Symud i ddysgu o bell tan 18 Ionawr 2021: hawliau plant
Asesiad effaith o symud i ddysgu o bell a'r effeithiau ar hawliau plant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyd-destun
Cyflwynwyd cyfyngiadau COVID-19 pellach yng Nghymru cyn y Nadolig, gan symud i lefel rhybudd 4 ar 26 Rhagfyr 2020, gydag ysgolion yn dychwelyd i weithredu fesul cam rhwng 4 a 18 Ionawr 2021.
Mae amrywiolyn newydd COVID-19 wedi achosi cynnydd yn nhrosglwyddiad y feirws ymhlith poblogaeth ysgolion, ond nid yw wedi achosi cynnydd yn nifrifoldeb y clefyd. Wrth geisio cael rhagor o ddata a thystiolaeth gan TAG, cynigir bod ysgolion yn parhau i weithredu o bell i bawb oni bai am blant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed. Rydym yn cynnig iganiatáu i leoliadau gofal plant barhau i fod yn agored a byddwn yn edrych ar sut y gallwn gyfathrebu ymhellach i sicrhau bod lleoliadau'n ymwybodol o'r camau y dylent eu cymryd i weithredu'n ddiogel. Byddwn yn gweithio gydag AGC ar y rhain.
Er ei bod yn anochel y bydd hyn yn effeithio ar hawliau plant, bydd rhywfaint o le i liniaru'r rhan fwyaf o'r effeithiau mwyaf sylweddol ac yn arbennig i’r dysgwyr hynny sydd fwyaf agored i niwed drwy eu caniatáu i fynychu’r ysgol. Fodd bynnag, ni fydd modd mynd i'r afael â phob effaith anghymesur a negyddol. Mae'r effeithiau negyddol hyn yn parhau i gael eu goddef ar sail y risg i iechyd y cyhoedd.
Bydd y defnydd o ddysgu o bell, ar ben y cyfnod estynedig o gyfyngiadau cychwynnol, y cyfnod atal byr, a’r cyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol, yn dwysáu'r effeithiau negyddol. Beth bynnag fo'r dull gweithredu, mae'n rhaid ystyried hawliau plant yn y broses o wneud penderfyniadau.
Drwy gydol y pandemig, mae adborth gan ein rhanddeiliaid, rhieni a phlant a phobl ifanc eu hunain wedi amlygu amrywiaeth o faterion o ran hawliau plant yn sgil y cyfnod clo a’r cyfyngiadau symud, y byddem yn awyddus i ddysgu ganddynt a'u hatal, cyn belled ag y bo'n ymarferol bosibl, rhag digwydd eto wrth symud i ddysgu o bell.
Dylai'r egwyddorion cyffredinol canlynol barhau i helpu i lywio penderfyniadau yn ymwneud â’n camau gweithredu fel y maent eisoes wedi gwneud drwy gydol y pandemig, ni waeth pa gyfyngiadau sydd ar waith yng Nghymru ar y pryd. Yr egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â'r cynnig presennol yw 1, 2, 6, 7, 10 ac 11.
Egwyddorion cyffredinol
- Dylai plant a phobl ifanc fod yn ddiogel, a chael eu gweld, eu clywed, eu meithrin a'u datblygu.
- Dylai plant allu mynd i'r ysgol a lleoliad gofal plant (gan gynnwys Dechrau'n Deg).
- Dylai plant allu mynd allan i chwarae a gwneud ymarfer corff.
- Dylid caniatáu i blant iau, dan 12 oed, gymysgu'n rhydd.
- Dylai gwasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd barhau i weithredu a gallu cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb lle mae angen y plentyn/teulu yn cyfiawnhau hynny. Efallai y bydd angen cymorth ar deuluoedd dan anfantais i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein – gan gynnwys cyfarpar TG a/neu ‘data’.
- Dylai plant ag anghenion ychwanegol gael yr asesiadau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt – gall hyn gynnwys swigen gefnogaeth ehangach ar gyfer teuluoedd/gwasanaethau er mwyn sicrhau na chaiff yr un teulu ei adael i ymdopi ar ei ben ei hun – gall olygu grŵp mwy yn mynd allan i wneud ymarfer corff i gefnogi'r plentyn.
