyffredinol, nid yw swyddogaethau’n cael eu rhoi i Weinidogion unigol Cymru.
136. Rydym yn ystyried y bydd dull gweithredu cydlynol ar gyfer penodiadau ar draws y system dribiwnlysoedd newydd, yn enwedig y rôl ehangach i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yn cyfrannu at annibyniaeth farnwrol. O dan y cynigion hyn, ni fydd modd gwneud unrhyw benodiadau heb gyfraniad barnwrol, a hynny ar ffurf y Llywydd yn gweithredu fel awdurdod penodi neu’n cydsynio i benodiadau lle bo Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel awdurdod penodi.
137. Wrth gwrs, pwy bynnag yw’r awdurdod penodi, yr elfen bwysicaf yw y dylai penderfyniadau penodi fod yn seiliedig ar argymhellion sy’n deillio o brosesau dethol clir a thryloyw. Mae’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn gorff statudol ac yn gyfrifol am ddewis pobl ar gyfer penodiadau barnwrol i Dribiwnlysoedd Cymru lle mai’r Arglwydd Ganghellor yw’r awdurdod penodi ar hyn o bryd. Lle mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi, y Comisiwn Penodiadau Barnwrol sy’n rheoli’r prosesau dethol o dan delerau trefniant o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
138. Rydym yn cynnig y dylai penodiadau barhau i fod yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw. Ar y cyd â'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol a Llywodraeth y DU, rydym yn archwilio’r ystyriaethau ymarferol o gadw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol i ymgymryd â phrosesau dethol ac i wneud argymhellion ar gyfer penodi aelodau i’r system dribiwnlysoedd newydd.
139. Canlyniad derbyn y cynigion hyn fyddai na fyddai’r Arglwydd Ganghellor yn cadw rôl fel awdurdod penodi yn y system dribiwnlysoedd unedig newydd. Ymddengys i ni fod hyn yn briodol: mae’r Arglwydd Ganghellor yn gyfrifol am farnwriaeth awdurdodaeth Cymru a Lloegr, a gedwir yn ôl, ac nid oes ganddo swyddogaethau cymesur mewn perthynas â’r farnwriaeth mewn sefydliadau datganoledig, megis llysoedd yr Alban, fel arfer.
Meini prawf ar gyfer penodi
140. Un o ganlyniadau pellach datblygiad tameidiog y tribiwnlysoedd datganoledig yw bod diffyg cydlyniaeth yn y meini prawf ar gyfer penodi aelodau tribiwnlysoedd y mae’n rhaid i ddarpar ymgeiswyr eu bodloni, a’u bod yn amrywio o dribiwnlys i dribiwnlys, yn hytrach na bod yn gyson ar draws y system. Ar hyn o bryd, er enghraifft, ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru dim ond drwy statud y mae’r amod cymhwysedd penodiad barnwrol (Adran 50(5) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007) yn berthnasol i rolau cyfreithiol yn Nhribiwnlys y Gymraeg, Tribiwnlys Addysg Cymru a Thribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru.
141. Mae’r amod cymhwysedd penodiad barnwrol yn gosod gofyniad statudol ar gyfer o leiaf 5 neu 7 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso ac mae’n nodi’r cymhwyster cyfreithiol perthnasol y mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu arno ar gyfer penodiad i rôl gyfreithiol. Mae’r cymwysterau hynny’n cynnwys, er enghraifft, bargyfreithiwr, cyfreithiwr, neu Gymrawd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’r rhai sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol yn gymwys i wneud cais am ystod fwy cyfyngedig o rolau cyfreithiol yn awdurdodaeth ehangach Cymru a Lloegr o’u cymharu â’r rhai sydd wedi cymhwyso fel bargyfreithiwr neu gyfreithiwr. Rydym yn nodi'r hyblygrwydd sydd ar gael i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd, a gaiff benodi barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf hyd yn oed os nad yw'r person hwnnw'n bodloni amod cymhwysedd y penodiad barnwrol (Paragraff 2(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007).
142. Mae rolau cyffredinol yn cwmpasu ystod ehangach ac amrywiol o feysydd. Ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru, mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl, amaethyddiaeth a safonau moesegol llywodraeth leol, ymysg eraill. Felly, mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rolau cyffredinol yn amrywio lle bo hynny’n briodol, yn dibynnu ar awdurdodaeth y tribiwnlys y mae rôl gyffredinol yn berthnasol iddo.
