Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddir y term 'symud gwartheg' i ddisgrifio'r weithred o symud gwartheg byw oddi ar ddaliad neu i mewn i ddaliad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n rhaid i chi hysbysu Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) ynghylch unrhyw symudiadau o fewn 3 diwrnod ac mae'n rhaid i chi ddiweddaru cofrestr eich buches o fewn 36 o oriau.

Mae enghreifftiau o symud gwartheg yn cynnwys:

  • gwerthiant preifat lle y mae anifail yn symud o un fferm i un arall
  • symud o fferm i ladd-dy, marchnad, cae sioe neu lety helfa
  • symud o farchnad neu gae sioe i fferm
  • symud rhwng buchesi a gaiff eu rheoli ar wahân ar yr un fferm

Mae'n rhaid i wartheg fod â'r canlynol fel y gellir eu symud:

  • tagiau swyddogol
  • pasbort gwartheg dilys
  • dim cyfnodau gwahardd symud na chyfyngiadau o ran symud mewn grym

Rhaid cofnodi pob symudiad ar bob pasbort gwartheg:

  • cyn i'r anifail adael y daliad (ar gyfer symudiadau oddi ar y daliad)
  • fewn 36 awr i’r anifail cyrraedd y daliad (ar gyfer symudiadau i’r daliad)

Mae'n rhaid i chi hefyd gydymffurfio ag amodau trwyddedau cyffredinol yng Nghymru.

Mae cyfyngiadau ynghlwm wrth wartheg a gafodd eu geni neu eu magu yn y DU cyn mis Awst 1996 ac wrth wartheg heb basbortau. Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais am drwydded arbennig gan BCMS er mwyn gallu eu symud.

Sut y dylech adrodd ynghylch symud gwartheg

  • hysbysu BCMS ar-lein ynghylch unrhyw symudiadau (dolen allanol)
  • ffonio Llinell Gymorth BCMS er mwyn adrodd ynghylch unrhyw symud 0345 050 3456
  • gallwch ddefnyddio meddalwedd fferm ar gyfer adrodd ynghylch unrhyw symud
  • gallwch ofyn i asiant neu ofyn i'ch marchnad wneud hyn ar eich rhan*

Mae Gov.UK wedi diweddaru ei ganllaw adrodd ar wartheg i gynnwys ffurflen i ofyn am adnabyddiaeth defnyddiwr CTS a / neu gyfrinair Gwasanaethau We CTS i gofrestru ar gyfer Gwasanaethau We CTS.

Oriau agor llinell gymorth BCMS yw dydd Llun hyd ddydd Gwener, 8:30am hyd 5pm. Mae'r llinell gymorth ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Codir cyfraddau lleol am bob galwad ffôn.

*Dylech ofyn i'ch marchnad a yw'n cynnig y gwasanaeth hwn. Os nad yw'n ei gynnig cofiwch adrodd ynghylch y symud.

Meddalwedd fferm

Dyma offeryn ar-lein a all eich helpu â'r canlynol:

  • sicrhau bod cofnodion eich fferm yn gyfredol
  • anfon gwybodaeth am unrhyw enedigaethau, symudiadau a marwolaethau yn syth i'r System Olrhain Gwartheg ar adeg sy'n gyfleus i chi
  • anfon gwybodaeth mewn modd diogel a dibynadwy gan dderbyn cadarnhad
  • sicrhau nad yw'r wybodaeth yn cynnwys unrhyw gamgymeriadau.

Dim mynediad at y rhyngrwyd?

Os nad oes gan eich fferm gyswllt â'r rhyngrwyd gallwch roi'r wybodaeth i'r System Olrhain Gwartheg gan ddefnyddio gwasanaeth ffôn wedi'i awtomeiddio.  

  • Cymraeg - 0345 011 1213
  • Saesneg - 0345 011 1212

Mae'r llinellau ffôn hyn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Chi, y ceidwad, sy'n parhau'n gyfrifol am hysbysu BCMS ynghylch unrhyw symudiadau o fewn 3 diwrnod.

Peidio ag adrodd

Gall peidio ag adrodd ynghylch symud gwartheg o fewn y cyfnod o dri diwrnod a nodir uchod arwain at y canlynol:

  • cosbau ariannol
  • gostyngiad yn y cymhorthdal trawsgydymffurfio y gallwch ei hawlio.

Bydd y methiannau hyn yn dod i'r amlwg yn ystod y canlynol:

  • unrhyw archwiliadau o wartheg
  • diffyg gwybodaeth ar y System Olrhain Gwartheg,
  • os caiff hanes symud anifail ei wirio.