Bydd system ddigidol newydd i wasanaethau mamolaeth, a fydd yn cael ei defnyddio ar draws Cymru gyfan, yn gallu sicrhau bod gwybodaeth hanfodol am iechyd menywod beichiog, a’r babanod sydd heb eu geni, yn cael ei rhannu mewn modd llawer cyflymach. Mae’r system hon yn cael ei chreu o ganlyniad i fuddsoddiad o £7m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd system ddigidol newydd i wasanaethau mamolaeth, a fydd yn cael ei defnyddio ar draws Cymru gyfan, yn gallu sicrhau bod gwybodaeth hanfodol am iechyd menywod beichiog, a’r babanod sydd heb eu geni, yn cael ei rhannu mewn modd llawer cyflymach. Mae’r system hon yn cael ei chreu o ganlyniad i fuddsoddiad o £7m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd menywod beichiog yn gallu gweld eu cofnodion, yn ogystal â chael negeseuon amserol er mwyn helpu i sicrhau bod eu beichiogrwydd yn iach.
Ar hyn o bryd, mae’r holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn defnyddio systemau gwahanol, sef systemau digidol a phapur. Bydd creu un system ddigidol i Gymru gyfan yn golygu bod pob gweithiwr proffesiynol sy’n rhan o’r gofal a ddarperir yn gallu rhannu gwybodaeth hanfodol yn gynt, gan sicrhau bod y gofal yn ddi-dor, yn effeithiol ac yn ddiogel. Gallai hynny leihau’r posibilrwydd o gymhlethdodau’n codi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £7m i ddatblygu’r system newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf.
Dywedodd:
Mae nifer o adolygiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru a’r DU wedi galw am greu system ddigidol unedig.
Bydd y system hon yn fwy diogel ac effeithlon diolch i ddull cyflymach a gwell o rannu gwybodaeth. Bydd hefyd yn rhoi llawer mwy o reolaeth i fenywod dros eu cofnodion mamolaeth, gan eu galluogi i roi adborth i fydwragedd a meddygon yn gynt, drwy ddefnyddio ap, sy’n cofnodi pob un o’u trafodaethau â gweithwyr iechyd proffesiynol.
Drwy wella cywirdeb y data sy’n cael eu casglu, bydd y byrddau iechyd hefyd yn gallu cynllunio gwasanaethau mwy effeithiol.
Ychwanegodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:
Yn ystod cyfnod eu beichiogrwydd, bydd menywod yn gweld nifer o fydwragedd a meddygon gwahanol, weithiau ar draws gwahanol fyrddau iechyd, ac felly bydd gweithredu un system ddigidol ar draws Cymru gyfan yn gallu sicrhau bod y daith yn llawer mwy esmwyth.
Bydd hefyd yn lleihau biwrocratiaeth a helpu i osgoi dyblygu, gan ryddhau mwy o amser i’r gweithwyr iechyd proffesiynol ganolbwyntio ar bobl.
Drwy’r ap hwn, byddwn yn gallu anfon gwybodaeth at fenywod beichiog, sgan gynnwys cyngor iechyd, negeseuon atgoffa am bethau fel brechiad rhag y ffliw, yn ogystal â negeseuon meddygol pwysig personol.