143. Mae meini prawf clir a chyson ar gyfer penodi yn un rhan o’r hafaliad ar gyfer adeiladu a chynnal corff yr aelodau ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd. Rhan arall yw amrywiaeth. Dywedodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, (“Comisiwn Thomas”):
Mae gan bobl Cymru hawl i gael system gyfiawnder sy'n diwallu eu hanghenion penodol ac yn ystyried demograffeg, daearyddiaeth, amrywiaeth a chydraddoldeb. (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 12.3.2, tudalen 466)
144. Mae’r ystadegau swyddogol blynyddol ar amrywiaeth farnwrol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2022, sy’n cwmpasu’r farnwriaeth bresennol, penodiadau barnwrol a phroffesiynau cyfreithiol, yn dangos, er enghraifft, bod tua hanner barnwyr tribiwnlysoedd yn ferched, ond bod y gyfran yn is ym marnwriaeth y llysoedd, yn enwedig mewn rolau uwch. Ar ben hynny, ar gyfer penodiadau barnwrol, roedd y cyfraddau argymell o’r gronfa gymwys ar gyfer ymgeiswyr ethnig leiafrifol 37% yn is nag ar gyfer ymgeiswyr gwyn, gwahaniaeth a ddisgrifir yn yr ystadegau swyddogol fel un ystadegol arwyddocaol (Diversity of the judiciary: Legal professions, new appointments and current post-holders - 2022 Statistics).
145. Nodwn fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynigion i ehangu’r rolau cyfreithiol sydd ar gael i weithwyr cyfreithiol sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol i gynnwys Barnwr Uwch Dribiwnlys Cymru a Lloegr, ymysg eraill (Datganiad Llywodraeth y DU i’r wasg, 11 Mai 2023). Bydd ehangu’r gronfa y gellir gwneud penodiadau ohoni yn hybu rhagor o amrywiaeth yn y farnwriaeth dros amser. Roedd Comisiwn Thomas o’r farn bod Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol yn cynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, gyda thua 75 y cant o’i aelodau’n ferched a 70 y cant o’i aelodau dan 44 oed (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 9.20, tudalen 391). Mae’n cynnig llwybr mwy hygyrch at gymhwyster i lawer yng Nghymru:
Mae llwybr at gymhwyso fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol yn fwy hygyrch, hyblyg a fforddiadwy... Mae'n darparu llwybr nad yw drwy'r brifysgol i gyflawni cam academaidd yr hyfforddiant cyfreithiol. Gall myfyrwyr astudio, yn aml ar sail rhan amser, drwy golegau lleol neu drwy ddysgu o bell ac ar gyflymder o'u dewis; gallant fod mewn cyflogaeth berthnasol wrth wneud hynny. Mae'r Sefydliad yn amcangyfrif ei bod yn costio llai na £10,000 ar gyfartaledd i rywun gymhwyso fel Gweithredydd Cyfreithiol Siartredig sef llai o lawer na chost cymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 9.45, tudalen 401)
146. Ar hyn o bryd, dim ond mewn perthynas â phenodiadau i un o Dribiwnlysoedd Cymru y mae’n ofynnol i’r awdurdod penodi roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir. Tribiwnlys y Gymraeg yw’r tribiwnlys hwnnw, a Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi (Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) OS 2013 Rhif 3139 (Cy.312), Rheoliad 4.). Yn yr un modd, rydym yn ystyried y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir.
147. Rydym hefyd yn credu y dylai’r gronfa o ymgeiswyr sy’n gymwys i gael eu penodi fod yn un eang er mwyn annog pobl sydd â’r profiad, y cymwysterau a’r sgiliau priodol, gan gynnwys, er enghraifft, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad y Gweithredwyr Proffesiynol, i ymgeisio i ymuno â’r system dribiwnlysoedd newydd. Bydd casglu data ar ddangosyddion perfformiad allweddol a’u monitro yn un o swyddogaethau Bwrdd y corff hyd braich newydd. Credwn y dylai hyn gynnwys dangosyddion ar amrywiaeth aelodau tribiwnlysoedd a’r Gymraeg ar draws y system dribiwnlysoedd.
Telerau ac amodau penodi
148. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i osod y telerau a’r amodau, gan gynnwys taliad cydnabyddiaeth, ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru o dan y gwahanol fframweithiau deddfwriaethol sy’n llywodraethu pob un ohonynt. Rydym yn cynnig bod gan Weinidogion Cymru bŵer cyfatebol mewn perthynas â holl aelodau’r tribiwnlysoedd newydd, gan ei gwneud hi’n bosib rhoi sylw i wneud telerau ac amodau’n gyffredin, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol, ar draws yr amrywiol awdurdodaethau, yn ogystal â hwyluso trawsneilltuo.
Neilltuo
149. Mae trawsneilltuo, neu drawsdocynnu, yn ddull sy’n galluogi aelod o un o Dribiwnlysoedd Cymru i eistedd a gwrando ar achosion yn un o Dribiwnlysoedd Cymru ar wahân i’r un y penodwyd yr aelod iddo (Adran 62 o Ddeddf Cymru 2017). Mae hon yn ffordd hyblyg o neilltuo adnoddau i ddiwallu anghenion Tribiwnlysoedd Cymru sy’n bodoli eisoes. Nid yw’r system hon o neilltuo adnoddau’n hyblyg yn berthnasol ar draws yr holl dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ar hyn o bryd.