- Ni ddylai'r un plentyn fynd heb fwyd.
- Dylai fod cymorth i rieni ar gael drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys mamau/rhieni newydd.
- Dylid cynnal asesiadau o ddatblygiad yn y blynyddoedd cynnar fel mater o drefn (wyneb yn wyneb lle bo angen yn unol â mesurau diogelu rhag COVID-19) a rhoi ymyriadau ar waith (e.e. iaith a lleferydd, golwg a chlyw).
- Dylid cyfathrebu ynghylch pob un o'r uchod yn glir, gan gynnwys gyda’r plant a’r pobl ifanc.
- Os caiff cyfyngiadau rhybudd lefel 4 eu cyflwyno a dysgu o bell yn elfen allweddol:
- dylid rhoi blaenoriaeth i blant agored i niwed drwy ddull gweithredu amlasiantaethol
- dylai fod cynllun cymorth ar waith ar gyfer plant ag anghenion dysgu penodol/ychwanegol
- dylid sicrhau bod gan blant gyfarpar TG a digon o ddata i'w galluogi i gymryd rhan mewn gwersi a chael gafael ar adnoddau addysgol ar-lein, yn ogystal â chysylltu â'u ffrindiau
- dylid cynyddu nifer y gwasanaethau trydydd sector, gwasanaethau mewn ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein. Dylid gweithredu ar sail risg i sicrhau bod y bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn parhau i gael eu cefnogi gan wasanaethau iechyd meddwl y GIG
- dylid cynnig cymorth ychwanegol i blant o deuluoedd nad Cymraeg/ Saesneg yw eu hiaith gyntaf, ochr yn ochr â'u rhieni
- dylid atgoffa pawb i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel ac yn gwybod i ble y gallant droi am help neu i drafod pryderon
- dylid cyfathrebu â phlant a phobl ifanc mewn iaith gysurlon, hawdd ei deall, ac egluro'r hyn sy'n digwydd a pham.
Beth sy'n cael ei gynnig?
Rydym yn cynnig symudiad ffurfiol tuag at ddysgu o bell tan 18 Ionawr – gan eithrio plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol. Bydd pob ysgol arbennig yn parhau’n agored.
Beth mae hyn yn ei olygu i blant a phobl ifanc?
Bydd y symudiad ffurfiol i ddysgu o bell yn fwyaf tebygol o gael effaith negyddol ar y plant hynny:
- nad oes ganddynt y cyfleusterau, y gallu na'r adnoddau i gael mynediad at ddysgu o bell yn rheolaidd na mewn modd strwythuredig
- sy’n byw mewn tai gorlawn lle nad oes ganddynt ofod preifat na phersonol
- sydd â gallu cyfyngedig neu sy’n methu cael mynediad at ddarpariaeth band eang/rhyngrwyd/ar-lein
- sy’n byw mewn cartref lle nad Cymraeg/Saesneg yw'r iaith gyntaf
- sy’n mynychu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ond does dim aelod o'u teulu yn siarad Cymraeg
- sydd eisoes wedi profi sawl cyfnod yn dysgu o bell o ganlyniad i un neu fwy o gyfnodau o hunanynysu
- a oedd wedi cychwyn llithro wrth gwblhau eu gwaith ysgol yn ystod y cyfnodau cychwynnol o gyfyngiadau symud ond a oedd yn cychwyn dod at eu hunain unwaith eto
- sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu bryderon a allai waethygu yn ystod cyfnod pellach o ddysgu o bell
- allai fod yn teimlo'n ynysig yn gymdeithasol.
Mae'r dull arfaethedig yn ddull gweithredu syml mae pobl ifanc wedi dweud eu bod yn ei ffafrio gan ei fod yn gwneud pethau'n fwy syml iddynt eu deall. Y tri prif beth yr oedd y rheolau aros gartref wedi cael yr effaith fwyaf arnynt yn ôl pobl ifanc (12-18 oed) oedd 'methu treulio amser gyda fy ffrindiau' (72%), ‘ddim yn gallu gweld aelodau o fy nheulu’ (59%) ac ‘ysgolion a cholegau ar gau’ (42%) (Arolwg Coronafeirws a fi).