150. Gellir hefyd trawsneilltuo rhwng Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlys y DU, ac fel arall, os yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yn cytuno (Adran 63 o Ddeddf Cymru 2017).
151. Er mwyn hwyluso’r gwaith o leoli aelodau tribiwnlysoedd yn effeithiol ar draws y system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru ac ar draws y system ehangach o dribiwnlysoedd a gedwir, rydym yn cynnig y dylai system o drawsneilltuo aelodau barnwrol, cyfreithiol a chyffredinol weithredu yn y system dribiwnlysoedd newydd a’r system dribiwnlysoedd sydd ar waith yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Dylai fod yn amodol ar gymeradwyaeth briodol gan yr uwch arweinwyr barnwrol ar gyfer pob system dribiwnlysoedd. Yng Nghymru, ar Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru fydd y cyfrifoldeb hwn.
152. Rydym yn cynnig bod pwerau trawsneilltuo wedi’u cyfyngu i neilltuo i dribiwnlysoedd ar yr un lefel, ac felly, er enghraifft, gellid neilltuo barnwr neu aelod arall o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i safle cyfatebol mewn awdurdodaeth wahanol i awdurdodaeth y Siambr y mae wedi’i benodi iddi, ond ni ellir eu trawsneilltuo i Dribiwnlys Apêl Cymru.
Penodi Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
153. Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn benodiad gan yr Arglwydd Brif Ustus ac mae’r Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion Cymru yn ymgyngoreion yn hynny o beth. Mae gan yr Arglwydd Ganghellor swyddogaethau mewn perthynas â diswyddo’r Llywydd hefyd (Adran 60 a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 5 i Ddeddf Cymru 2017).
154. Rydym wedi ystyried y rhesymeg sy’n sail i’r trefniadau presennol ac a ydynt yn dal yn ddelfrydol ar gyfer swydd y Llywydd yn y system dribiwnlysoedd newydd. Rydym yn cynnig yn y paragraffau isod, mewn perthynas â phenodi aelodau tribiwnlysoedd, na ddylid cadw swyddogaethau awdurdod penodi presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â’r tribiwnlysoedd yn y system dribiwnlysoedd unedig newydd. Yn yr un modd, rydym yn cynnig na ddylid cadw swyddogaethau presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â phenodi’r Llywydd ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd.
155. Ein rhesymeg dros y cynnig hwn yw mai swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw’r barnwr uchaf yn system y tribiwnlysoedd datganoledig. Dylai’r swyddogaeth weithredol yn y broses o benodi’r Llywydd, sef cadarnhau cytundeb i’r Arglwydd Brif Ustus benodi person i’r swydd, gael ei harfer gan Weinidogion Cymru yn unig, sef ar y cyd â’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidogion yw Llywodraeth Cymru, gweithrediaeth Cymru.
156. Rydym o’r farn y dylid cael synergedd a chydlyniaeth rhwng prosesau penodi a disgyblu, fel y nodir yn y paragraffau isod. Felly, rydym yn cynnig na ddylid cadw swyddogaethau presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â diswyddo’r Llywydd ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd.
157. Fel y nodwyd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yw'r awdurdod penodi ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. O fewn hierarchaeth barnwyr, mae'n rhesymegol bod Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn eistedd o dan yr Arglwydd Brif Ustus, gan gynnwys o fewn system y tribiwnlysoedd datganoledig. Mae hefyd yn rhesymegol bod gan yr Arglwydd Brif Ustus rôl ym mhenodiad y Llywydd ac mewn materion sy'n ymwneud â disgyblaeth, yn enwedig o ran diswyddo. Ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Llywydd o reidrwydd gael ei benodi gan yr Arglwydd Brif Ustus. Felly, yn y system dribiwnlysoedd newydd, gallai’r trefniadau o ran awdurdod penodi'r Llywydd barhau fel y maent, neu gellid cael awdurdod penodi Cymreig.
158. Croesawn eich sylwadau ar y broses ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac a ddylai a sut y dylai ddatblygu fel rhan o’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru.
Troednodiadau
1. Gweler, er enghraifft, adran 4 a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, sy’n rhoi’r swyddogaeth i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd benodi aelodau cyffredin ac aelodau cyfreithiol Tribiwnlys Haen Gyntaf y DU. Yn ôl i destun.
2. Gweler, er enghraifft, adrannau 22 a 32 a pharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Tribiwnlysoedd (Yr Alban) 2014. Gweinidogion yr Alban yw’r awdurdod penodi ar gyfer penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf yr Alban a rhaid iddynt: ymgynghori â’r Arglwydd Lywydd cyn penodi Llywyddion Siambrau; a phenodi Dirprwy Lywyddion y Siambr os gofynnir iddynt wneud hynny gan Lywydd y Tribiwnlysoedd. Yn ôl i destun.