Mae'r dull arfaethedig yn golygu na fydd plant a phobl ifanc yn gallu cyfarfod â ffrindiau neu unigolion y tu allan i'w haelwyd oni bai eu bod yn blentyn sy’n agored i niwed neu'n blentyn i weithiwr hanfodol ac yn gallu mynychu'r ysgol. Bydd pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd a dylai dysgu o bell, os yw'n bosibl, roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc siarad â'i gilydd yn ogystal â’u hathrawon neu oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo.
Mae'r dull arfaethedig yn galluogi i addysg a dysgu gael eu darparu i ddysgwyr o bell. Mae ysgolion yn gwella eu darpariaeth dysgu o bell. Bydd ysgolion yn cael cyfle i gefnogi'r plant y maent yn pryderu fwyaf amdanynt. Cytunwyd eisoes ar y diffiniad fel y nodir isod gyda CCAC:
Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gydweithio i adnabod y plant y mae eu hanghenion yn golygu, fel eithriad, y gallent fynychu'r ysgol. Wrth wneud hynny dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ystyried yr egwyddorion canlynol:
- dylem sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel, a chael eu gweld, eu clywed, eu meithrin a'u datblygu
- yn ystod y cyfnod atal byr hwn ni all plant a phobl ifanc o flynyddoedd 9-13 fynychu'r ysgol ar gyfer derbyn eu haddysg. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gydweithio i adnabod y rhai a fyddai'n elwa'n eithriadol o gael mynediad i'r ysgol
- dylai'r penderfyniad ystyried effaith unrhyw gyfyngiadau ar iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol y plentyn neu'r person ifanc, a’i ddatblygiad addysgol
- dylai'r penderfyniad ystyried sut y gellid lliniaru risgiau o beidio â mynychu'r ysgol drwy'r cymorth mwyaf priodol i'r plentyn neu'r person ifanc
- dylai'r penderfyniad ystyried barn y plentyn neu'r person ifanc a'u rhieni/gofalwyr, fel y gellir deall eu hanghenion a darparu cefnogaeth yn y modd mwyaf priodol
- dylai plant a phobl ifanc gael eu categoreiddio yn ôl penderfyniadau am y risgiau a'r manteision iddynt, a'u blaenoriaethu yn unol â hynny ar gyfer cefnogaeth
- dylid hysbysu rhieni a gofalwyr am y penderfyniad
- dylid adolygu’r risgiau i blant a phobl ifanc a'u monitro'n mewn modd amlasiantaethol yn rheolaidd.
Mae'n hanfodol bod yr ysgol yn parhau i ymgysylltu'n weithredol â dysgwyr o bell os nad ydynt yn mynychu safle'r ysgol ac mae canllawiau ar Ddysgu ar gael i gefnogi ysgolion a lleoliadau i wneud hynny.
Mae canllawiau ar gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais wedi'u cyhoeddi a gallent helpu i nodi a chefnogi dysgwyr a allai elwa ar gymorth ychwanegol.
Erthyglau allweddol sy'n ymwneud â'r broses hon o wneud penderfyniadau:
Erthygl 6: Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach.
- Mae'r hawl i fyw yn fwy na chadw'n ddiogel rhag y feirws. Mae'n ymwneud â datblygu'n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol.
- Mae'r gallu i chwarae a gwneud ymarfer corff yn hanfodol i ddatblygiad corfforol plentyn a'i iechyd meddwl a'i les.
Yn unol â lefel 4, mae gwasanaethau wedi symud i ddarparu cymorth ar-lein a chymorth rhithiol yn unig, gyda chymorth wyneb yn wyneb yn cael ei gyfyngu i gymorth brys neu pan fydd plentyn mewn perygl.
Lefel 4 sy’n peri’r risgiau mwyaf o ran methu â gweld plant a phobl ifanc, a phryderon o ran diogelu a fyddai'n deillio o hynny. Gall y cyfyngiadau hyn gael cryn effaith andwyol ar iechyd meddwl rhieni a datblygiad a dysgu plant, gan arwain at lu o faterion y gall fod angen ymyriadau sylweddol a chostus i fynd i’r afael â nhw ac, mewn nifer bach o achosion, na ellir eu gwrthdroi. At hynny, bydd angen lliniaru’r effaith ar iechyd meddwl a chorfforol plant a phobl ifanc a nodwyd yn yr ymatebion i arolwg Coronafeirws a fi. Efallai na fydd modd i rai gwasanaethau iechyd weithredu i'r eithaf yn ystod cyfnod o gyfyngiadau lefel 4 eu cyflwyno, a gallai hyn gael effaith andwyol ar blant a phobl ifanc sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, e.e. cymorth iechyd meddwl.
Er hynny, Bydd gofal plant ac ysgolion yn parhau i weithredu yn y cyfnod hyd at 18 Ionawr 2021 drwy ddysgu o bell i blant oedran ysgol ac eithrio plant sy'n agored i niwed, plant i weithwyr hanfodol a'r rhai sy'n mynychu ysgol arbennig.
Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i addysg.
- Roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn mwynhau peidio â mynd i'r ysgol neu fod yn well ganddynt ddysgu gartref os oeddent yn anabl.
- Roedd ymatebwyr o gefndir ‘Du Cymreig’ neu ‘Du Prydeinig” 7-11 oed yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod yn teimlo'n hyderus neu'n hyderus iawn am eu haddysg nag ymatebwyr o gefndir ‘Gwyn Cymreig’ neu ‘Gwyn Prydeinig’.
- Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod yn poeni am fynd ar ei hôl hi gyda’u haddysg, ac yn poeni am ddechrau blwyddyn ysgol newydd neu ysgol newydd ym mis Medi.
- Roedd plant a phobl ifanc BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud bod cau llyfrgelloedd wedi effeithio ar eu dysgu, a hynny ar draws yr ystodau oedran. Roedd plant 7-11 oed yn fwy tebygol o lawer o ddweud bod cau canolfannau cymunedol a methu â mynd allan i’r awyr agored wedi effeithio ar eu dysgu.
- Mae anghenion digidol wedi ei gwneud hi'n anodd i rai plant gael gafael ar help a chymorth – gallai hyn fod am nad oes ganddynt gyfarpar TG neu am nad oes ganddynt ddigon o 'ddata' i fanteisio ar gyfleoedd dysgu ar-lein neu wasanaethau cymorth perthnasol. Mae angen inni sicrhau nad yw teuluoedd yn wynebu anfantais oherwydd tlodi a/neu ddiffyg TG a data. Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru eu bod yn cael eu profi a'u hasesu'n gyson yn yr ysgol a bod y pwysau yn ormod. Hefyd, gwnaethant ddweud bod y rhai hynny a oedd yn cael eu haddysgu gartref yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.
Mae'r dull arfaethedig yn caniatáu i addysg ddigwydd, er bod hynny o bell, ac i raim yn ffordd fwy cyfyngedig. At ei gilydd, mae'n debygol y bydd cyfyngiadau lefel 4 yn cael effaith andwyol sylweddol iawn ar blant anabl (os nad oes modd iddynt fynychu eu hysgol arbennig neu gael mynediad at gefnogaeth a chymorth o bell a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, plant sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, sydd â phroblemau iechyd meddwl, a rhai plant Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Yn gyffredinol, mae plant a phobl ifanc o blaid parhau â'u haddysg a mynychu'r ysgol a'r coleg[1]. Yn ystod trafodaeth ddiweddar â Phrif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (19 Tachwedd 2020), gofynnwyd i bobl ifanc am eu barn am addysg yn ystod y cyfnod atal byr, a nodwyd y canlynol:
- dim ond fel dewis olaf y dylid ystyried sesiynau ar-lein am fod rhai pobl ifanc yn teimlo'n llai hyderus yn e-bostio i ofyn am help; mae'n llawer haws gwneud hynny wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth
- gall sesiynau ar-lein weithio’n dda iawn os cânt eu defnyddio’n briodol gyda’r cymorth cywir, ond mae achosion o athrawon yn anfon dogfennau PowerPoint neu swmp o waith at bobl ifanc, ac yn peidio â chysylltu â nhw ar ôl hynny
- roeddent yn teimlo eu bod wedi cael llawer llai o amser i ddod i adnabod eu hathrawon felly nid oeddent bob amser yn teimlo’n gyfforddus yn ofyn am help – mae’n bosibl mai dim ond am ran o hanner cyntaf y tymor y bu rhai ohonynt yn yr ysgol yn sgil gofynion hunanynysu, felly nid oeddent wedi meithrin cydberthynas ag athrawon newydd
- mae rhai wedi bod yn wynebu problemau tlodi digidol – nid yn unig o ran dyfeisiau ond o ran cysylltiadau Wi-Fi da hefyd
- nid oedd cymaint o archwiliadau llesiant wedi’u cwblhau y tro hwn – roedd dogfen PowerPoint ar ymwybyddiaeth ofalgar wedi’i hanfon
- teimlwyd ei bod wedi’i hanfon dim ond er mwyn gwneud hynny. Mynegwyd pryderon am y rhai mewn aelwydydd nad ydynt yn iach a theimlwyd efallai y dylid galw ar y rhain hefyd
- mae ysgolion arbennig yn agored drwy gydol y cyfnodau clo, gan addasu eithaf tipyn a bod yn hyblyg er mwyn gwneud ein gorau glas.
Yn y tymor hwy, mae’r canlyniadau sy’n gysylltiedig ag addysg fylchog neu gyfyngedig yn barhaus, yn creithio ac yn arwain at:
- llai o allu neu awydd i gael mynediad at addysg bellach neu uwch
- llai o bosibiliadau o ran cyflogaeth
- lefelau tlodi uwch, a chynnydd yn y bwlch cyrhaeddiad
- mwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- mwy o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau
- iechyd gwael.
Er nad yw’r gallu i gael addysg yn lliniaru pob effaith economaidd-gymdeithasol, mae’n amlwg bod addysg o ansawdd uchel yn helpu i unioni amrywiaeth o ffactorau tymor hwy. Caiff hyn ei gydnabod yn Symud Cymru Ymlaen. At hynny, byddai cynnal amser mewn ysgolion yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon ynghylch cymdeithasoli, unigedd ac iechyd meddwl.
[1] Mae hyn yn cyfeirio at adborth a thrafodaeth a gafwyd cyn yr amrywiolyn newydd.
Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i roi tawelwch meddwl i blant?
Mae plant wedi bod yn teimlo'n bryderus, ac maent yn parhau i deimlo felly, ac mae ganddynt gwestiynau am sut y bydd y cyfyngiadau yn effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u dyfodol. Mae achosion o gyfathrebu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc wedi'i groesawu. Mae hynny'n helpu plant i ddeall pam y gallant/na allant fynd i'r ysgol, gweld eu ffrindiau ac aelodau o'r teulu, neu gymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol. Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi'r amser yr oedd Prif Weinidog Cymru wedi ei roi i egluro'r rhesymau dros wneud y penderfyniadau hyn. Er mwyn cydymffurfio â'r CCUHP, rhaid inni barhau i ofyn am eu barn drwy'r cyfnod nesaf hwn.
Gallwn ddefnyddio'r ymgyrchoedd cyfathrebu presennol, a rhwydweithiau, i rannu gwybodaeth a chyngor â rhieni, er enghraifft ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo, y gellir ei defnyddio i rannu negeseuon â rhieni, tudalen Facebook Dechrau'n Deg; ein Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Fagu Plant a'n Rhwydweithiau Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Gofal Plant.
Gallai gwybodaeth a chyngor a rennir yn y ffordd hon gynnwys:
- sut y gall rhieni roi tawelwch meddwl i'w plant ac egluro'r hyn sy'n digwydd
- sut y gall rhieni gefnogi eu plant i barhau i fwynhau rhai o'u hawliau hanfodol, e.e. yr hawl i ymlacio a chwarae. O ran addysg, sianeli cyfathrebu addysg fyddai'n arwain, ond gallai rhwydweithiau rhieni ac ymgyrchoedd cyfathrebu gyfeirio, etc, a sut y gall plant gefnogi eu hiechyd meddwl eu hunain drwy ddulliau ar-lein
- nodi gwasanaethau sy'n parhau’n agored – gwasanaethau plant, gwasanaethau iechyd meddwl etc, a sut i gysylltu â nhw
- darparu cwestiynau cyffredin hawdd eu darllen i blant a rhieni drwy ysgolion a cholegau
- ond mae bwlch amlwg yn y wybodaeth sydd ar gael i bobl ifanc, y sianeli a ddefnyddir, amseru'r wybodaeth a roddir iddynt a'u dealltwriaeth ohoni. Rhaid inni hefyd sicrhau y caiff ein gwybodaeth a'n negeseuon eu hysgrifennu mewn ffordd y gall plant a phobl ifanc ei deall.
Pa rai o hawliau CCUHP sy’n llywio ein penderfyniadau?
Erthygl 1: Mae gan bob un dan ddeunaw oed yr hawliau sydd yn y Confensiwn hwn.
Erthygl 2: Mae’r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn yn ddiwahân beth bynnag fo’i ethnigrwydd, ei ryw, ei grefydd, ei iaith, ei alluoedd neu unrhyw statws arall, beth bynnag y mae’n ei feddwl neu’n ei ddweud waeth beth fo’i gefndir teuluol.
Erthygl 3: Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i bob plentyn.
Erthygl 6: Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach.
- Mae'r hawl i fyw yn fwy na chadw'n ddiogel rhag y feirws. Mae'n ymwneud â datblygu'n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol.
- Mae'r gallu i chwarae a gwneud ymarfer corff yn hanfodol i ddatblygiad corfforol plentyn a'i iechyd meddwl a'i les.
Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.
Mae arolwg ‘Coronafeirws a Fi’ wedi rhoi cipolwg ar farn 23,700 o blant a phobl ifanc 3-18 oed a ddewisodd ymateb i’r arolwg ym mis Mai/Mehefin 2020. Nodir rhai o’r canfyddiadau isod. Dywedwyd:
- bod ganddynt bryderon ynglŷn â pha mor hir y byddai’r sefyllfa’n parhau ac ofnau y bydden nhw neu eu hanwyliaid yn dal y feirws. Roedd rhai yn teimlo eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel ar adeg pan oedd niferoedd dyddiol y marwolaethau yn lleihau ac nad oedd y feirws yn effeithio cymaint ar blant. Mae’n bosibl eu bod yn teimlo’n wahanol nawr bod y cyfraddau heintio’n cynyddu ac bod y feirws yn tarfu ar eu bywydau eto
- bod plant anabl yn fwy tebygol o boeni am y feirws ac roeddent yn poeni am ei ddal
- mai’r tri phrif beth yr oedd y rheolau aros gartref wedi effeithio arnynt ym marn pobl ifanc (12-18 oed) oedd 'methu bod
- gyda fy ffrindiau' (72%), ‘ddim yn gallu gweld aelodau o fy nheulu’ (59%) ac ‘ysgolion a cholegau ar gau’ (42%)
- nododd pobl ifanc 12-18 oed bryderon am eu haddysg: dim ond 11% o’r ymatebwyr yn y grŵp oedran hwn a ddywedodd nad oeddent yn poeni am eu haddysg. Y prif bryder a fynegwyd ganddynt oedd y byddent yn mynd ar ei hôl hi (54%). Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn poeni am fynd ar ei hôl hi gyda’u haddysg
- Y prif rwystrau i ddysgu gartref oedd mynediad at ddyfeisiau electronig a phwysau yn amgylchedd y cartref. Nodwyd hefyd heriau penodol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol
- dim ond 17% o bobl ifanc oedd yn teimlo’n hapus bod arholiadau wedi cael eu canslo. Roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo’n ansicr (51%) neu’n bryderus (18%). Hefyd, dywedodd pobl ifanc eu bod yn teimlo’n ddig (6%) ac yn drist (5%)
- dywedodd y mwyafrif o’r plant eu bod yn chwarae mwy na’r arfer (53%) gan ddisgrifio ystod eang o fathau o chwarae ar-lein ac all-lein, gan gynnwys chwarae yn yr awyr agored, chwarae dychmygol, chwarae â theganau neu gemau, chwaraeon, a chwarae creadigol. Roedd hyn yn ystod y cyfnod pan newidiwyd y rheoliadau i ganiatáu i blant fynd allan i chwarae a gwneud ymarfer corff yn fwy aml. Roedd plant BAME yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn chwarae llai
Mae’n bwysig ein bod yn parhau i wrando ar blant a phobl ifanc a defnyddio eu hymatebion i lywio penderfyniadau allweddol sy’n effeithio arnynt. Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi’r gallu i siarad yn uniongyrchol â Phrif Weinidog Cymru ym mis Hydref 2020 er mwyn iddo allu clywed eu barn. Dywedwyd:
- eu bod yn poeni'n fawr am gael eu hasesu a’u profi’n gyson yn yr ysgol
- eu bod yn ei chael hi’n anodd sicrhau cydbwysedd rhwng amser ar gyfer addysg ac amser ar gyfer y teulu yn y cartref
- eu bod yn ei chael hi’n anodd derbyn na allant gyfarfod â ffrindiau ysgol y tu allan i’r ysgol
- eu bod am weld yr un rheolau ledled Cymru gyfan
- eu bod am i wybodaeth fod yn hygyrch ac ar gael drwy’r sianeli cyfryngau a ddefnyddir ganddynt
- eu bod am gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu a mynychu clybiau ieuenctid sydd wedi’u trefnu.
Erthygl 13: Mae gan blant yr hawl i leisio eu meddyliau a'u barn a chael a rhannu gwybodaeth ar yr amod nad yw’r wybodaeth yn niweidiol iddyn nhw nac i eraill.
- Mae pobl ifanc wedi dweud eu bod am gael rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw, beth bynnag fo’u cefndir.
- Mae angen inni sicrhau bod negeseuon yn briodol i ystodau oedran a lefelau dealltwriaeth gwahanol.
- Dylai Gweinidogion siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc er mwyn clywed eu barn a’u pryderon. Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru nad oeddent prin yn gwylio’r teledu. Gwnaethant ofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Gwnaethant ddweud bod digwyddiadau’r wasg yn dueddol o gael eu cynnal amser cinio pan oeddent yn yr ysgol.
Erthygl 17: Mae gan blant yr hawl i wybodaeth ddibynadwy gan y cyfryngau torfol. Dylai teledu, radio a phapurau newydd roi gwybodaeth y gall plant ei deall ac ni ddylent hybu deunyddiau a allai niweidio plant.
- Mae pobl ifanc wedi dweud eu bod am gael rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw, beth bynnag fo’u cefndir.
- Mae angen inni sicrhau bod ein negeseuon yn briodol i ystodau oedran a lefelau dealltwriaeth gwahanol.
- Dylem geisio cyrraedd plant a phobl ifanc drwy amrywiaeth o sianeli cyfryngau a gofyn iddynt am eu hadborth.
Erthygl 23: Dylai plant sydd ag anabledd o unrhyw fath gael gofal arbennig a chefnogaeth fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol.
- Mae rhieni plant ag anghenion ychwanegol wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi'u diystyru, a'u bod yn ansicr ynghylch ble i droi am help a chymorth.
- Roedd plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o gyfeirio at yr effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl wrth ymateb i'r arolwg.
- Mynegwyd pryderon am y gwaharddiad cyffredinol cychwynnol ar fynd allan i'r awyr agored mwy nag unwaith y dydd – penderfynodd rhai rhieni dorri'r gyfraith er mwyn sicrhau y gallent roi'r 'gofal gorau' i'w plentyn.
- Byddai negeseuon clir a syml am oddefebau posibl yn helpu teuluoedd â phlant a phobl ifanc ag ADY.
Erthygl 26: Dylai’r Llywodraeth roi mwy o arian ar gyfer plant teuluoedd mewn angen.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu teuluoedd sydd mewn tlodi drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, Prydau Ysgol Am Ddim, banciau bwyd, ac ati – mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu.
- Dywedodd y plant BAME a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn fwy tebygol o ddweud bod angen help arnynt i sicrhau bod gan eu teulu ddigon o fwyd. Maent yn fwy tebygol o nodi arwyddion o ansicrwydd bwyd. Mae hyn hefyd wedi'i nodi gan randdeiliaid syn gweithio'n uniongyrchol gyda'r gymuned BAME.
Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu:
- mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu teuluoedd sydd mewn tlodi drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, Prydau Ysgol Am Ddim, banciau bwyd, etc – mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu
- rhoi cyllid i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi cydberthnasau rhwng rhieni.
Erthygl 27: Mae gan blant yr hawl i safon bywyd sy'n ddigon da i ymateb i'w hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai'r Llywodraeth helpu rhieni na allant fforddio darparu hyn.
- Mae plant a phobl ifanc BAME yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai gorlawn ac o ansawdd is, sy'n ei gwneud hi'n anos aros gartref a dysgu gartref.
- Nododd plant a phobl ifanc BAME fod y cyfyngiadau wedi effeithio ar eu gallu i gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, a bod prinder lle neu fyw mewn tai gorlawn wedi gwneud hyn yn anos.
- Roedd plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o nodi effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a bod cau gwasanaethau yn cael effaith fawr ar y ffordd roeddent yn teimlo.
Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu:
- mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu teuluoedd sydd mewn tlodi drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, Prydau Ysgol Am Ddim, banciau bwyd, ac ati – mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu
- plant sydd mewn perygl o oedi wrth ddatblygu drwy'r Gronfa Datblygu Plant a'r gronfa Dal i Fyny ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol statudol.
Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
- Roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn mwynhau peidio â mynd i'r ysgol neu fod yn well ganddynt ddysgu gartref os oeddent yn anabl.
- Roedd ymatebwyr Du Cymreig neu Brydeinig 7-11 oed yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod yn teimlo'n hyderus neu'n hyderus iawn am eu haddysg nag ymatebwyr Gwyn Cymreig neu Brydeinig.
- Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod yn poeni am fynd ar ei hôl hi gyda’u haddysg, ac yn poeni am ddechrau blwyddyn ysgol newydd neu ysgol newydd ym mis Medi.
- Roedd plant a phobl ifanc BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud bod cau llyfrgelloedd wedi effeithio ar eu dysgu, a hynny ar draws yr ystodau oedran. Roedd plant 7-11 oed yn fwy tebygol o lawer o ddweud bod cau canolfannau cymunedol a methu â mynd allan i’r awyr agored wedi effeithio ar eu dysgu.
- Mae anghenion digidol wedi ei gwneud hi'n anodd i rai plant gael gafael ar help a chymorth – gallai hyn fod am nad oes ganddynt gyfarpar TG neu am nad oes ganddynt ddigon o 'ddata' i fanteisio ar gyfleoedd dysgu ar-lein neu wasanaethau cymorth perthnasol. Mae angen inni sicrhau nad yw teuluoedd yn wynebu anfantais oherwydd tlodi a/neu ddiffyg TG a data. Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru eu bod yn cael eu profi a'u hasesu'n gyson yn yr ysgol a bod y pwysau yn ormod. Hefyd, gwnaethant ddweud bod y rhai hynny a oedd yn cael eu haddysgu gartref yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.
Erthygl 29: Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a doniau pob plentyn yn gyflawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a’u diwylliant nhw ac eraill.
- Mae pobl ifanc wedi mynegi pryderon am eu dyfodol eu hunain o ran cyfleoedd addysg a chyflogaeth.
- Roedd ymatebwyr BAME yn llai tebygol o lawer o ddweud eu bod wedi bod yn dysgu sgiliau newydd nag ymatebwyr Gwyn Cymreig neu Brydeinig (ymhlith y grŵp oedran 7-11 oed), ond roeddent yn fwy tebygol o lawer o ddweud hyn nag ymatebwyr Gwyn Cymreig neu Brydeinig yn y grŵp oedran 12-18 oed.
- Roedd ymatebwyr BAME yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod wed bod yn darllen ac yn ysgrifennu (ymhlith y grŵp oedran 12-18 oed), ac yn coginio (ymhlith y grŵp oedran 7-11 oed) yn ystod y cyfyngiadau symud.
Erthygl 31: Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau.
- Roedd ymatebwyr BAME yn llawer llai tebygol o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ar draws y grwpiau oedran.
- Roedd plant BAME 7-11 oed yn llawer llai tebygol o ddweud eu bod yn chwarae'n fwy aml nag o'r blaen. Dywedodd pobl ifanc wrth Brif Weinidog Cymru eu bod am gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi'u trefnu.
- Hefyd, dywedwyd eu bod am gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid wedi'u trefnu.